Mae’n 52 o flynyddoedd (Mehefin 8, 1972) ers i Huynh Cong “Nick” Ut lwyddo i grisialu gwewyr Rhyfel Fietnam i un llun – y llun eiconig hwnnw o ferch fach naw mlwydd oed yn dianc rhag y ffrwydradau napalm: Phan Thi Kim Phuc, yn rhedeg, a’r napalm fel tân gludiog, ysol ar ei chnawd. Yn y llun, gwelwn eraill, plant a milwyr, ond ni welwn mohonyn nhw rywsut, gan fod poen enbyd y ferch fach hon yn llenwi’r llun. Bu’r llun yn gyfrwng i hoelio sylw pobol ar effaith affwysol o greulon y bomiau cyneuol (incendiary weapons) ddefnyddiodd yr Unol Daleithiau a’u cynghreiriaid yn ne-ddwyrain Asia.
Yn y degawd wedi diwedd y rhyfel (1975), daeth gwir effaith bomiau cyneuol ar y boblogaeth sifil yn Fietnam yn amlwg, a bu gwthio call a chyson am ddeddfwriaeth ryngwladol newydd i gyfyngu ar y defnydd o fomiau ac arfau cyneuol. Cwblhawyd Protocol III (Incendiary Weapons) i’r Convention on Certain Conventional Weapons (CCW neu CCWC) gan y Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa ym mis Hydref 1980, ac fe ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 1983. Cydnabyddir yn lled gyffredinol fod Protocol III yn rhy llac o lawer ers y dechrau!
Heddiw, mae’n ffaith ddiymwad fod plant yn parhau i ddioddef oherwydd bwledi a thaflegrau cyneuol. Y mwyaf cyffredin ei ddefnydd ar feysydd cad ein cyfnod ninnau yw ffosfforws gwyn. Ym mis Mehefin 2009, cafodd merch fach wyth mlwydd oed – Razia – ei llosgi pan chwyrlïodd siel dân ffosfforws gwyn trwy gartref y teulu yn Nyffryn Tagab, yn nhalaith Kapisa, Affganistan. Wrth dderbyn gofal meddygol, gwelwyd haenen o bowdr gwyn, blawd-debyg – y ffosfforws gwyn – dros gnawd yr un fach, a hwnnw’n cynnau ac ail gynnau’n fflam wrth i’r meddygon weithio i’w dynnu oddi ar ei chroen. Nid oedd lladmerydd lluoedd arfog yr Unol Daleithiau yn gwbl sicr ai nhw neu’r Taliban oedd ‘piau’ y siel dân fflamiodd drwy gartref Razia a’i theulu. Mae tystiolaeth ddigonol gan fudiadau fel Amnest Rhyngwladol a Human Rights Watch fod lluoedd arfog Israel yn defnyddio ffosfforws gwyn nawr yn Gaza a Libanus.
Mae Protocol III yn gwahardd taflegrau ffosfforws gwyn gafodd eu cynllunio’n uniongyrchol i ddifa, llosgi a dinistrio, ond yn caniatáu’r taflegrau sydd yn difa, llosgi a dinistrio yn ddamweiniol, fel petai, yn sgil defnydd arall; incidental yw’r gair gaiff ei ddefnyddio. Felly, mae sawl llywodraeth byd, gan gynnwys Israel a’r Unol Daleithiau, yn mynnu nad yw Protocol III yn cynnwys y taflegrau ffosfforws gwyn gaiff eu defnyddio ganddyn nhw, gan mai diben y taflegrau hyn yw goleuo ac amlygu targedau yn y nos, a bod unrhyw – a phob – dioddefaint a ddaw o’i herwydd yn gwbl ddamweiniol – yn incidental.
Mae’n 52 o flynyddoedd ers i Huynh Cong “Nick” Ut lwyddo i grisialu gwewyr Rhyfel Fietnam i un llun – y llun eiconig hwnnw o Phan Thi Kim Phuc yn rhedeg rhag y ffrwydradau napalm. Mae plant tebyg iddi yn rhedeg o hyd, a rhedeg fyddan nhw, yn eu poen a’u dagrau, os na chaiff unrhyw – a phob – defnydd o daflegrau ffosfforws gwyn ac arfau cyneuol o bob math ei wahardd. Dros yr ugain mlynedd aeth heibio, mae o leiaf ugain o’r cenhedloedd sydd wedi ymrwymo i Protocol III wedi mynegi gofid cyhoeddus am daflegrau cyneuol, ac wedi datgan eu parodrwydd i edrych o’r newydd arno. At ymgyrchu mudiadau dyngarol, ychwanegwn holl rym ein gweddïau. Apeliaf ar i’r Cristion o Gymro – o ba gredo bynnag – i ddefnyddio’r cryfaf o arfau ei ffydd: gweddi. Gweddïed am waharddiad llwyr a llawn ar y defnydd o daflegrau cyneuol.