Dyma gyfres newydd sy’n agor y drws ar rai o gaffis Cymru, lle byddwn ni’n siarad efo perchnogion y busnesau yma sydd, yn aml, yn ganolbwynt y gymuned. Y bwyd, y coffi, y cwsmeriaid, yr heriau a’r troeon trwstan – bydd digon ar y fwydlen i gnoi cil drosto.

Yr wythnos hon, Peris Tecwyn, perchennog Becws Melys yng Nghei Llechi, Caernarfon sydd wedi cadw bwrdd i golwg360


Wnes i ddechrau fy musnes fy hun yn gwerthu cacennau caws – Melys Cheesecakes. Yn ystod y cyfnod clo adeg Covid wnes i ddatblygu hynna i gynnwys bocsys te pnawn a bocsys trît a grazing tables a’u delifro nhw yn lleol. Mi dyfodd y busnes caffi o hynna.

Y cacennau caws enwog

Wnaethon ni agor caffi bach Becws Melys ddwy flynedd a hanner yn ôl, a blwyddyn wedyn wnaethon ni gymryd yr uned fawr drws nesa’ drosodd hefyd.

Mae Becws Melys wedi ehangu i’r uned fawr oedd drws nesa’ i’r caffi gwreiddiol

Wnes i ddechrau gweithio mewn Italian Restaurant yn golchi llestri pan o’n i yn y chweched dosbarth, 17 mlynedd yn ôl, a gweithio’n ffordd fyny i fod yn chef yno. O’n i hefyd yn gweithio mewn dau gaffi poblogaidd – Caffi Maes, Caernarfon a Pant Du ym Mhenygroes.

Mae byrgers yn un o’r prydau poeth ar y fwydlen

Prydau poeth wedi’u gwneud yn ffres sy’ ar y fwydlen yma yn cynnwys scotch eggs, sosij rols a peis cartra, byrgers, loaded chips, salads a sbesials gwahanol yn ddyddiol. Mi fydda’i yn cadw llygaid ar ba fwydydd sy’n boblogaidd ar y cyfyngau cymdeithasol ac yn dilyn, neu fynd ar flaen, y trends. ‘Dan ni hefyd yn gwneud cacennau a phwdinau ein hunain, gan gynnwys ein cacennau caws enwog.

Coctels a bwyd Eidalaidd sy ar y fwydlen gyda’r nos ar benwythnosau yn Becws Melys

Gyda’r nos ar benwythnosau mi rydan ni’n gwneud bwyd Eidalaidd, a hynna achos dyna’r math o fwyd oeddwn i’n arfer gwneud cyn i mi agor fy lle fy hun, ac roedd o’n boblogaidd iawn.

Y pethau mwya’ poblogaidd ar y fwydlen ydy’r loaded chips efo porc Teryaki

Y pethau mwya’ poblogaidd ydy’r loaded chips efo porc Teryaki, bagels ac, wrth gwrs, ein cacennau caws.

Dan ni’n cael pob math o gwsmeriaid yma! O rieni ifanc efo’u babis a theuluoedd i griwiau o ffrindiau neu gyplau o bob oed. Un peth sydd gan 90% ohonyn nhw yn gyffredin ydi’r ffaith eu bod nhw’n siarad Cymraeg. Dan ni’n lwcus fod y bobol leol yn hynod gefnogol i ni.

Mae Becws Melys yn cynnig “llond plât o fwyd cartra’”

Mae pob math o heriau wrth redeg caffi. Tydi hi ddim yn job hawdd, yn enwedig efo’r hinsawdd economaidd fel mae o –  efo prisiau bob dim yn mynd fyny ac i fyny. Dan ni’n trio’n gorau i gadw ein prisiau yn fforddiadwy i’n cwsmeriaid, ond tydi hynna ddim yn hawdd. Mae yna lot o gaffis eraill yng Nghaernarfon, gan gynnwys cwpwl o chains mawr felly mae’n bwysig ein bod ni’n medru cynnig rhywbeth gwahanol – a hynny ydi llond plât o fwyd cartra’ amrywiol mewn lle digon mawr i ddod a phramiau a byrddau at ei gilydd i griwiau mawr, ac awyrgylch groesawgar Gymreig.

Y cacennau yng nghaffi Becws Melys