Mae cadeirydd gŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau, sydd wedi’i gwreiddio yng nghanol y dref, yn dweud na fyddai’r ŵyl yn bodoli ar ei ffurf bresennol heb gefnogaeth pobol fusnes y dref.

Yn dilyn cyfnod ar y Marian Mawr, mae’r Sesiwn Fawr wedi dychwelyd i’w gwreiddiau yng nghanol strydoedd y dref ers 2010.

Eleni, bydd gan yr ŵyl unarddeg llwyfan o amgylch busnesau’r dref, gan gynnwys y prif lwyfan yng Ngwesty’r Ship.

‘Diolchgar’

I ddangos eu gwerthfawrogiad i fusnesau’r dref, mae’r trefnwyr wedi cynnwys dyluniad o bob lleoliad sy’n llwyfannu artistiaid yr ŵyl ar wydrau aml-ddefnydd newydd sbon, fydd yn cael eu lansio y penwythnos hwn (Gorffennaf 18-21) yn y Sesiwn Fawr.

Mae’r gwydrau wedi’u noddi gan Prynu’n Lleol, cynllun Cyngor Gwynedd i annog trigolion ac ymwelwyr i brynu’n lleol, ac maen nhw wedi’u dylunio gan Lisa Elin Jones, artist o Lanuwchllyn.

“Fedra i ddim pwysleisio pa mor bwysig ydy busnesau lleol i lwyddiant Sesiwn Fawr Dolgellau – mae’n deg dweud hebddyn nhw, fyddai yna ddim gŵyl ar ei ffurf bresennol,” meddai Ywain Myfyr, un o sylfaenwyr a chadeirydd pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau.

“Bu rhaid i ni feddwl am fodel busnes newydd ar gyfer Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2010 ar ôl cwpl o flynyddoedd anodd a chostau uchel ar y Marian Mawr – ac roedd cydweithio gyda busnesau lleol yn allweddol i’r ŵyl ailgychwyn.

“Roedd medru lleoli amrywiol lwyfannau’r Sesiwn tu allan a thu fewn i dafarndai, caffis a siopau’r dref yn golygu nad oedd angen i lwyddiant yr ŵyl fod yn ddibynnol ar y tywydd bob tro, ac yn golygu fod adloniant a cherddoriaeth i’w gael ar bob stryd a chornel yng nghanol y dref.

“Fel diolch am hyn, rydym eleni wedi cynnwys eiconau bach o’r busnesau yma ar ein gwydrau am oes. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Prynu’n Lleol am noddi’r gwydrau ac i’r artist lleol Lisa Elin Jones o Lanuwchllyn am y dyluniad hyfryd.”

‘Cyflwyno busnesau’r dref i gynulleidfa newydd’

“Rydym yn falch iawn o gefnogi Sesiwn Fawr Dolgellau gan ei bod yn cyflwyno busnesau’r dref i gynulleidfa newydd ac yn benwythnos llawn bwrlwm, hwyl a cherddoriaeth,” meddai Gwenno Burrough, sy’n rhedeg tafarn yr Unicorn yn y dref.

“Mae hefyd yn benwythnos llewyrchus iawn i ni fel busnes ac yn rhoi hwb i ni yng nghanol tymor haf.

“Rydym yn falch iawn o gael ein cynnwys ar y gwydrau newydd, ac yn diolch i gynllun Prynu’n Lleol Cyngor Gwynedd am eu cefnogaeth gyson.”

Bydd yr ŵyl yn ymestyn dros bedwar diwrnod eleni, gyda thocynnau ar werth ar gyfer llwyfan y Ship, y Clwb Rygbi ac Eglwys y Santes Fair.

Bydd adloniant ychwanegol ar lwyfannau llai ger amryw o fusnesau’r dref, ynghyd â Phentre’ Plant ger y parc ar brynhawn dydd Sadwrn, Gorffennaf 20.