Heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 18), mae’r tocynnau wedi mynd ar werth ar gyfer “trioleg” theatrig newydd sbon gan gwmni’r Frân Wen ym Mangor ym mis Medi.

Yn ôl y cwmni mae’r cynhyrchiad, Olion, ‘yn torri tir newydd’ ac yn ‘addo profiad rhyngweithiol a pherfformiadau byw a digidol o gwmpas dinas Bangor’.

Ar ôl gweithio gyda’r cwmni ar y sioe theatr Deian a Loli yn y gwanwyn, mae’r dramodydd Angharad Elen wedi dod yn ôl i weithio gyda’r cwmni ar y cynhyrchiad – sy’n seiliedig ar chwedl Arianrhod yn y Mabinogi ac ar brofiadau pobol ifanc LDHTC+ leol.

Fe fydd Olion mewn tair rhan. Sioe theatr yng nghanol Pontio fydd y rhan gyntaf, yn agor ar 20 Medi ac yn rhedeg am chwe noson. Cynhyrchiad aml-leoliad o gwmpas Bangor ar Fedi 28 fydd yr ail ran, lle bydd y gynulleidfa yn dilyn y perfformwyr o gwmpas y ddinas.

Fe fydd gŵyl gymunedol awyr agored hefyd yn digwydd yn ystod y rhan yma, gyda cherddoriaeth fyw, bwyd a dawns.

Ffilm fer sy’n cloi’r drioleg, yn cyfuno darnau o’r rhan gyntaf a’r ail ran, ac yn dilyn teulu lleol ar siwrne swreal drwy amser.

Aelodau eraill y tîm creadigol yw’r coreograffydd o Abertawe a Zimbabwe, Anthony Matsena; y gwneuthurwr theatr a’r dawnsiwr o Gwm Tawe, Marc Rees; a Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig y Frân Wen.

Gweithio gyda GISDA

Bu’r cwmni yn gweithio gydag elusen y bobol ifanc, GISDA, ar Olion, diolch i arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, a’r gobaith yw y bydd y cynhyrchiad yn adlewyrchu rhai o’r heriau sydd wedi’u hwynebu nhw yn eu hieuenctid.

“Mae rhoi pobol ifanc wrth galon pob cynhyrchiad yn greadigol yn greiddiol i’n gweledigaeth ni yn Frân Wen,” meddai Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni.

“Trwy weithio efo GISDA, mae Olion wedi sicrhau ein bod ni yn gallu gwneud hyn wrth ganiatáu i ni ddod â chynhyrchiad proffesiynol o’r safon uchaf yma i Fangor.”

“Mae hwn wedi bod yn brofiad gwerthfawr i griw o bobol ifanc sydd yn aml yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu cynnwys,” meddai Sian Elen Tomos, Prif Weithredwr GISDA.

“Mae gweld eu hyder nhw’n tyfu ar yr un pryd â gweld y cynhyrchiad yma’n dod yn fyw wedi bod yn ysbrydoliaeth.

“Mae wedi rhoi cipolwg iddyn nhw hefyd o’r cyfleodd sydd ar gael o ran gwaith ym myd y theatr a’r celfyddydau.”

Mae Olion yn rhaglen 15 mis o weithgareddau ac yn cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd.

Mae’r prosiect wedi cael £252,911 gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

‘Bachwch ar y cyfle’

Mae tocynnau Olion ar werth heddiw.

Fe fydd yr ŵyl deuluol am ddim, a’r gobaith yw y bydd yn gyfle i drigolion Bangor gael blas ar arlwy’r theatr yn ogystal â dod i adnabod Frân Wen.

Mae’r cwmni’n newydd i’r ddinas ers iddo agor ei ganolfan gelfyddydol gymunedol newydd, Nyth, mewn hen eglwys yn y ddinas yn 2023.

“Gyda’r tocynnau yn mynd ar werth yr wythnos hon, byddwn yn annog pobol i fachu ar y cyfle i brofi trioleg Olion,” meddai Nia Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Frân Wen.

“Mae modd mynd i bob rhan, neu dim ond un rhan, o’r cynhyrchiad gwych yma.

“Y gobaith yw gwneud hwn yn rhywbeth mor hygyrch ag y gallwn ni, er mwyn i gymaint o bobol â phosib brofi a mwynhau theatr ar ei amrywiol ffurfiau.”