Bydd un o wyliau mwyaf poblogaidd Cymru i’w gweld yn fyw ac ar fwy o blatfformau S4C nag erioed o’r blaen eleni.

Fe fydd Tafwyl yn dychwelyd i Barc Bute yng Nghaerdydd dros y penwythnos, gan gychwyn heddiw (Gorffennaf 12).

Ymhlith yr artistiaid fydd yn chwarae yno eleni, mae Lloyd, Dom, Don + Sage Todz, Celt, Buddug, Gwilym, HMS Morris a Meinir Gwilym.

Huw Stephens, Tara Bandito a Lloyd Lewis fydd yn cyflwyno rhaglenni uchafbwyntiau’r ŵyl ddydd Sadwrn a dydd Sul am 8yh gan S4C/Lŵp.

Byddan nhw’n sgwrsio gefn llwyfan â rhai o’r artistiaid, cyn cyflwyno setiau byw gan Yws Gwynedd a’r band Gwilym.

Yn ystod y dydd, bydd modd gwylio ffrydiau byw o lwyfannau Tafwyl ar S4C Clic, YouTube S4C, S4C Lŵp a Facebook S4C.

“Mae hi’n bleser pur cael cyflwyno gŵyl gerddorol wych o’m dinas enedigol,” meddai Huw Stephens.

“Dw i wedi edrych ymlaen at Tafwyl ers y tro diwethaf iddo ddigwydd.

“Dyma brofiad unigryw i gael gweld perfformiadau newydd a hen mewn un lle ac i allu rhannu hyn ar y teledu gyda phobol na allan nhw fod gyda ni yng Nghaerdydd.”

‘Dim dianc’

Ychwanega Tara Bethan mai Tafwyl yw un o’i hoff wyliau, a’i fod yn “lwyfan i gerddoriaeth wych” ac yn “cynnig cymaint i bob oed”.

“Bydd S4C yn dangos llwyth o’r hyn fydd ymlaen unai ar y teledu, y platfformau cymdeithasol heb anghofio sianel YouTube S4C wrth gwrs. Fydd na’m dianc wrthom ni!”