Mae trigolion y gogledd yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar blismona yn yr ardal, wrth i’r Comisiynydd Andy Dunbobbin lansio ymgynghoriad.
Mae gan bobol tan Fedi 27 i ddweud eu dweud ar eu blaenoriaethau ar gyfer y pedair blynedd nesaf, a sut maen nhw am i’w cymunedau gael eu plismona.
Cafodd Andy Dunbobbin ei ailethol fis Mai 2024 ac mae ganddo ddyletswydd, yn rhinwedd ei rôl, i greu cynllun blaenoriaethau ar gyfer Heddlu’r Gogledd wrth iddyn nhw atal troseddu.
Mae’r Comisiynydd hefyd yn pennu cyllidebau ac yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am berfformiad y llu.
Gwrando ar bobol leol
Cyn llunio’i Gynllun Plismona a Throsedd, mae Andy Dunbobbin yn awyddus i wrando ar farn pobol leol a sicrhau ei fod e’n mynd i’r afael â’u blaenoriaethau.
Bydd hyn yn cael ei wneud ar ffurf holiadur, a bydd ymatebion yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd yn siapio gwasanaethau yn y dyfodol wrth ddyrannu adnoddau.
Gall trigolion lenwi’r holiadur ar wefan Survey Monkey.
Yn ei faniffesto cyn cael ei ethol i’r rôl, fe wnaeth Andy Dunbobbin addo:
- presenoldeb plismyn cymunedol
- cefnogi dioddefwyr, cymunedau a busnesau
- system gyfiawnder troseddol deg ac effeithiol
- Comisiynydd gweladwy ac atebol
‘Y bobol sy’n gwybod orau’
“Pobol gogledd Cymru sy’n gwybod beth sydd orau iddyn nhw a’u cymunedau, a dydy hi’n ddim gwahanol pan ddaw i blismona,” meddai Andy Dunbobbin.
“Nhw sy’n gallu barnu orau beth ddylai blaenoriaethau Heddlu’r Gogledd fod, a ble maen nhw’n credu y dylen ni ffocysu adnoddau.
“Dyna pam fy mod i’n annog pobol o bob cymuned, cefndir, oed a phob agwedd ar fywyd gael dweud eu dweud yn fy ymgynghoriad ar y Cynllun Plismona a Throsedd.
“Bydd y cynllun hwn yn helpu i lywio gwaith Heddlu’r Gogledd dros y pedair blynedd nesaf, felly mae’n bwysig ein bod ni’n ei gael yn iawn ac yn adlewyrchu dymuniadau’r bobol.
“Cefais fy ethol ym mis Mai i fod yn llais y bobol o ran plismona yng ngogledd Cymru, a daw lansiad yr holiadur hwn yn fuan iawn ar ôl ethol Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig, efo agenda newydd ar gyfer brwydro torcyfraith.
“Felly, rŵan ydi’r adeg iawn i ymgynghori â’n cymunedau a sicrhau ein bod ni i gyd yn cydweithio ar bob lefel i leihau troseddau, cadw pobol yn ddiogel, a sicrhau cytgord a chydweithrediad yn ein cymunedau.
“Felly, sicrhewch eich bod chi’n cael dweud eich dweud!”