Cŵn sy’n hawlio’r sylw yn rhifyn arbennig yr wythnos hon o’r Big Issue, y cylchgrawn sy’n cael ei werthu gan y digartref ar gyfer y digartref.
Mae gan lawer o werthwyr y Big Issue gŵn sy’n cadw cwmni iddyn nhw wrth werthu’r cylchgrawn, ac mae’r rhifyn yma’n dathlu effaith gadarnhaol y cŵn yma ar eu bywydau.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Big Issue wedi cefnogi 314 o werthwyr yng Nghymru, gan roi’r gallu iddyn nhw ennill incwm drwy werthu’r cylchgrawn wythnosol.
Marlene ydy seren y clawr – roedd hi wedi bod yn byw ar strydoedd Macedonia cyn cael ei mabwysiadu gan werthwr y Big Issue, Ian Duff, yng Nghaerfaddon. Trigger ydy enw ei gi arall – mae pob un o’i gŵn wedi cael eu henwi ar ôl cymeriadau’r gyfres deledu Only Fools and Horses.
“Mae fy nghwsmeriaid a phobol Caerfaddon yn eu caru nhw. Mae pawb yn gwybod eu henwau. Dw i’n mwynhau mynd a nhw i’r gwaith achos maen nhw’n mwynhau bod y tu allan,” meddai Ian Duff, a oedd wedi colli ei gi arall, Boycie, ar ddydd Nadolig yn 2021.
Yn y cylchgrawn hefyd, cawn hanes Nick Cuthbert, gwerthwr Big Issue yn Truru yng Nghernyw. Cafodd Nick Cuthbert ddechrau anodd i’r flwyddyn pan fu farw ei gi Bryony ym mis Chwefror.
“Doeddwn i ddim yn sylweddoli cymaint o ddilynwyr oedd gan Bryony nes iddi farw,” meddai.
Cafodd Nick gi bach labrador du ar ei ben-blwydd ym mis Gorffennaf. Er cof am Bryony, roedd yn benderfynol o godi arian ar gyfer gwarchodfa achub anifeiliaid Last Chance Hotel yn Chacewater, lle daeth Nick o hyd i’w gi newydd.
Cynhaliodd gystadleuaeth i roi cyfle i gwsmeriaid awgrymu enw ar gyfer ei gi bach newydd. Fe lwyddodd i godi £1,108 a’r enw buddugol oedd Bracken.
“Mae gwerthwyr y Big Issue a chŵn yn gyfuniad mor dda oherwydd mae gennym ni gysylltiad mor agos. Rydyn ni gyda nhw 24/7. Mae’n berthynas agos sy’n annhebyg i unrhyw beth arall. Mae pobl yn dweud, ‘Pam nad ydyn nhw’n rhedeg i ffwrdd?’. Pam fydden nhw? Rydw i yma!”
Gallwch brynu copi o’r Big Issue gan eich gwerthwr lleol neu ar-lein.