Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i lansio ar gyfer newid trwydded amgylcheddol ar gyfer hen orsaf bŵer niwclear yn Nhrawsfynydd.

Mae Nuclear Restoration Services Limited (NRS) wedi cyflwyno’r cais i Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer safle Gorsaf Niwclear Trawsfynydd, gaeodd yn 1991.

Beth yn union yw’r cais?

Mae’r cais gan NRS (Magnox gynt) yn cynnig dymchwel, gwaredu a chapio cyfadeiladau pyllau oeri, sef cyfres o adeiladau sydd wedi’u lleoli ochr yn ochr â dau adeilad yr adweithyddion.

Mae gan y pyllau oeri a’r celloedd storio cyfagos strwythurau tebyg i flychau o dan y ddaear, sy’n cynnwys gwagleoedd hyd at chwe metr o ddyfnder gyda chyfaint o tua 5,000 metr ciwbig i gyd.

Bydd dymchwel y strwythurau concrid hyn yn arwain at lenwi’r gwagle â choncrit mewn darnau sy’n cynnwys rhywfaint o ymbelydredd.

Mae’r deunydd yn cael ei gau i mewn wedyn, mewn proses ‘capio’.

Cadw’r gymuned a’r amgylchedd yn ddiogel

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ategu y byddan nhw’n ymgynghori ag arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear drwy gydol y broses.

Golyga hyn fod yn rhaid i’r cais fodloni eu safonau diogelwch ac amgylcheddol os yw am gael ei gymeradwyo.

Dywed Martin Cox, Pennaeth Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer gogledd-orllewin Cymru, eu bod yn annog cymaint o’r cyhoedd a’r gymuned leol â phosib i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

“Fel rheoleiddiwr y cais hwn, rydym wedi ymrwymo i gadw’r gymuned a’r amgylchedd yn iach,” meddai.

“Fel rhan o’r broses o benderfynu ar y cais, mae’n rhaid i ni fod yn fodlon bod y gwaith dymchwel, gwaredu a chapio arfaethedig yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n ddiogel ac sy’n bodloni ein safonau ar gyfer diogelu pobl a’r amgylchedd.

“Hefyd ei fod yn caniatáu i’r safle gael ei ryddhau o orchwyl rheoleiddio sylweddau ymbelydrol i’r dyfodol.”

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal tan Awst 6.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhagweld cyfnod penderfynu hir ar gyfer y cais hwn, a byddan nhw’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd drwy gydol y broses.