Mae’n “siomedig” nad yw S4C yn darlledu mwy o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, yn ôl arweinydd Côr Glanaethwy.
Côr Glanaethwy enillodd gystadleuaeth Côr y Byd yn yr Eisteddfod eleni, a dywed Cefin Roberts, cyd-sylfaenydd Ysgol Glanaethwy, ei bod hi’n teimlo fel pe bai S4C “wedi troi’u cefnau ar Langollen”.
Cafodd cystadleuaeth Côr y Byd ei darlledu ar y sianel ar y nos Sadwrn olaf, ynghyd ag uchafbwyntiau, a chafodd pigion dyddiol eu dangos ar raglen Heno.
Tan 2017, roedd yr ŵyl yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C, ac wedyn, nes cyfnod Covid, roedd y sianel yn darlledu rhaglenni uchafbwyntiau dyddiol.
Dywed S4C bod arferion gwylio wedi esgblygu, a’u bod nhw, er mwyn ymateb, wedi newid rywfaint ar eu darpariaeth o’r Eisteddfod eleni.
“Mae o’n teimlo i fi fel bod S4C wedi troi’u cefnau ar Langollen, a dim ond darlledu ychydig oriau ar y noson olaf,” meddai Cefin Roberts wrth golwg360.
“Dw i’n siomedig iawn yn hynny, bod talent gorau’r byd yn dod drosodd i Langollen ac mae’r arlwy gweledol a chlywedol yn anhygoel.
“Mae o’n gynhwysol, mae pobol o bob cefndir ethnig a lliw a llun yn dod i Langollen ac rydyn ni’n troi’n cefnau arno fo.
“Dw i’n flin bod hynna wedi digwydd.”
‘Heddwch byd’
Mae Ysgol Glanaethwy wedi rhoi cynnig ar dros gant o gystadlaethau yn Llangollen ers 1990, ac wedi cymryd rhan mewn nifer o gyngherddau.
Yn ôl Cefin Roberts, mae Eisteddfod Llangollen yn “un o’r gwyliau hyfrytaf” yn y wlad, ac mae ganddi bwysigrwydd tu hwnt i ganu a pherfformio.
“Mae’r atgof hyfryd sydd gan bobol o’r côr bach yna o’r Almaen yn dod i Langollen ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac yn cael un o’r croeso mwyaf twymgalon er eu bod nhw wedi ofni pa groeso fysan nhw’n ei gael ym Mhrydain ar ôl y rhyfel, a’r arweinydd yn dweud ‘Please give a warm welcome to our friend from Germany’, dw i’n meddwl yn crynhoi beth mae Llangollen yn sefyll drosto, sef heddwch byd.
“A’r byd yn y fath lanast rŵan, roedd hwn yn gyfle arbennig o dda i drosglwyddo’r neges yna,” meddai wedyn, gan ychwanegu bod angen cefnogi unrhyw ddiwylliant Cymreig ger y ffin.
“Colli cyfle ydy’r peth mawr sydd wedi digwydd eto eleni, i weld y goreuon yn y byd amatur yn dod yma i ganu.
“Mi fedar y cyfryngau, pob elfen ohono – gan gynnwys y papurau newydd – fod yn manteisio ac elwa.
“Mae’n neges fwy na chanu a dawnsio, mae’n neges fawr fyd-eang.
“Unwaith mae yna ddadl fach ynglŷn â ‘byd gwyn yw byd a gano’ ac ydy’r gair ‘gwyn’ yna’n anghywir – argol, gafodd hwnna sylw! – ond unwaith rydyn ni’n dod yna i ganu a dawnsio a chanu heddwch, does yna neb eisiau gwybod.
“Dw i’n meddwl bod o’n warth.
“Mae o’n fwy na darlledu o Langollen; mae o ynglŷn â bod S4C a’u math yn mynd i bedwar ban Cymru a dim canolbwyntio ar lefydd lle maen nhw’n gyfforddus yn mynd iddyn nhw.
“Efallai bod hynna’n orfeirniadol, ond fel yna dw i’n teimlo pan dw i yna ar y maes.”
‘Arferion gwylio’n newid’
Wrth ymateb, dywed llefarydd ar ran S4C eu bod nhw’n “cydnabod cyfraniad Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddiwylliant Cymru ac yn falch iawn o fod wedi medru ei chefnogi dros y blynyddoedd gan fuddsoddi’n sylweddol mewn darllediadau byw o’r llwyfan ac o’r maes”.
“Mae arferion gwylio ein cynulleidfaoedd yn esblygu ac, er mwyn ymateb, fe newidiwyd rhywfaint ar ein darpariaeth o’r Eisteddfod eleni.
“Fe wnaeth S4C fuddsoddi yn sylweddol eto drwy gomisiynu Rondo i gynhyrchu rhaglen fyw o gwmpas cystadleuaeth Côr y Byd.
“Yn ogystal â hyn, er mwyn rhoi blas o gyffro a lliw’r ŵyl drwy gydol yr wythnos, bu Heno yn darlledu o’r maes yn ddyddiol. Mae Heno yn gonglfaen yn amserlen S4C ac yn denu cynulleidfa eang yn nosweithiol ar draws Cymru.
“Ein bwriad oedd gallu dod â’r Eisteddfod at gynulleidfaoedd newydd gan roi’r cyfle iddyn nhw fwynhau’r ŵyl.”