Pedwerydd yn y ras oedd y Ceidwadwyr Cymreig mewn arolwg barn ar gyfer etholiad Senedd Cymru yr wythnos yma – ac anodd gweld sut fydd cael arweinydd newydd yn newid llawer ar eu rhagolygon, medd ein colofnydd gwleidyddol…
Yn y diwedd, doedd gan Andrew RT Davies ddim dewis ond mynd. Roedd wedi colli cefnogaeth gormod o’i gydweithwyr agosaf oedd wedi cael digon ar ei nifer cynyddol o gamau gwag. Roedd eisoes wedi colli hygrededd ymysg y cyhoedd, oedd yn ei weld fwyfwy fel ceg fawr heb fawr o sylwedd.
Ar yr olwg gyntaf, mae ei olynydd yn ddyn â phersonoliaeth eithaf gwahanol. Er nad oes gan Darren Millar yr un presenoldeb ag Andrew RT Davies, gallai ymddangos fel cymeriad llai swnllyd fod yn fantais ar hyn o bryd. Mae ymhlith aelodau mwyaf profiadol y Senedd – cafodd ei ethol gyntaf yn 2007 – ac mae’n ymddangos ei fod yn weithiwr caled a chymeradwy yn ei etholaeth.
Mae’n ymddangos hefyd y gall fod yn fwy pwyllog nag Andrew RT Davies ac yn llai tebygol o roi ei droed ynddi. Ar y llaw arall, gall hyn fod yn rhannol oherwydd nad yw wedi bod o dan y math o bwysau sydd ar arweinydd plaid, ac amser yn unig a ddengys sut y bydd yn dygymod â phwysau o’r fath.
Pe bai rhywun yn chwilio am rywbeth caredig i’w ddweud am Andrew RT Davies, byddai’n deg cydnabod fod arwain y Ceidwadwyr Cymreig yn dasg hynod anodd, os nad yn amhosibl.
Roedd llawer o’r anawsterau oedd yn ei wynebu yn bethau oedd ymhell allan o’i reolaeth. A bydd union yr un peth yn wir am y dasg sy’n wynebu Darren Millar.
Yr anhawster mwyaf o bell ffordd yw amhoblogrwydd y blaid ar lefel Brydeinig – ac mae’r sefyllfa hon yn annhebygol o newid cyn etholiad Senedd Cymru yn 2026. Nid gwaith hawdd fydd adennill hygrededd ar ôl ei pherfformiad truenus ym mis Gorffennaf.
Rhwygiadau
Anhawster arall ydi’r rhwygiadau anferthol o fewn y Torïaid ar lawr gwlad yng Nghymru, a hynny i’w weld yn arbennig o amlwg rhwng llawer o’r aelodau cyffredin ar lawr gwlad a rhai aelodau o Senedd Cymru.
Ymhlith Aelodau Torïaidd Senedd Cymru mae rhai Cymry gwlatgar a gweddol gymedrol eu gwleidyddiaeth. Mae eraill sydd, er eu bod yn fwy Seisnig eu diwylliant gwleidyddol, yn ddigon balch o’u statws fel Aelodau o Senedd Cymru, ac o’r herwydd â theyrngarwch i’r Senedd fel sefydliad.
Ar lawr gwlad, ar y llaw arall, mae llawer o aelodau sydd â’u hagweddau’n ymdebygu’n llawer mwy i rai Reform a Nigel Farage. Cofiwn mai aelodau cyffredin y blaid oedd yn gyfrifol am ethol Liz Truss yn Brif Weinidog. Mae llawer o’r aelodau hyn yn tueddu i fod yn eithafol o wrth-Ewropeaidd – a’u daliadau gwleidyddol yn eithaf pell i’r dde. Does dim amheuaeth y byddai pobol fel y rhain yn croesawu polisi o ddiddymu seneddau Cymru a’r Alban a throi’r cloc yn ôl at Brydain lwyr unoliaethol gyda phopeth yn cael ei redeg o Lundain.
