Mewn blwyddyn o ddaeargrynfeydd gwleidyddol ar draws y cyfandir, mae’n ymddangos taw Rwmania sy’n ei chanol hi ar hyn o bryd. Mae Euronews yn adrodd bod Llys Cyfansoddiadol y wlad wedi diddymu canlyniadau’r rownd gyntaf o bleidleisiau i ddewis yr Arlywydd nesaf gan farnu bod dylanwadau o Rwsia yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol megis TikTok i lywio barn. Hyn wedi i’r ymgeisydd cenedlaetholgar Călin Georgescu ddod o nunlle bron mewn ymgyrch bropaganda gwrth-Orllewinol yn erbyn yr ymgeisydd pro-Ewrop, Elena Lasconi. Yn y cyfamser, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi anfon cais brys i TikTok am atebion a gwybodaeth am rôl ddadleuol y cyfrwng cymdeithasol yn yr etholiad, wedi i ddogfennau swyddogol yr Arlywydd presennol Klaus Iohannis, awgrymu’n gryf mai camau bwriadol gan Foscow i ddylanwadu ar algorithmau TikTok sydd y tu ôl i lwyddiant Georgescu.

Daw’r cais am wybodaeth ychydig ddyddiau ar ôl i Frwsel gyflwyno “gorchymyn cadw” yn gofyn i TikTok “rewi a chadw” pob dogfen a gwybodaeth fewnol sy’n ymwneud â risg etholiadol ledled y bloc. Byddai’r gorchymyn yn berthnasol o nawr tan 31 Mawrth 2025, ac yn cwmpasu’r etholiadau arfaethedig yn Rwmania, Croatia, Awstria, Gwlad Groeg a’r Almaen.

Meddai Valérie Hayer, arweinydd grŵp Renew Europe yn Senedd Ewrop, “Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn Rwmania yn rhybudd pellach inni gyd: bod camwybodaeth yn gallu digwydd ar draws Ewrop gyda chanlyniadau niweidiol”.

Dros y Môr Du, parhau mae’r protestio mawr yn Georgia yn erbyn llywodraeth plaid ‘Georgian Dream’ – plaid ddaeth i’r brig dan gwmwl ym mis Hydref, mewn etholiad a ystyriwyd yn refferendwm ar ddyheadau Georgia i ymuno â’r UE. Byth ers hynny, mae’r wrthblaid a’r Arlywydd pro-gorllewinol presennol, Salome Zourabichvili, wedi cyhuddo’r blaid lywodraethol o rigio’r bleidlais gyda chymorth Rwsia drws nesa. Plaid sydd wedi gwthio cyfreithiau tebyg i rai’r Kremlin i fygu rhyddid barn a hawliau LHDTC+ yn ôl pob tebyg. Mae’r adroddiadau diweddaraf yn dweud bod 400 a mwy o brotestwyr, gan gynnwys arweinwyr y gwrthbleidiau, wedi’u harestio a thros 50 o newyddiadurwyr wedi’u hanafu yn y brifddinas Tbilisi.

Mae’n ddyddiau cythryblus ar hyd a lled y cyfandir.