* RHYBUDD CYNNWYS: Gall thema’r golofn hon beri pryder i rai darllenwyr *
Pan welais y gyfres Game of Thrones am y tro cyntaf, wnes i wirioni yn llwyr. Nid yn unig ar y stori ffantasi a’i chynhyrchiad moethus, ond oherwydd Daenerys Targaryan – cymeriad oedd hefo gwallt hir, arian – ac nid am ei bod yn berson oedrannus, ond oherwydd ei genynnau anghyffredin. Ar ben hyn, nid oedd hi’n gymeriad oedd yn cyfateb i’r ‘Evil albino trope’, sy’n stereoteip cyffredin ym myd diwylliant poblogaidd.
Yna, daeth y gyfres newydd House of the Dragon, sy’n prequel ac yn dangos teulu Daenerys, cyn i’r rhan fwyaf ohonyn nhw gael eu lladd pan ddaeth Robert Baratheon i’r orsedd. A dyma chi wledd o bobol ddi-bigment ar y sgrin ar yr un pryd, felly. Waw! Wnes i ddotio at y gyfres gyntaf, a nawr dw i wrth fy modd yn dilyn yr ail gyfres, wrth i bennod newydd gael ei rhyddhau bob wythnos ar sianel Now TV.
Perodd hyn i mi adlewyrchu ar fy mherthynas hefo fy ngwallt arian, a sut mae portreadau mewn diwylliant poblogaidd wedi effeithio ar fy nelwedd gorfforol a fy ngallu i dderbyn fy nhrawsffurfiad i fod yn ‘dywysoges arian’.
Sara fach
Dwi’n bum mlwydd oed ac yn sefyll hefo fy ffrind Helen. Mae Helen yn benfelen brydferth ac mae pawb yn dotio at ei gwallt hir, euraid, trwchus, cyrliog. Mae fy ngwallt i yn frown tywyll, yn syth fel ffyn pys, ac yn hongian o gwmpas fy wyneb syndromaidd fel niwl tenau, wedi’i dorri’n fyr mewn steil ‘ffenest’.
Mae ein mamau yn siarad am sut i roi sglein ar ein gwalltiau – sudd lemwn i benfelen, sur i brunette; ys gwn i beth fyddai’n digwydd taswn yn rhoi sudd lemwn ar fy ngwallt i? Fysa fo’n troi’n felyn? Dwi’n ei drïo ac yn meddwl ei fod wedi gweithio rywfaint.
Dwi’n saith mlwydd oed, a newydd sylwi llinyn gwyn yn fy ngwallt; mae yna fwy a mwy bob dydd. Fysa’n haws ei guddio mewn gwallt melyn. Yna, dwi’n cael ‘Kylie perm’ ac mae fy ngwallt yn edrych ychydig yn oleuach, tra bod y cyrls yn torri’r lliwiau fyny yn y gwallt, fel rhyw fath o camouflage!
A dyma’r math o synfyfyrion oedd gen i yn yr ysgol gynradd – llawer iawn o boeni am fy ngwallt. Cefais sawl perm cyn i mi dderbyn taw gwallt syth oedd gen i. A thywalltais bob math o gemegau dros fy mhen cyn derbyn taw gwallt tywyll oedd gen i.
Ond erbyn i mi gyrraedd fy ysgol uwchradd, roeddwn wedi penderfynu fy mod yn hapus i fod yn brunette. Roedd y rhesymau am hyn yn niferus, gan gynnwys un sydd braidd yn chwerthinllyd ond oedd yn bwysig i mi ar y pryd: sgwrs mae Juan Sánchez-Villalobos Ramírez (cymeriad Sean Connery) yn ei chael hefo brunette ar awyren yn y ffilm Highlander. Mae o’n dweud bod sawl un o’r menywod mwyaf prydferth erioed hefo gwalltiau tywyll.
A dyna fi wedi fy argyhoeddi, felly: ymfalchïo yn fy ngwallt tywyll, a gwneud y gorau o’r hyn oedd gen i.
Yr halen yn y pupur
Am gyfnod, meddyliais taw’r cemegau niferus roeddwn wedi’u rhoi yn fy ngwallt oedd y rheswm am y llinynnau gwynion drwyddi draw, felly tyfais y perm allan a threulio oriau yn Boots yn Wrecsam, yn darllen cefn potiau o Henna conditioner a’u tebyg.
