Dwi’n esgyn o grombil y metro i’r sgwâr mawr prysur. Mae’n dechrau nosi, a Place Rihour yn berwi o bobol het-a-sgarffiog â channoedd o oleuadau bach yn pefrio uwch ein pennau. Mae’r olwyn fawr yn troelli’n goch, gwyn a glas fel baner y wlad, a’r adeiladau mawreddog o gwmpas yn eu dillad gorau – o’r tŷ opera neoglasurol i’r neuadd ddinesig a’i chlochdwr neo-fflemeg, a’r hen gyfnewidfa stoc sydd heddiw’n gartref ysblennydd i farchnad lyfrau a phosteri ail law. Mae marché de Noël de Lille yn ei hanterth, ac arogl gwin cynnes yn llenwi’r lle. Dda gen i mo’r stwff; yn hytrach, dw i’n llymeitian y cwrw blond lleol ar deras y caffi-bar, yn pendroni be’ i’w gael i swper. Ac ar y fwydlen, fel sawl un arall ledled y ddinas, mae yna elfen go annisgwyl o adra.

Mae’r Le Welsh ym mhobman yma. Na, nid gwaddol byddin y Wal Goch fu’n dathlu’r fuddugoliaeth fawr yn erbyn Gwlad Belg yn chwarteri’r Ewros euraid ddechrau Gorffennaf 2016, ond milwr o Gymro ym 1544. Y fo, mae’n debyg, gyflwynodd saig y Welsh Rarebit i’r trigolion lleol wrth wasanaethu yma adeg gwarchae Harri’r 8fed yn Boulogne-sur-Mer. A byth ers hynny, mae pobol rhanbarth y gogledd, a dinasyddion Lille yn arbennig, wedi mabwysiadu ein caws ar dost digon cyffredin fel eu harbenigedd lleol nhw.

Mae gwefan www.goodmorninglille.org yn brolio taw dyma la star des plats lilloise. Ac mae’r Ffrancwyr wedi ychwanegu eu stamp arbennig nhw at y saig o gaws tawdd, mwstard a chwrw ar ben ham a bara wedi’i grasu, ac ŵy wedi’i ffrio yn goron ar y cyfan. Gyda salad a sglods ar yr ochr, mae’n ddigon i lenwi bol ar noson oer. Mae bwytai eraill yn cynnig welshbourgeois hefyd, gyda bynsen brioche a byrgyr cig eidion sy’n nofio mewn caws tawdd. Oes, mae rhywbeth mawr o’i le pan fo bariau a bwytai Ffrainc yn gwneud llawer mwy o sioe o’n saig genedlaethol na ni ein hunain.

Dewis amlwg arall ar fwydlenni’r ddinas ydi’r Carbonnade Flamande, stiw cig eidion yn bennaf, wedi’i goginio’n araf mewn cwrw du a’i orchuddio â thorth sinsir a mwstard. Y cyfan yn dwyn i gof hanes cyfoethog dinas gafodd ei sefydlu gan Iarll Fflandrys yn yr unfed ganrif ar ddeg, cyn dod yn ganolbwynt y diwydiant les a gwehyddu. A Lille oedd prifddinas Fflandrys gyfan tan i ryw Ffrancwr digywilydd o’r enw Louis XIV ei goresgyn yn 1667.

Ond mae stamp y rhanbarth drws nesa’ yn amlwg iawn hyd heddiw, yn y bwyd a’r cwrw a’r adeiladau brics coch. Prin deng milltir o Wlad Belg ydan ni wedi’r cwbl. A diolch i orsaf drenau Euralille, sy’n groesfan i wasanaethau tra-chyflym TGV i Paris ers 1993 a’r Eurostar rhwng Llundain a Brwsel er 1994, mae’n ffordd hynod gyfleus a rhesymol i deithio ac ehangu gorwelion pellach. £80 dalais am docyn dwyffordd o orsaf St Pancras i Lille, gyda llaw, ar gyfer siwrnai awr ac ugain munud. Cymharwch hynny â thocyn tebyg o ran pris, ond am bedair awr a mwy syrffedus o Gyffordd Llandudno i Gaerdydd via Lloegr.

Ar ddiwrnod tri fy mhenwythnos hir, dw i’n dal bws €5 dros y ffin i’r hyfryd hynafol Brugge, prifddinas rhanbarth West-Vlaanderen. Ac wrth deithio, difyr sylwi ar arwyddion uniaith Fflemeg ar hyd y draffordd. Brugge, Ieper ac Oostende welwch chi yma, nid rhyw lol ddwyieithog gyda Bruges, Ypres, Ostende. A ‘Bedankt!‘, nid Merci, oedd ar waelod fy nerbynneb goffi yn y Grote Markt Nadoligaidd. Arwydd ac atgof arall o wahaniaethau diwylliannol Gwlad Belg, rhwng y gogledd Fflemeg, a’r Brwsel a’r deheubarth mwy Ffrengig. Ond iaith Vlaams sy’n ben; perthynas agos â’i chyfnither Iseldireg, ac iaith gyntaf 55% o boblogaeth Gwlad Belg heddiw. Roedd gan Ifor ap Glyn raglen hynod ddiddorol am y rhaniad a’r tensiynau ieithyddol hyn yng nghyfres radio Dwyieithrwydd dros y Dŵr sydd, ysywaeth, wedi diflannu o BBC Sounds bellach.

Mae gan gwmni Eurostar sêl i’r rhan hon o’r byd ar gyfer gwanwyn 2025. Ewch da chi!