Mae gormod o bwyslais ar ysgolion Saesneg yn y Bil Addysg, yn ôl cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.
Heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 15), mae Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) wedi cael ei osod gerbron y Senedd, mewn ymrwymiad i gyfrannu at y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Gobaith Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg, yw y bydd y Bil yn cyflawni’r nod drwy geisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol orfodol yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol, o leiaf.
Yn benodol, yr amcan yw i bob disgybl feithrin sgiliau llafar sydd gyfystyr â lefel B2, o leiaf, o’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer ieithoedd.
Y Bil
Yn gryno, bydd prif ddarpariaethau’r Bil yn:
- rhoi sail statudol i’r targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ogystal â thargedau eraill yn ymwneud â defnyddio’r iaith, gan gynnwys yn y gweithle ac yn gymdeithasol;
- sefydlu dull safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg ar sail lefelau cyfeirio cyffredin y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar Ieithoedd;
- gwneud darpariaeth ynghylch dynodi categorïau iaith statudol ar gyfer ysgolion, ynghyd â gofynion o ran swm yr addysg Gymraeg gaiff ei darparu (yn cynnwys isafswm), a nodau dysgu Cymraeg sydd ynghlwm wrth y categorïau;
- cysylltu’r cynllunio ieithyddol gaiff ei wneud ar lefel genedlaethol (drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg), ar lefel awdurdod lleol (drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio Cynlluniau Strategol Lleol Cymraeg mewn Addysg), ac ar lefel ysgol (drwy osod dyletswydd ar ysgolion i lunio cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg);
- sefydlu corff statudol, sef yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, fydd yn gyfrifol am gefnogi pobol (o bob oedran) i ddysgu Cymraeg.
Bydd Jeremy Miles yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yn y Senedd fory (dydd Mawrth, Gorffennaf 16), gan roi rhagor o fanylion am y Bil.
Gormod o bwyslais ar ysgolion Saesneg?
Un o bryderon mwyaf Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, ynglŷn â’r Bil yw fod gormod o bwyslais ar ysgolion Saesneg ar draul ysgolion Cymraeg.
“Dw i’n poeni yn fawr fod prif gyfeiriad y Bil yn ymwneud ag ysgolion Saesneg,” meddai wrth golwg360.
“Rydyn ni i gyd yn gwybod ers tro mai safon aur y Gymraeg a chaffael y Gymraeg yw’r ysgolion Cymraeg.
“Blynyddoedd yn ôl, roedd y llywodraeth wedi cydnabod hyn.
“Mae yna brofiad helaeth gyda ni o fethiannau yn yr ysgolion Saesneg [sydd] prin yn gallu cynhyrchu siaradwyr Cymraeg naturiol, heblaw am rai eithriadau disglair.
“Mae bron yn hollol amhosib cynhyrchu siaradwyr Cymraeg naturiol mewn ysgolion sy’n bennaf yn Saesneg. Mae pob math o anawsterau.
“Tra mewn ysgolion Cymraeg, ar y llaw arall, mae yna system drochi effeithiol, a chefnogaeth gartref gan rieni ar y cyfan.
“A dyna’r unig fodel addysg yng Nghymru sydd wedi llwyddo i roi gwybodaeth a sgiliau’r Gymraeg yn gyflawn i ddisgyblion.”
Cyflwyno’r Gymraeg i blant yn rhy hwyr
Mae Heini Gruffudd hefyd yn poeni bod plant yn cael eu cyflwyno i’r iaith yn rhy hwyr.
“O dan saith oed mae plant yn dysgu iaith orau,” meddai.
“Pan ewch chi’n hŷn na hynny, mae’n mynd yn llawer mwy anodd.
“A phan ydych chi’n gadael hynny tan y sector uwchradd, mae’n llawer mwy anodd eto.
“Felly mae addysg trochi gyflawn i blant dan saith oed yn hollol hanfodol fel sail ieithyddol i greu siaradwyr naturiol.
“Mae yna sôn yn y Bil am gynyddu addysg Gymraeg, ond dw i ddim yn argyhoeddedig fod y Bil yn mynd i’r cyfeiriad yna.”
O le ddaw’r athrawon?
Anhawster sylfaenol arall y tu ôl i’r cyfan, yn ôl Heini Gruffudd, yw o le mae’r athrawon yn dod, gan fod 40% o fyfyrwyr yn astudio mewn prifysgolion y tu allan i Gymru.
“Does dim cynllun cyflawn gan y llywodraeth o ble maen nhw’n dod,” meddai wedyn.
“Mae rhai cynlluniau gyda nhw i annog athrawon ac yn y blaen, ond ar hyn o bryd mae’r Llywodraeth yn gwario hanner biliwn y flwyddyn ar ariannu myfyrwyr o Gymru sy’n astudio y tu allan i Gymru.
“Yn y pum mlynedd diwethaf, mae’r llywodraeth wedi gwario £11m ar Gynllun Seren, sydd yn annog ein disgyblion mwyaf disglair i astudio mewn prifysgolion yn Lloegr yn bennaf.
“Rydyn ni’n colli bron hanner y rhai allai fod yn athrawon yng Nghymru.
“Wn i ddim faint sy’n dod yn ôl – does gan Lywodraeth Cymru ddim syniad faint.
“Mae rhaid newid y gefnogaeth ariannol i fyfyrwyr aros yng Nghymru yn bennaf i gael eu haddysg brifysgol.”