Mae Christine Mills, yr artist o Langadfan ym Mhowys, wedi dewis ymateb i bren haerllug a chyfarwydd y ‘Welsh Not’ mewn ‘arddangosfa gabinet’ fach yn amgueddfa ac oriel Storiel, Bangor.

Dyma un o bum arddangosfa gabinet yn Storiel eleni, sy’n rhoi cyfle i artist cyfoes ymateb i ddarnau o gasgliad celf gyfoes neu gasgliadau amgueddfa Storiel.

Dewisodd Christine Mills ymateb i’r hen grair gafodd ei ddarganfod dan loriau Ysgol y Garth, Bangor gan Lewis Davies Jones (‘Llew Tegid’), oedd yn athro yno rhwng 1875 – 1897.

Roedd y pren yn cael ei ddefnyddio i gosbi plant am siarad Cymraeg. Roedd rhaid i blentyn wisgo’r pren am ei wddw tan y byddai rhywun arall yn cael ei ddal yn torri’r rheol.

Yn hytrach na defnyddio’r crair i drafod sefyllfa’r Gymraeg heddiw, mae Christine Mills yn defnyddio delwedd y ‘Welsh Not’ fel sail i godi sgwrs am faterion eraill y dydd.

“Mae’n gasgliad arbrofol,” meddai wrth golwg360.

“Ro’n i eisiau rhyw elfen ei fod yn gasgliad o waith positif, er bod yna ddim byd positif wrth gwrs am y ‘Welsh Not’.”

Yn hytrach na thrafod sefyllfa’r iaith Gymraeg, mae hi wedi “aros efo’r iaith weledol yn bwrpasol”.

“Dw i’n teimlo ei fod yn agor drysau at faterion eraill sydd o wir angen cael eu cwestiynau hefyd heddiw.”

“Daioni” ysgolion Cymraeg a pharciau safari

Dywed yr artist ei bod wedi dilyn ei thrwyn wrth arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau, gan gynnwys gwlân coch Cymreig.

“Hwnnw ydi’r prif gyfrwng,” meddai.

“Mae o’n rhyw fath o gynrychioli’r pren, achos ei fod yn dyfiant o’r tir.

“Dw i hefyd wedi ailgylchu darnau o waith eraill sy’ gen i lle dw i wedi defnyddio gwlân gwyrdd Cymreig wedi’i liwio.

“Mae’r gwlân gwyrdd yn cynrychioli’r daioni, a thyfiant newydd, i’w weld yn ymwthio drwy’r brown.”

Dywed fod y gwaith yn cyfeirio at bwysigrwydd cymhelliant a “charedigrwydd” yn hytrach na “gorfodi.”

“Mae eisiau estyn llaw, dros y dŵr neu le bynnag, neu os ydi o er mwyn yr iaith Gymraeg, yn hytrach na gorfodi,” meddai.

“Caredigrwydd sy’n bwysig.”

Mae’r gwlân gwyrdd wedi’i amgylchynu â phlastig Cling Film yn un darn. Yn ôl yr artist, gallai hyn gyfeirio at yr ysgolion Cymraeg, neu faterion fel parciau cadwraeth neu safari sy’n gwarchod rhywogaethau prin.

“Mae yn sefyllfa reit annaturiol, fel tŷ gwydr mewn ffordd, ond mae daioni yn y tymor hir,” meddai.

“Mae gorfodi yn gallu bod yn ddrwg ond ar y llaw arall… dy’n nhw ddim yn hollol naturiol, ond weithiau rydan ni’n gorfod gwneud y pethau yma er mwyn y tymor hir.”

Ar ddarn arall, mae gwlân du Cymreig wedi’i ffeltio a darn o tsiaen wedi torri i ffwrdd ohono, yn ein hatgoffa o ddiwydiant atgas caethwasiaeth.

“Yn lle bod yna gortyn, mae yna ddarn o tsiaen wedi torri i ffwrdd,” meddai.

“Nid ein bod ni’n cymharu, ond dw i’n trio edrych i mewn i’r holl bethau cyfoes hefyd.

“Dw i’n meddwl ei fod yn ymwneud â gorfodi rhywun.”

Ymateb “pwerus dros ben”

“O wybod am waith Christine, dw i ddim yn synnu ei bod wedi dewis y ‘Welsh Not’,” meddai Esther Roberts, Swyddog Gweledol Storiel.

“Mae o’n grair unigryw sydd yn rhan o’n stori genedlaethol ac â pherthnasedd rhyngwladol. I ni’r Cymry, mae’n arteffact prin, er cyfarwydd, sydd yn ein hatgoffa o’r agweddau a fu i’r Gymraeg.

“Mae Christine yn cymryd siâp y ‘Welsh Not’ ac yn chwarae hefo hynny, yn cydnabod yr hanes tywyll sydd iddo, yn cysylltu â themâu newydd – fel effaith Cofid – ac yn llythrennol yn ei droi rownd, yn ei agor fyny fel llyfr, yn ‘tyfu’ pethau ynddo.

“Mae o’n gwneud i ni ystyried o’r newydd berthnasedd y ‘Welsh Not’ heddiw a’r hyn mae’n ei ddweud am ein hunaniaeth.

“Mae ei defnydd o’r ffelt sy’n tyfu wrth iddi ailweithio’r siâp cyfarwydd yn creu cyfanwaith difyr yn y cabinet.

“Mae ymateb i gasgliadau trwy gelf yn bwerus dros ben.”

Erbyn hyn, mae Christine Mills yn rhannu’i dyddiau rhwng Llangadfan, lle mae ei mab yn rhedeg y fferm deuluol, a dinas Llundain, ar ôl symud yno i astudio yn y Royal Drawing School dair blynedd ’nôl.

Ei merch yw Alis Huws, fu’n Delynores y Brenin am bum mlynedd cyn ildio awenau’r swydd i Mared Pugh-Evans y mis yma.

Fe fydd yr artist Christine Mills yn siarad am ei gwaith yn Storiel, Bangor ddydd Gwener Gorffennaf 19, rhwng 12-2yp.

 

Y pren ‘Welsh Not’ o gasgliad Storiel gafodd ei ddarganfod o dan loriau Ysgol y Garth, Bangor gan Lewis Davies Jones ‘Llew Tegid’, oedd yn athro yno 1875-1897. Dyma’r eitem mae’r artist Christine Mills wedi ymateb iddo