Cafodd gweithwyr ac ymwelwyr canolfan Galeri Caernarfon eu denu i’r cyntedd gan leisiau peraidd tramor yn canu ‘Calon Lân’ o ben y grisiau ar yr ail lawr bore ddoe.
Aelodau côr Synod o dalaith Mizoram yng ngogledd ddwyrain India a fu’n diddanu yn ystod yr awr ginio. Ar ôl canu’r pennill cyntaf yn Gymraeg fe ganon nhw’r ail bennill yn eu mamiaith, Mizo, cyn ail-gydio yn y Gymraeg ar gyfer y drydydd bennill, ‘Hwyr a bore fy nymuniad…’ Yna fe ganon nhw gân arall fywiog yn yr iaith Mizo.
Roedden nhw wedi dod ar ymweliad i Galeri ar wahoddiad y Parchedig Aneurin Owen, Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru – dyn a gafodd ei eni ym Mizoram, yn fab i genhadwr. Daethon nhw i gyfarfod â thelynorion Canolfan William Mathias yn Galeri.
Roedd y côr eisoes wedi perfformio yn y Gymanfa Gyffredinol (cyfarfod blynyddol unedig tair Cymdeithasfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru) yn Aberystwyth ddydd Mawrth (9 Gorffennaf), ynghyd â’r grŵp Ako o Fadagascar.
Mae gan yr Eglwys Bresbyteraidd gysylltiad agos â’r ddwy wlad ar ôl i genhadon o Gymru fod yno.
Bu’r côr yn perfformio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ddydd Sadwrn a Sul, 6 a 7 Gorffennaf. Roedden nhw wedi bod yno unwaith o’r blaen, yn 2014.
Treuliodd y côr ddiwrnod ym Mlaenau Ffestiniog ddechrau’r wythnos, yng nghwmni Joseff Rhys Edwards, sy’n gweithio i’r Eglwys Bresbyteraidd yn y dref, gan ganu yng nghaffi’r Pafiliwn ac yn Ysgol y Moelwyn yno.
Dysgu Cymraeg
Mae pobol Mizoram hefyd yn medru Hindi a Saesneg, ac yn Saesneg y bu arweinydd Côr Mizoram Synod yn sgwrsio gyda golwg360 ar ôl eu perfformiad annisgwyl yn Galeri.
“Gan ein bod ni wedi cael gwahoddiad, mi wnaethon ni feddwl y dylen ni ddysgu ychydig o Gymraeg,” meddai Benjamin Pazawna.
“Rydyn ni wedi dysgu ‘Calon Lân’ a’i chymysgu gyda’n hiaith ein hun. Wedyn rydyn ni hefyd wedi dysgu’r emyn ‘Diolch i Ti, yr Hollalluog Dduw’.
“Mae’r iaith yn eithaf anodd ar y dechrau, ond rydyn ni’n llwyddo’n eithaf da. Dw i ddim yn siŵr beth fydd y Cymry yn ei feddwl.”
Fe fuon nhw wedyn yn canu ‘Calon Lân’ ar risiau castell Caernarfon.
Y cenhadon ym Mizoram
Mae Cristnogaeth yn bwysig i drigolion Mizoram, yn bennaf oherwydd y Cymry a aeth i genhadu yno, ddiwedd y 19eg ganrif. Mae’r bobol wedi cyfuno’r traddodiadau Cristnogol gyda’u drymiau a’u dawnsfeydd brodorol, a’u harddull unigryw o ganu a gweddïo torfol, ac mae hynny wedi cyfrannu tuag at sicrhau parhad Cristnogaeth yn y dalaith.
Hawliodd y Raj Prydeinig reolaeth wleidyddol dros Mizoram yn 1895, a dal grym yno nes i India ennill ei hannibyniaeth yn 1947.