Mae Lynne Nagle AS wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i gefnogi’r byd addysg.
“Rwy’n falch o gael rhyddhau £50m ychwanegol yn 2024-25 i gefnogi seilwaith a safonau addysg ledled Cymru. Rwy’n cydnabod y pwysau ariannol sydd yna o fewn y sector addysg, ac yn ddiolchgar am ymdrechion mawr y gweithlu wrth iddynt barhau i weithredu dan amgylchiadau mor heriol. Ers dechrau ar fy swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gynharach eleni, rwyf wedi gwrando ar ein partneriaid addysg ledled Cymru ac rwy’n deall yr heriau y maent yn eu hwynebu”.
Bydd cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn darparu cymorth y mae ei angen yn fawr ar ysgolion, colegau a lleoliadau eraill i helpu i ddiwallu anghenion dysgwyr ledled Cymru gan gynnwys:
- £20m i ysgolion a lleoliadau drwy’r Grant Safonau Ysgolion, gan roi hwb i’r pecyn cymorth hwn i £180m yn 2024-25.
- £10m arall yn cael ei ddefnyddio i gefnogi darpariaeth addysg a dysgu ychwanegol (ADY) ledled Cymru i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc ag ADY.
- £20m tuag at waith atgyweirio a chynnal a chadw mewn ysgolion a cholegau drwy raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sy’n ychwanegol at £30m a ddarparwyd eisoes eleni.
Dywedodd y byddai’r Gyllideb Ddrafft wythnos nesaf yn canolbwyntio ar flaenoriaethau Llafur Cymru a “sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i gyflawni dros Gymru”.
Mewn ymateb, dywedodd Tom Giffard AS, Gweinidog Addysg Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig:
“Mae’r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer addysg i’w groesawu ond mae’n llawer is na’r hyn sydd ei angen i fynd i’r afael â’r pwysau ariannol difrifol sy’n wynebu ysgolion. Ni fydd taflu mwy o arian at hyn heb fynd i’r afael â’r materion allweddol yn cyflawni dim.
“Ers blynyddoedd, mae Llafur wedi goruchwylio toriadau i gyllid addysg mewn termau real ac arian parod, sydd wedi gadael ysgolion yn cael trafferth gyda seilwaith hen ffasiwn, prinder athrawon, a safonau’n dirywio.
“Tra bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw’n gyson am gefnogaeth ystyrlon a pharhaus i addysg, mae Llafur yn parhau i ddarparu cyllid tameidiog heb unrhyw strategaeth glir ar gyfer sicrhau bod ein plant yn derbyn yr addysg o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu.”
Bydd dadl ar ddatganiad Cyllideb Ddrafft 2025-2026 yn cael ei chynnal yn y Senedd ddydd Mawrth nesaf, 10fed Rhagfyr. Fe allai fod yn wythnos broblematig i lywodraeth Eluned Morgan sy’n dibynnu ar bleidleisiau gan naill ai Plaid Cymru neu’r Democrat Rhyddfrydol i basio’r gyllideb, gan fod y ddwy blaid yna “efo’u rhesymau eu hunain i geisio pellhau ei hun o’r Blaid Lafur” meddai’r Athro Richard Wyn Jones mewn rhifyn diweddar o bodlediad Gwleidydda BBC Sounds.