Dyma eitem lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Linda Smith sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r gyfres Gwlad Beirdd ar S4C.

Mae Linda Smith yn dod o Gasnewydd. Mae hi’n dysgu Cymraeg ers pedair blynedd. Dechreuodd ddysgu ar Zoom gyda Dysgu Cymraeg Gwent a Dysgu Cymraeg Caerdydd am ei bod eisiau dysgu’r iaith yn gyflym. Eleni un o’i nodau personol oedd dysgu mwy am lenyddiaeth Gymraeg, yn enwedig barddoniaeth felly roedd hi wrth ei bodd yn darganfod y gyfres Gwlad Beirdd.


Linda, beth yw dy hoff raglen ar S4C?

Gwlad Beirdd yw fy hoff raglen ar S4C hyd yn hyn eleni. Cafodd ei darlledu ym mis Mawrth ac mae’r rhaglen dal ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer gyda’r fantais o isdeitlau hefyd. Gwyliais y rhaglen sawl gwaith i wrando ar farddoniaeth y beirdd yn enwedig Cynan, Crwys, TH Parry Williams a Waldo Williams.

Cynan, Crwys a T H Parry Williams oherwydd eu cysylltiad â rhai o’m gwersi, a Waldo oherwydd fy mod i’n hoff iawn o’i waith.

Pam wnes di fwynhau’r gyfres?

Y prifeirdd Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones sy’n bwrw golwg ar chwech o feirdd mawr Cymru ar draws chwe phennod. Mae pob pennod yn sôn am un o’r beirdd yn ei dro a chawn ddarganfod ychydig o hanes y bardd, ei ysbrydoliaeth a chlywed rhai o’i gerddi. Yn fy marn i mae’r gyfres Gwlad Beirdd yn un sy’n cael ei chyflwyno’n dda. Dw i’n hoff iawn o’r modd mae’n dangos gwybodaeth am fywydau a gwaith y beirdd gyda cherddoriaeth, geiriau a golygfeydd sy’n cyfoethogi, yn hytrach na thynnu sylw oddi ar, y farddoniaeth. Mwynheais y cyflwyniad o gerddi adnabyddus Waldo, yn enwedig ‘Cofio’.

Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynwyr?

Mae’r cyflwynwyr, Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood yn ddawnus a gwybodus ac yn gallu adrodd y cerddi gyda theimlad. Roedd y ddau yn wych, a mwynheais wrando arnynt yn siarad am waith y beirdd. Daeth eu sgiliau â’r cerddi’n fyw.

Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Dw i’n meddwl y dylai pawb ddysgu ychydig am ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru ac mae’r rhaglen yn ffordd dda iawn o wneud hynny.

Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?

Mae’r cyflwynwyr a’r siaradwyr gwadd yn siarad iaith y de ac iaith y gogledd ond maen nhw’n siarad yn glir iawn.

Faset ti’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?

Yn bendant. Os gewch chi gyfle, edrychwch ar y gyfres. Yn fy marn i mae barddoniaeth yn cael ei hysgrifennu i bobl wrando arni, ac mae barddoniaeth sydd wedi cael ei darllen ar goedd yn dda, yn brofiad gwrando da. Hoffwn weld mwy o raglenni fel Gwlad Beirdd ac efallai gweld rhaglen lle mae cyflwynydd neu grŵp yn trafod llyfrau.

Mae Gwlad Beirdd ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer