Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n annog pobol i “ddianc rhag y dwndwr” a mynd allan i bysgota.

Mae pysgota’n parhau i fod yn boblogaidd yng Nghymru, gyda miloedd o bobol o bob oed a gallu yn meddu ar drwydded pysgota â gwialen.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobol i wneud cais ar-lein am drwydded er mwyn cael pysgota â gwialen.

“Rydyn ni eisiau i gymaint o bobol â phosib brofi’r pleser pur ddaw wrth bysgota, felly drwy gydol yr haf byddwn yn annog pawb i ‘ddianc rhag y dwndwr’ trwy naill ai ddychwelyd at bysgota neu roi cynnig arno am y tro cyntaf,” meddai Ben Wilson, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae llu o weithgareddau hamdden i’r hen a’r ifanc ar ein hafonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr yng Nghymru, lle mae’r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i bysgota yn sicrhau bod rhywbeth i bawb, o’r pysgotwr cwbl ddibrofiad i’r un sy’n hen law arni.

“Mae llu o fanteision i fynd i bysgota a gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les meddyliol a chorfforol drwy gysylltu pobl â byd natur.”

Trwydded

Os ydych chi’n 13 oed neu’n hŷn, bydd angen trwydded pysgota â gwialen arnoch chi i bysgota am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid Conwy neu lysywod yng Nghymru neu Loegr, medd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae consesiynau ar gael i bysgotwyr hŷn ac anabl, tra bod trwyddedau i bobol ifanc ar gyfer y rhai sy’n 13 i 16 oed am ddim, ond mae angen i bysgotwyr ifainc gofrestru.

Mae incwm gaiff ei gynhyrchu gan drwyddedau pysgota â gwialen yn helpu i ddiogelu a gwella pysgodfeydd a chyfleusterau i bysgotwyr.

Mae pysgota heb drwydded gwialen ddilys yn anghyfreithlon, a gallai arwain at euogfarn droseddol a dirwy.

Mae trwyddedau ar gael am ddeuddeg mis, wyth diwrnod ac un diwrnod, a gall siaradwyr a dysgwyr Cymraeg nawr wneud cais am eu trwydded yn Gymraeg.

Mae modd eu prynu’n gyflym ac yn hawdd ar-lein trwy fynd i “Cael Trwydded Bysgota â Gwialen” ar GOV.UK, neu dros y ffôn drwy ffonio Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0344 800 5386.

Ac mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion llawn am sut i brynu trwydded yn ogystal â rheolau ynglŷn â sut, pryd a ble y gallwch bysgota yng Nghymru, i’w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

‘Cyfoeth o gyfleoedd’

“Os ydych chi’n newydd i bysgota neu os nad ydych chi wedi bod yn pysgota ers tro, mae digon o gefnogaeth ac arweiniad ar gael hefyd: popeth o ble i bysgota i ba offer sydd ei angen arnoch er mwyn dechrau arni,” medddai Ben Wilson.

“Mae ymuno â chlwb pysgota yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd; gallwch chi rannu cwch am ddiwrnod ar gronfa ddŵr neu gofrestru ar gyfer un o’r cystadlaethau pysgota niferus sy’n cael eu cynnal ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn.

“Neu os oes gennych chi ffrind neu berthynas a hoffai roi cynnig ar bysgota am y tro cyntaf, beth am fanteisio ar fenter Take a Friend Fishing sy’n rhedeg o Orffennaf 27 i Fedi 1, sydd â’r nod o roi cyfle i fwy o bobol roi cynnig ar bysgota drwy ganiatáu i bysgotwr trwyddedig gymryd pysgotwr sydd heb drwydded allan am y diwrnod.

“Am y cyngor gorau ar ble a sut i bysgota, ewch i wefan Pysgota yng Nghymru, fishingwales.net, lle gallwch chi ddod o hyd i bopeth fydd ei angen i chi fynd i bysgota p’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n bysgotwr profiadol.

“Mae gwefan Pysgota yng Nghymru yn cael ei hariannu’n rhannol gan ddefnyddio incwm trwyddedau pysgota â gwialen a dyma’r wefan orau i bysgotwyr lleol ac ymwelwyr sydd am gael gwybod am gyfleoedd pysgota yng Nghymru.

“Mae yna gyfoeth o gyfleoedd o ran pysgota yng Nghymru ac mae digon o ddewis gan gynnwys afonydd a chronfeydd bras a dyfroedd llonydd, felly nawr yw’r amser i fynd allan i bysgota.”