Mae Plaid Cymru’n galw ar San Steffan i dalu’n llawn i ddiogelu tomenni glo, a chymunedau Cymru yn sgil hynny.

Dydy deddfwriaeth yn unig ddim yn ddigon, yn ôl Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.

£600m yw’r gost lawn er mwyn adfer tomenni glo dros y degawd nesaf, medd Plaid Cymru, sydd am weld cymunedau’n cael eu hamddiffyn a thrychinebau’r dyfodol yn cael eu hatal.

Bil Mwyngloddiau a Chwareli (Cymru)

Mae’r Bil Mwyngloddiau a Chwareli (Cymru), sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 9) yn cael ei ddisgrifio fel “cam pwysig” tuag at fynd i’r afael â pheryglon diogelwch tomenni glo.

Ond mae Plaid Cymru’n dweud bod angen arian hefyd.

Methodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ag ymrwymo i ariannu diogeli tomenni glo yn llawn yng Nghyllideb yr Hydref, gan gyhoeddi £25m yn unig, er bod y mater yn un o bwys cyn datganoli.

Yn dilyn y tirlithriad mawr uwchben Tylorstown yn Rhondda Fach yn 2020 a’r tirlithriad diweddar yng Nghwmtyleri yn dilyn Storm Bert, mae Plaid Cymru’n dweud bod angen cyllid hirdymor i atal y risg o dirlithriadau yn y dyfodol oherwydd tywydd cynyddol eithafol ac ansefydlogrwydd tomenni.

Deddfwriaeth “ddim yn ddigon”

“Mae’r Bil Mwyngloddiau a Chwareli (Cymru) yn gam pwysig tuag at fynd i’r afael â’r risg diogelwch brys gaiff ei achosi gan domenni glo segur Cymru,” meddai Delyth Jewell, llefarydd newid hinsawdd Plaid Cymru.

“Ond dyw deddfwriaeth yn unig ddim yn ddigon.

“Gyda channoedd o domenni risg uchel a miloedd yn fwy ledled y wlad, ni allwn orbwysleisio’r brys sydd angen i sicrhau’r £600m llawn o San Steffan i adfer tomenni glo yng Nghymru ac atal trychinebau yn y dyfodol.

“O ystyried y tywydd cynyddol eithafol yr ydym yn ei brofi, mae risg uwch o dirlithriadau ac ansefydlogrwydd tomen.

“Nid yw’r £25m y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano i glirio tomenni glo am fynd yn bell iawn.

“Mae tomenni glo yn ein hatgoffa’n ddyddiol o waddol mwyngloddio glo ar ein cymunedau a’r hanes o gael ein hecsbloetio.

“Eto i gyd, mae San Steffan wedi methu â chymryd cyfrifoldeb am yr anghyfiawnder hanesyddol hwn.

“Mae Plaid Cymru yn glir: mae pobol ledled Cymru yn haeddu teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dalu’n llawn i wneud pob tomen lo yng Nghymru yn ddiogel – byddai unrhyw beth llai yn frad i’r cymunedau wnaeth pweru’r chwyldro diwydiannol.”

‘Cymunedau’n fregus’

“Mae’r stormydd diweddar wedi ein hatgoffa pa mor fregus yw cymunedau ledled Cymru yn sgil tomenni glo yn llithro,” meddai Joel James, llefarydd partneriaeth gymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig.

“Rydyn ni’n wynebu heriau niferus wrth eu diogelu nhw, nid yn unig yn sgil y tywydd ond hefyd yn sgil beiciau sgramblo a cherbydau 4×4 oddi-ar-y-ffordd, sy’n defnyddio’r tomenni fel maes chwarae, gan rwygo’r wyneb a’u dadsefydlogi nhw.”

Ychwanega fod ei blaid yn croesawu’r ddeddfwriaeth yr wythnos hon, “gan geisio sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i atal difrod gan sgramblwyr a cherbydau 4×4 oddi-ar-y-ffordd, bod cymunedau’n rhan o’r broses o wneud penderfyniadau i ddiogelu tomenni glo, a bod bioamrywiaeth yn cael ei gwarchod”.