Ar y llaw arall, hyd yn oed o blith y rheini na fyddai fyth wedi cefnogi datganoli, mae mwyafrif yr aelodau etholedig yn sylweddoli mai gwiriondeb fyddai ymladd etholiad i Senedd Cymru ar sail polisi i’w diddymu. Fyddai gan Senedd Cymru mo’r grym i ddiddymu ei hun p’run bynnag.
Gellir dychmygu fod, o dan yr wyneb, elfennau pragmataidd yn perthyn i Andrew RT Davies hefyd, pe na bai ond oherwydd y statws o fod yn arweinydd gwrthblaid mewn senedd. Ei wendid mawr oedd ei fod yn llawer rhy hoff o blesio carfannau mwyaf eithafol genedlaetholgar Seisnig ac asgell dde ei blaid ar lawr gwlad. Gwnaeth hynny gyda’r fath arddeliad nes mynd i gymryd camau gwag yn fwyfwy aml. Roedd yn amlwg ei fod yn trio’n rhy galed i efelychu rhywun fel Nigel Farage, ac yntau heb y bersonoliaeth na’r ddawn dweud i allu gwneud hynny’n effeithiol.
Un o’r camgymeriadau gwaethaf y gall unrhyw wleidydd ei wneud ydi canolbwyntio gormod ar blesio cnewyllyn caletaf ei gefnogwyr craidd yn hytrach na cheisio apelio at y cyhoedd yn gyffredinol.
Yr her i Darren Millar fydd disgyblu ei hun i beidio â gwneud hynny i’r un graddau â’i ragflaenydd – faint bynnag o demtasiwn fydd hynny.
Diddorol oedd gweld bod David TC Davies, cyn-Ysgrifennydd Cymru, wedi cael ei benodi’n bennaeth staff iddo. Gyda rhagolygon y Torïaid yn ymddangos mor wael yn San Steffan, tybed ai paratoi’r ffordd ydi hyn ar gyfer dychwelyd i Senedd Cymru? O dan y drefn etholiadol newydd, ni fydd yn anodd cael hyd i sedd saff, ac fel cyfathrebwr medrus yn y Gymraeg a’r Saesneg, gallai fod yn gaffaeliad sylweddol i’w blaid mewn ymgyrch etholiad.
Pedwerydd yn y ras
Mae Darren Millar yn cychwyn ar ei waith fel arweinydd wrth i’r arolwg barn diweddaraf awgrymu mai pedwerydd yn y ras fyddai’r Torïaid mewn etholiad i Senedd Cymru. Mi fydden nhw’n ennill 19% o’r bleidlais, a’r tair plaid arall – Reform, Llafur a Phlaid Cymru – o fewn trwch blewyn i’w gilydd ar fymryn llai na chwarter y bleidlais.
Gan fod Plaid Cymru fymryn ar y blaen i’r ddwy blaid arall, hawdd deall eu bod yn trio manteisio i’r eithaf ar hynny trwy ei gyfleu fel llwyddiant anferthol ar eu rhan. Er hynny, y gwir, wrth gwrs, ydi nad oes gobaith gan unrhyw blaid ffurfio llywodraeth ar ei phen ei hun efo llai na chwarter y pleidleisiau. Y cwestiwn pwysig mewn sefyllfa o’r fath ydi pa bleidiau sy’n debygol o allu ffurfio clymblaid i lywodraethu.
Gallwn fod yn sicr na fydd Plaid Cymru na Llafur yn fodlon clymbleidio efo’r Torïaid na Reform o dan unrhyw amgylchiadau. Mae’n amheus a fydd y Gwyrddion na’r Democratiaid yn llwyddo i ennill digon o seddau i wneud gwahaniaeth.
