Y lleoliad yw Palas Blenheim, Swydd Rydychen. Yr achlysur yw’r Gymuned Wleidyddol Ewropeaidd (EPC).

Fforwm rhyngwleidyddol a sefydlwyd yn 2022 gan Arlywydd Macron yn fuan wedi i luoedd Putin oresgyn Wcráin. Gyda 47 o wledydd yn bresennol, mae’n cynnwys cyfuniad o aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd ac eraill mor amrywiol â Bosnia a Herzegovina, San Marino, Norwy a’r Deyrnas Unedig. Mae Jens Stoltenberg, Ysgrifennydd Cyffredinol NATO wedi teithio i’r Loegr wledig hefyd. Siop siarad i rai, ond mae gwefan EPC yn ei disgrifio fel cyfle i feithrin deialog a chydweithrediad gwleidyddol, a chryfhau diogelwch, cadernid a ffyniant cyfandir Ewrop. Ac mae presenoldeb amlwg Arlywydd Zelenskyy yn ategu pwysigrwydd y gynhadledd a safiad cyson y mynychwyr yn erbyn Rwsia.

Ond tybed faint o densiwn oedd y tu ôl i’r drysau caeedig? Mae Viktor Orbán o Hwngari yno, dyn sy’n ddrwgenwog am geisio broceru ei drafodaethau heddwch ei hun, cwrdd â Putin a chanmol Trump i’r cymylau. Mi fydd yna drafodaethau anodd hefyd rhwng Starmer ac Edi Rama, Prif Weinidog Albania, ar fater mewnfudo anghyfreithlon.

I ninnau feidrolion, mae’n golygu rhywbeth arall hefyd. Roedd gweld y lluniau teledu o’r gwladweinwyr yn gwenu fel giât ac ysgwyd llaw â Starmer ar risiau’r palas rhodresgar o’r ddeunawfed ganrif, yn codi calon rhywun. Rhyw deimlad braf o agosatrwydd a chynhesrwydd cyfandirol unwaith eto, wedi 14 mlynedd ddrwgdybus. Ac yn syth bin, mi fachodd Starmer ar y cyfle i bwysleisio “na fydd y Deyrnas Unedig fyth yn gadael Confensiwn Hawliau Dynol Ewrop” ac y bydd yn ffrind ac yn bartner i Ewrop. Galwodd am ‘ailosod’ y berthynas rhwng y DU ac Ewrop. Neges hynod gadarnhaol er nad cweit yn ddigon pell i’r rhelyw bleidleisiodd dros Aros ym Mehefin 2016.

Hawdd cynnau tân?

“Britain is back in Europe!” meddai’r Arlywydd Alexander Stubb o’r Ffindir, yng ngwres y foment. Howld on Now Jon, meddai eraill fel Charles Michel, Llywydd Cyngor Ewrop, sy’n dweud nad oes bargen newydd i’w tharo gan fod y Brits wedi pleidleisio dros Brexit. Ond roedd Simon Harries, Taoiseach Iwerddon, yn dipyn cleniach.

“Mae’n ddyddiau cynnar i lywodraeth Prydain. Nid fy lle i yw pennu’r hyn fyddan nhw’n ei wneud nesaf mewn unrhyw fodd, nid yw’n ailosodiad. Ond mae’n gamechanger. Mae gennych lywodraeth Brydeinig sydd eisiau siarad am berthynas agosach ag Ewrop, bod yn amlochrog, aros o fewn yr ECHR gan weithio’n agos gydag Iwerddon, cyd-warantu ein proses heddwch. Mae’n fyd cwbl wahanol i’r hyn a fyddai wedi bod yma ychydig wythnosau yn ôl.”

Mae mis mêl Syr Keir yn parhau am y tro.