Mae’r Bil Addysg sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 15) yn “colli cyfle unwaith mewn cenhedlaeth” i roi addysg Gymraeg i bawb, medd Cymdeithas yr Iaith.

Fe fu’r Gymdeithas yn ymgyrchu ers 2013 dros Addysg Gymraeg i Bawb, a’r llynedd fe wnaethon nhw gyhoeddi eu Deddf Addysg Gymraeg eu hunain, gan ddangos i Lywodraeth Cymru beth fyddai’n bosib gydag ewyllys wleidyddol.

Yn ôl y Gymdeithas, mae’r Llywodraeth yn “colli cyfle unwaith mewn cenhedlaeth” i osod nod hirdymor bod pob plentyn yn cael addysg Gymraeg, gan bwysleisio mai blaenoriaeth y mudiad yn ystod y misoedd nesaf fydd cryfhau’r ddeddfwriaeth yn ystod ei thaith trwy’r Senedd.

Yn ôl Osian Rhys o Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, “mae’r nod yn glir: addysg Gymraeg i bawb, fel bod pob un plentyn yn gadael yr ysgol yn hyderus yn yr iaith”.

“Mae’r Bil yn ei ffurf bresennol yn colli cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i osod addysg Gymraeg i bawb fel nod hirdymor, ac i osod targedau statudol fydd yn sicrhau bod rheidrwydd ar gynghorau lleol i weithio tuag at hynny ar unwaith,” meddai.

‘Croesawu’

Yn ôl Toni Schiavone o Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, maen nhw’n croesawu’r Bil.

“Mae’r Gymdeithas wedi ymgyrchu’n hir am ddeddf addysg Gymraeg, felly rydyn ni’n croesawu cyhoeddi’r Bil, ac yn croesawu hefyd y nod bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn hyderus yn y Gymraeg,” meddai.

“Ond os mai dyna yw nod y Llywodraeth, rhaid i’r Bil sicrhau bod 100% o’n plant yn cael addysg Gymraeg erbyn 2050, gyda thargedau cadarn ac ymrwymiadau cyllidol cryf ar gyfer hynny wedi’u gosod mewn statud.

“Nawr yw’r cyfle i fuddsoddi yn ein system addysg a’n plant a’n pobol ifanc.

“Ein blaenoriaeth yn ystod y misoedd nesaf felly fydd cryfhau’r Bil drwy annog gwelliannau iddo yn ystod ei daith drwy’r Senedd er mwyn sicrhau yn y dyfodol na fydd yr un plentyn yn cael ei adael ar ôl.”