Mae Urdd Gobaith Cymru wedi croesawu cynnig Cyngor Dinas Casnewydd i gynnal Eisteddfod yr Urdd yn 2027.
Hyn yn sgil cefnogaeth aelodau o gabinet Cyngor Dinas Casnewydd i wahodd un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop i ardal lle mae 7.5% o’r boblogaeth yn medru’r Gymraeg.
Gyda’r ŵyl yn costio rhyw £2.4 miliwn i’w llwyfannu bob blwyddyn, bydd disgwyl i Gyngor Casnewydd gyfrannu £200,000 ati. A bydd angen i’r Cyngor ffeindio o leiaf 24 erw o dir ar gyfer y Maes ei hun, heb sôn am 50 erw tuag at y meysydd parcio a 15 erw arall i’r carafanwyr a’r gwersyllwyr pybyr.
Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Rydym wrthi’n trafod lleoliadau posib ar gyfer cynnal yr Eisteddfod. Edrychwn ymlaen at gadarnhau union safle’r ŵyl mewn cyfarfod cyhoeddus ddydd Iau, 12 Medi yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd ac i ddechrau trefnu gyda gwirfoddolwyr lleol.”
Ai Tŷ Tredegar ei hun fydd y safle hwnnw? Y parcdir ysblennydd 90 erw, rhyw bum milltir i’r gorllewin o ganol y ddinas, oedd cartref Eisteddfodau Cenedlaethol 1998 a 2004. Cynhaliwyd Prifwyl 1897 ar Barc Belle Vue Casnewydd.
Gwaddol
Roedd adroddiad o gyfarfod Cabinet y Cyngor ddoe (17 Gorffennaf) yn dweud y byddai’r digwyddiad yn hwb i’r hyn sydd eisoes ar waith yng Nghasnewydd ac yn creu gwaddol. Mae Gwasanaeth Ieuenctid a Chwarae Casnewydd wedi comisiynu’r Urdd i gefnogi Gwaith Ieuenctid Cymraeg sy’n cysylltu â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Eisoes, mae pedair ysgol gynradd Gymraeg wedi magu tir yn y ddinas, yn ogystal ag Ysgol Gyfun Gwent Is Coed.
Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 ym Mharc Margam, Castell-nedd Port Talbot, ac Ynys Môn yn 2026.