Mae dau fardd sy’n rhan o’r sîn farddol yng nghymoedd y de yn galw am ddigwyddiadau “ffrinj” yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd eleni, er mwyn i feirdd Cymraeg a di-Gymraeg “glosio” at ei gilydd.

Un o’r rhain yw Martin Huws, Cadeirydd y Pwyllgor Llên Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, sydd newydd gyhoeddi ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Dyn ar Dân.

Mewn cyfweliad am y gyfrol gyda chylchgrawn Golwg, dywed ei fod yn cyfarfod bob mis â chriw o feirdd di-Gymraeg ym Mhontypridd, ac yr hoffai i feirdd yn y ddwy iaith “glosio” at ei gilydd.

“Rwy’ wedi bod lan yna yn darllen cerddi Cymraeg a chyfieithiadau er mwyn rhoi blas iddyn nhw,” meddai Martin Huws, sy’n dod o Gaerdydd ond yn byw yn Ffynnon-taf ers dros 30 mlynedd.

“Be’ sydd eisiau yw bod y beirdd Cymraeg a di-Gymraeg yn closio at ei gilydd.

“Does gan rai beirdd Cymraeg ddim clem beth mae beirdd di-Gymraeg yn ei sgrifennu.

“Mae fel pe tasai wal rhwng y ddwy garfan.

“Fe ddylai fod digwyddiadau ymylol yn yr Eisteddfod yn Ponty, lle mae cyfle i feirdd di-Gymraeg adrodd eu cerddi”.

Osgoi “torri’r rheol iaith”

Un sy’n cytuno â Martin Huws yw’r Prifardd Cyril Jones, darlithydd Cymraeg ym Mhrifysgol De Cymru, sy’n cynnal dosbarthiadau gloywi iaith ym Merthyr ac yn Llantrisant ar ran sefydliad Cymraeg i Oedolion.

Fe fydd Cyril Jones, sy’n hanu o bentref Pennant, Ceredigion, yn traddodi’r Ddarlith Lenyddol ar ddwy bryddest enwog am y Cymoedd, ‘Y Ffynhonnau’ gan Rhydwen Williams ac ‘Y Llen’ gan Dyfnallt Morgan fore Mercher yr Eisteddfod.

Yn ystod y tymor diwetha’, mae wedi bod yn trafod y ddwy gerdd gyda’i ddysgwyr rhugl ym Merthyr a Llantrisant.

“Maen nhw wrth eu bodd,” meddai’r Prifardd, a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1992.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig eu bod nhw’n trafod y cerddi yma, achos mae’r Gymraeg mor agos at yr wyneb yn y Cymoedd yma. Mae fel y glo brig.

“Fi’n cytuno da Martin. Ocê, fe fydde fe’n torri’r rheol Gymraeg ond fe ddylai fod yna weithgareddau ffrinj, lle byddai beirdd cyfoes, sydd yn sgrifennu yn Saesneg, a beirdd Cymraeg mewn un sesiwn.”

Bu’r bardd yn cydweithio gyda bardd o dde Cymru, Philip Gross, ar gyfrol ddwyieithog i Seren Books, Troeon:Turnings yn ddiweddar.

“Dw i’n credu’n gry’ y dylid fod yna fwy… mae’r ddou fyd yn hollol ar wahân,” meddai.

“Mae diddordeb mawr yn fy ngrwpiau i yn y Wenhwyseg, achos roedd eu tadcus a’u mamgus nhw yn ei siarad hi, lot fawr ohonyn nhw. Roedd ganddyn nhw ddiddordeb yn yr acen a’r dafodiaith.”

Darllenwch gyfweliad Martin Huws am ei gyfrol Dyn ar Dân yng nghylchgrawn Golwg heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 18).

Bydd y Prifardd Cyril Jones yn traddodi’r Ddarlith Lenyddol ar ‘Y Llen’ ac ‘Y Ffynhonnau’ yn y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, am 10:30 fore Mercher, Awst 7.