Mae Prifysgol Bangor wedi cyflwyno Gradd er Anrhydedd i Linda Gittins MBE, un o gyd-sefydlwyr Cwmni Theatr Maldwyn, heddiw (Dydd Llun, 8 Gorffennaf).

Mae Linda Gittins yn gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Bangor ac yn derbyn Gradd er Anrhydedd am ei chyfraniad at Ddiwylliant, Cerddoriaeth a Chelfyddydau Cymru a’r Gymraeg.

Mae Linda Gittins yn enwog am gynhyrchu sioeau theatr gorau a mwyaf eiconig y Gymraeg.

Gan gydweithio gyda Penri Roberts a’r diweddar Derec Williams, mae hi wedi ysgrifennu a chynhyrchu nifer o sioeau enwog.

Mae hi wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi a siapio gyrfaoedd llawer o bobl ifanc ddawnus ledled Cymru.

Mae ei chaneuon yn adnabyddus a’i chyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg yn amhrisiadwy, meddai’r Brifysgol.

Dywedodd Linda Gittins yn ystod y seremonïau graddio ym Mhrifysgol Bangor ei bod yn “teimlo’n freintiedig iawn i fod yn sefyll yma heddiw i dderbyn y radd er anrhydedd hon, yr wyf yn ei derbyn gydag ymdeimlad dwfn o ddiolchgarwch a gostyngeiddrwydd diffuant.

“Bydd gan y Brifysgol hon le arbennig yn fy nghalon bob amser, ac edrychaf yn ôl ar y tair blynedd a dreuliais yn yr Adran Gerdd dan arweiniad yr Athro William Mathias fel rhai o’r hapusaf yn fy mywyd.”

Testun o werthfawrogiad

Ychwanegodd yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor y Brifysgol bod y “seremonïau graddio yn gyfle i ddod ynghyd i ddathlu llwyddiant pob un o fyfyrwyr Bangor.

“Yn ogystal â dathlu llwyddiant pob myfyriwr sy’n graddio, mae dyfarnu Graddau Er Anrhydedd yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o gyfraniad unigolion at wasanaethau cyhoeddus, at lenyddiaeth a cherddoriaeth, at fusnes, chwaraeon neu wyddoniaeth.

“Gall straeon ein myfyrwyr, a straeon yr unigolion sy’n cael eu hanrhydeddu eleni, ein hysbrydoli ni i gyd.”

Ffigurau eraill

Mae Manon Steffan Ros a Noel Thomas hefyd ymhlith y ffigurau sydd wedi derbyn gradd er anrhydedd o’r brifysgol.

Bydd Syr Alan Bates hefyd yn derbyn gradd er anrhydedd gan y brifysgol yn ddiweddarach yr wythnos hon.