Gyda’r tywydd wedi oeri’n sylweddol, a gwynt a glaw dyddiol, mae hi’n bryd meddwl am frecwast cynnes i godi calon. Be’ well ar fore tywyll, felly, na’r heulwen ffres yma ar blât? Cychwyn iach, syml a bendigedig i’r dydd.


Bydd angen:

  • Torth (o’ch dewis) – rwy’n hoffi torth gaws neu surdoes!
  • Sbigoglys
  • Wyau
  • Caws Gruyere
  • Garlleg
  • Nionyn coch
  • Hadau sesame
  • Olew tsili

Paratoi

Torrwch nionyn coch yn fân, ynghyd â darnau o garlleg.

Ffriwch hadau sesame yn sych.


Coginio

Rhowch wok neu badell ffrio dros wres canolig i uchel.

Ychwanegwch y tsili, ac unwaith y bydd yn boeth ychwanegwch y sbigoglys.

Trowch y cymysgedd am funud neu ddwy nes ei fod wedi gwywo.

Torrwch dafelli o fara ffres a’u tostio.

Rhowch joch dda o olew ar y bara a rhwbio darnau garlleg arno.

Torrwch wyau a’u gollwng i badell. Coginiwch yr wyau nes bod y gwyn yn setio a’r melynwy yn rhedeg (neu nes eu bod wedi coginio at eich dant).

Gosodwch y sbigoglys a’r hadau sesame ar y bara.

Llithrwch yr wyau ar blât a gratio caws am eu pennau. Gadewch i’r caws doddi am funud neu ddwy.

Rhowch nionyn coch ar ben yr wy.

Gweinwch gyda thost (neu reis am bryd hwyrach yn y dydd)… neu beth bynnag sy’n cymryd eich ffansi.

Mwynhewch!