Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn cael ei lansio gan Jeremy Miles, Ysgrifennydd Ynni Cymru, heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 15).

Bydd yn nodi cynlluniau tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio a chyflenwadau ynni gwyrddach, mwy cynaliadwy.

Mae Trydan Gwyrdd Cymru’n cael ei sefydlu i gyflymu’r gwaith o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy, yn benodol ynni gwynt ar y tir, ar ystâd gyhoeddus ehangach Cymru, ac i gynyddu eu gwerth ar gyfer pobol Cymru cymaint ag y bo modd.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi eu Strategaeth Wres– y cyntaf o’i math yn y Deyrnas Unedig – sy’n nodi map ffordd ar gyfer datgarboneiddio gwresogi cartrefi, eiddo masnachol a diwydiant fel rhan o’u hymrwymiadau sero net.

Gyda gwres yn cyfrif am 50% o’r ynni rydyn ni’n ei ddefnyddio yng Nghymru, y mae 75% ohono’n dod o danwyddau ffosil, mae angen gwirioneddol am strategaeth drawslywodraethol i fynd i’r afael â hyn yn y tymor byr a’r tymor hir.

‘Derbyn enillion buddsoddiad sylweddol’

Yn y lansiad, bydd Jeremy Miles yn dweud: “Bydd bod yn berchen ar ein cwmni ynni adnewyddadwy ein hunain ar ran Cymru yn ein galluogi nid yn unig i ddatblygu ynni adnewyddadwy mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd â’r amgylchedd naturiol, ond yn bwysicaf oll i roi’r gallu inni, a phobol Cymru, i dderbyn enillion yr hyn a fydd yn fuddsoddiad sylweddol.

“Mae gennyn ni ffordd hir o’n blaenau ac ni fyddwn yn dechrau cynhyrchu incwm i Gymru am nifer o flynyddoedd, ond mae’r gwaith i sicrhau dyfodol gwell ar gyfer ein hynni yn dechrau heddiw.”

Yn ôl Ed Miliband, Ysgrifennydd Ynni’r Deyrnas Unedig, “bydd pobol Cymru yn elwa’n fawr o’r ynni glân cynaliadwy o Gymru gan Drydan Gwyrdd Cymru”.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni wneud Prydain yn bŵerdy ynni glân, gan gynnwys amlinellu camau cyntaf Great British Energy, rhoi hwb i’n hannibyniaeth ynni a gostwng biliau unwaith ac am byth,” meddai.