Rywbryd yng nghanol hyn i gyd, cefais sgwrs hefo mam am fy obsesiwn hefo nwyddau oedd yn honni eu bod nhw’n ‘bwydo ac adfywio’ gwalltiau, ac esboniodd wrtha i fod teulu fy nhad hefo Syndrom Waardenburg Math 1; dyma oedd wrth wraidd fy llinynnau gwyn.
Roedd hyn yn lot i’w gymryd i mewn ar y pryd, a minnau’n gwybod fawr ddim am enynnau. Prynais feddyginiaeth herbal gyda phethau fel ginsing ynddyn nhw. Ceisiais orchuddio’r llinynnau hefo pacedi o liw gwallt gwin – gan obeithio cadw fy lliw naturiol mewn modd artiffisial.
Ac yna, mi wnes i ddechrau tynnu’r llinynnau, gan gynnwys y tyfiant newydd gan ddefnyddio tweezers. Doedd hyn ddim yn naid enfawr, gan fy mod wedi bod yn tynnu’r blew tywyll oddi ar fy nhalcen a fy nhrwyn hefo tweezers ers blynyddoedd – mae synophrys yn un o nodweddion Syndrom Waardenburg Math 1. Ac er bod yna rai diwylliannau lle mae synophrys yn cael ei weld yn rhan o harddwch naturiol, doedd hyn ddim yn wir am ddiwylliant Wrecsam yn yr 1980au.
Roedd hyn yn droad anffodus braidd, achos roedd yn frwydr na allwn ei hennill, wrth i’r blaengudyn gwyn sy’n nodweddiadol o’r cyflwr ddechrau ffurfio o ddifri. Ond wrth geisio’i glirio, des i i gysylltu teimlo’n bryderus hefo tynnu fy ngwallt o ‘mhen. Aeth yn gylch dieflig, ond stori arall yw honno.
Penfelenwen a thywysoges arian
Hyd yn oed yn oedolyn, ac yn rhywun oedd yn medru darllen y papurau gwyddonol am y cyflwr, a chael cwnsela genetig, es drwy gyfnodau o roi pob math o gemegau ar fy ngwallt i geisio cuddio’r cyflwr. Ac mae’n wallt ystyfnig sy’n pallu derbyn a chael ei liwio, felly defnyddiais gannydd [bleach] ac yna lliw tywyll, gan ei adael am oriau nes roedd yn teimlo fel bod cynrhon yn brathu croen fy mhen.
Yn y bôn, des i i dderbyn fy nelwedd gorfforol naturiol, a hynny eto oherwydd pobol o ddiwylliant poblogaidd. Un o’r rhain oedd Agnetha Fältskog, ac a dweud y gwir dw i dal yn ymfalchïo mewn swishio fy ngwallt o gwmpas a phrynu ffrogiau fel y rhai yn y lluniau sydd gen i ohoni.
Ond yn y blynyddoedd diwethaf, y Valerianwyr sydd wedi dal fy sylw, sef y bobol o benrhyn deheuol a chanolog Essos, ym myd ‘Y gân o iâ a thân’, chwedl George R. R. Martin. Mae ganddyn nhw walltiau arian a llygaid fioled, a dyma hynafiaid y Targaryanaid, llinach Daenerys Targaryan yn y gyfres Game of Thrones.
Braf iawn oedd cael gweld un cymeriad oedd yn edrych fel fi ar y sgrîn, a ges i fudd o sylwi ar ddillad Daenerys – sut oedd glas a’r sbectrwm oer yn ei siwtio orau. Sylwais ar sut roedd hi’n gwisgo’i gwallt a cheisiais ei hefelychu. Prynodd fy ngŵr fodel ohoni, ac un o ŵy draig, a draig yn hedfan.
Ac yna daeth y gyfres newydd, a llond y lle o bobol ar y sgrîn hefo’u gwalltiau mor debyg i fy ngwallt i. Mae’n anodd esbonio’r hyn dw i’n ei deimlo wrth wylio. Nid yw’n rywbeth cwbl ddiriaethol. Ond dw i’n teimlo’n ysgafn ac yn hapus, a dw i’n dyheu am y teimlad yna, ac yn edrych ymlaen at bob pennod – te befo am y llinyn stori a.y.b.
Ac felly, dyma le ydw i ar hyn o bryd, yn mwynhau gwledd newydd bob wythnos – pennod newydd o storïau ffantasi, gyda dreigiau yn hedfan, a chael dychmygu fy hun yn ffitio i mewn fel aelod o’r teulu a’r gymuned – jest am awr fach, ond mae’n ddigon.