Nôl ym Mis Hydref datganodd Keir Starmer fod hawl gan Israel i osod pobol Gaza o dan warchae ac atal dŵr a thrydan rhag eu cyrraedd.

Yn dilyn y feirniadaeth groch a gododd yn sgil y datganiad gwreiddiol ceisiodd Starmer a rhai o brif aelodau’i gabinet cysgodol (megis David Lammy a Lisa Nandy) wadu ei fod o wedi dweud yr hyn a ddywedodd a cheisio taflu’r bai am y gyflafan yn Gaza ar Hamas, a dim ond Hamas. Un o’r aelodau mwyaf llafar ei chefnogaeth i Starmer, fodd bynnag, a’r aelod a oedd yn cael ei defnyddio fwyaf ar y cyfryngau i wyngalchu ei safbwynt gwreiddiol oedd Emily Thornberry, y Twrnai Cyffredinol cysgodol.

Mewn datblygiad sydd wedi achosi cryn sioc ymhlith cefnogwyr a beirniaid Starmer fel ei gilydd yr wythnos ddiwethaf cafodd Emily Thornberry ei thaflu o dan y bws gan Starmer pan benododd Richard Hermer, cyfreithiwr Iddewig o Gymru yn wreiddiol (a fynychodd Ysgol Uwchradd Caerdydd), i swydd y Twrnai Cyffredinol.

Mae Hermer yn berson diddorol a dweud y lleiaf. Mae’n Iddew sydd wedi beirniadu gweithredoedd Israel ar sawl achlysur yn y gorffennol. Mae o wedi datgan fod meddiant Israel o’r lan orllewinol a dwyrain Jerwsalem yn debygol o fod yn anghyfreithlon ac wedi cefnogi ymchwiliad cyfreithiol gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol i benderfynu a yw Israel yn gweithredu system o Apartheid yn erbyn y Palestiniaid; y llynedd dadleuodd yn erbyn mesur Michael Gove i rwystro cynghorau rhag boicotio nwyddau a gwasanaethau o Israel; cyhoeddodd bennod mewn llyfr o’r enw Corporate Complicity in Israel’s Occupation: Evidence from the London Session of the Russell Tribunal on Palestine, oedd yn trafod cyfranogaeth gyfreithiol cwmnïau sy’n buddsoddi yn Israel mewn troseddau hawliau dynol (mae rhai o fuddsoddiadau Prifysgol Bangor yn berthnasol yn hyn o beth); ac ar ddechrau ymosodiad Israel ar Gaza, roedd yn un o wyth cyfreithiwr Iddewig arwyddodd lythyr gafodd ei gyhoeddi yn y Financial Times yn galw ar y wlad i lynu at gyfraith ryngwladol gan ddatgan, yn groes i farn wreiddiol Starmer:

“It would be a grave violation of international law to hold them (the population of Gaza) under siege and whilst doing so deprive them of basic necessities such as food and water”

gan ychwanegu:

“collective punishment is prohibited by the laws of war.”

Paham, felly, y penderfynodd Starmer fychanu Thornberry, ei was da a ffyddlon fu’n amddiffyn ei safbwynt amheus ar Gaza dros y misoedd diwethaf? Paham y penderfynodd o, yn hytrach, roi’r swydd i rywun sydd, ar yr wyneb o leiaf, yn ymddangos fel petai’n coleddu barn gwbl groes i’r hyn mae o wedi’i ddatgan ers cychwyn ymosodiad Israel ar Gaza?

’Dyw’r sylwebyddion gwleidyddol ddim fel petaen nhw yn gwbl sicr o’r ateb i’r cwestiwn hwnnw. Mae’r penodiad, fodd bynnag, eisoes wedi cythruddo rhai o’r lleisiau mwyaf croch o blaid Israel megis AllIsraelnews a’r UK Lawyers For Israel. Rhaid cyfaddef, yn groes i fwriad yr ysgrifenwyr, fod darllen eu condemniadau hallt ohono wedi gwneud i mi glosio at y dyn, a’i ystyried yn gymeriad sydd yn meddu ar gydwybod moesol byw iawn. (Yn ôl rhai, roedd hynny’n rhywbeth arferai berthyn i Starmer pan oedd yn gyfreithiwr hawliau dynol, ond cafodd ei roi o’r neilltu ganddo dros y blynyddoedd wrth iddo blymio i ddyfroedd budron gwleidyddiaeth bleidiol).

Os yw sylwebyddion gwleidyddol proffesiynol yn ei chael hi’n anodd deall y rhesymeg y tu ôl i’r penodiad, pa obaith sydd i mi wneud? Ond mae un peth yn sicr, un o brif orchwylion Hermer yn y dyfodol agos fydd rhoi cyngor cyfreithiol i lywodraeth Starmer ar fater pwysig eithriadol. A ddylid parhau i roi trwyddedau i gwmnïau arfau Prydeinig i werthu arfau i Israel ai peidio? Mae’n sicr y bydd llywodraeth Israel a’i chefnogwyr, a’r rheiny sy’n elwa o’r farchnad arfau (megis y cwmnïau cynhyrchu arfau a’u buddsoddwyr) yn lobïo’n gryf o blaid parhau â’r drefn bresennol.

Mater arall fydd yn galw am ei sylw yw a ddylai Llywodraeth Lafur newydd Prydain barhau â pholisi Llywodraeth Rishi Sunak o herio galwad y Llys Troseddau Rhyngwladol (ICC) ar i Netanyahu a’i weinidog amddiffyn Yoav gael eu herlid am droseddau rhyfel. Mae’n debyg fod y Llywodraeth Geidwadol wedi ildio i bwysau cynyddol gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau i herio’r alwad honno am nad yw America yn aelod o’r ICC ac felly’n methu â gwneud hynny ei hun.

Bydd hi’n ddiddorol gweld a fydd Hermer yn penderfynu datgan barn gyfreithiol ar y ddau bwnc yma sy’n adleisio’r datganiadau dyngarol y mae wedi’u gwneud yn y gorffennol. Amser a ddengys.

Sut maen nhw’n teimlo?

Ioan Talfryn

Cwestiynau ynglŷn â’r newyn yn Gaza