Dyma eitem sy’n edrych ar rai o hoff lefydd darllenwyr golwg360. Mae’r eitemau wedi cael eu sgwennu gan ddysgwyr Cymraeg. Y tro yma, Jen Hawkins sy’n dweud pam ei bod yn hoffi Powys lle mae hi’n byw.
Mae Jen yn dod o Cumbria yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Nhrefaldwyn…
Fy hoff le yng Nghymru ydy Sir Powys. Mae hi ynghanol Cymru, fel calon y wlad.
Dw i’n hoffi Powys achos mae’n sir dawel. Os dach chi’n hoffi lle efo llawer o bobl, peidiwch ȃ mynd i Bowys! Does dim dinas ym Mhowys, dim ond trefi marchnad bach. Mae gynnon ni fwy o ddefaid na phobl! Un peth arbennig am Bowys ydy’r gymuned, mae’r bobl yn wych, yn gyfeillgar a charedig.
Un peth arbennig arall ydy’r tir. Mae hi’n dir gwyllt a gwyrdd. Mae llawer o goedwigoedd, afonydd a mynyddoedd. Mae gynnon ni Fynyddoedd Cambria yng ngogledd Powys a’r Mynyddoedd Duon yn ne Powys ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae Afon Hafren yn dechrau’n uchel ym Mynyddoedd Cambria, mewn lle gwyllt o’r enw Pumlumon. Afon Hafren ydy’r afon hiraf ym Mhrydain. Dw i’n mwynhau nofio yn yr afon, gwylio’r adar, a gwrando ar eu caneuon. Mae hi’n ffordd dda i ofalu am fy iechyd meddwl.
Dw i’n lwcus iawn i fyw yng ngogledd Powys. Bob dydd dw i’n teimlo’n ddiolchgar i fyw mewn lle mor hyfryd.
Mae Powys yn lle diwylliannol hefyd. Roedd y ffilm yn seiliedig ar stori Dylan Thomas, Nadolig Plentyn yng Nghymru wedi cael ei ffilmio yn Nhrefaldwyn. Mae hi’n ddiddorol i wylio’r ffilm ac adnabod llefydd yn y dre.
Oes gynnoch chi hoff le yng Nghymru? Beth am ysgrifennu at bethanlloyd@golwg.cymru