Gallwn fod bron yn sicr, felly, mai’r unig lywodraeth bosibl ydi clymblaid rhwng Plaid Cymru a Llafur – er bod hyn yn dibynnu ar allu ennill digon o seddau rhyngddyn nhw. Yn ôl yr arolwg barn hwn, byddai clymblaid o’r fath ar y blaen, ond nid o gymaint â hynny, wrth i’r ddwy blaid ennill cyfanswm o 47% o’r bleidlais rhyngddyn nhw o gymharu â chyfanswm o 42% i’r Torïaid a Reform. Mae hyn yn dryllio’n llwyr unrhyw dybiaethau fod Cymru’n wlad sydd ymhell i’r chwith yn wleidyddol.
Mae’n dangos unwaith eto hefyd sut mae Llafur a Phlaid Cymru wedi llosgi eu bysedd wrth drio fficsio’r drefn etholiadol newydd. Gallwn fod yn sicr eu bod nhw wedi rhagweld eu hunain yn gyffyrddus ar y blaen, gyda’r Torïaid fel yr unig fygythiad. Gall dyfodiad Reform olygu na allan nhw gymryd eu goruchafiaeth yn ganiataol.
Er mai pedwerydd oedd y Torïaid yn yr arolwg, doedd eu canran o 19% ddim yn gwbl druenus o isel. Mae’n awgrymu bod eu pleidlais graidd yn dal ei thir i raddau helaeth, ac mai ar draul Llafur mae Reform yn ennill.
Bygythiad Reform
Er gwaethaf hyn, mi fydd y Torïaid yn sylweddoli bod Reform yn fygythiad peryglus iawn i’w hygrededd fel plaid. Byddai ethol llai o aelodau na Reform yn drychinebus iddyn nhw – hyd yn oed pe bai llwyddiant Reform ar draul Llafur yn bennaf. Yn ogystal â golygu bod y Torïaid yn colli eu statws fel gwrthblaid yn Senedd Cymru, byddai’n hwb anferthol i Nigel Farage ar lefel Brydeinig yn ei frwydr i’w disodli fel prif blaid y dde.
Dydi’r math o lwyddiant a ragwelir i Reform ddim yn anochel, wrth gwrs. Mae gan Nigel Farage ffordd bell i fynd i gynnal ei lefel bresennol o gefnogaeth, heb sôn am obeithio ei chodi. Gall llawer fynd o’i le gyda’i blaid yn y cyfamser, ac er mai ffolineb fyddai tanbrisio ei ddoniau a’i allu, ni ellir diystyru’r posibilrwydd iddo gymryd cam gwag. Mae’n ddigon posibl y bydd yn rhaid iddo dalu pris uchel am ei eilun addoliaeth o Donald Trump, er enghraifft, gan nad oes wybod pa wallgofrwydd y bydd hwnnw’n ei gyflawni dros y flwyddyn nesaf.
Yr hyn y gallwn fod yn sicr ohono, fodd bynnag, ydi y bydd Nigel Farage yn mynd ati o ddifrif i dargedu Senedd Cymru fel llwyfan i Reform – ac y bydd ei blaid yn debygol o fod â digon o arian i wneud hynny.
A chymryd mai Llafur a Phlaid Cymru fydd yn ffurfio llywodraeth nesaf Cymru, gall y frwydr am bwy fydd yn ffurfio’r brif wrthblaid fod yn ddiddorol. Gall ei chanlyniad fod yn un hynod arwyddocaol i ddyfodol gwleidyddiaeth pleidiau’r dde ar lefel Brydeinig.
Efallai mai’r eironi mwyaf yn hyn i gyd ydi y gallai Llafur golli rhagor o dir i Reform yn y Cymoedd olygu bygythiad yr un mor ddifrifol i’r Torïaid yn ogystal.
Mae hyn i gyd yn golygu her anferthol i Darren Millar wrth gychwyn ar ei swydd. Er y bydd llawer o bethau y tu hwnt i’w reolaeth, gall ddysgu llawer oddi wrth rai o gamgymeriadau ei ragflaenydd. Fel y cam cyntaf un, byddai’n ddoeth iddo sylweddoli nad trwy geisio efelychu Reform y mae ymladd yn effeithiol yn eu herbyn.