Siarad efo un arall o alltudion Dyffryn Conwy oeddwn i penwythnos diwethaf. Fynta’n gitarydd llawrydd i sawl band Cymraeg, ac yn dweud mai dyma’r pwl prysuraf erioed rhwng gigs a gwyliau’r haf. Sy’n hynod galonogol i’w glywed, yn enwedig â chymaint o wae i’r celfyddydau yn ein dyddiau darbodus, ôl-bandemig. A dyna lle’r oedden ni’n ceisio cynnal sgwrs yng nghanol set fywiog gan y grŵp lleol ‘Hyll’ ym mhabell Tafiliwn, ar bnawn Sadwrn braf yn y ddinas. Yr achlysur oedd Tafwyl, a’r lleoliad oedd Parc Bute, gam a naid o feini’r Orsedd yng nghysgod Castell Caerdydd. Y tu allan, roedd hi bron yn amhosib igam-ogamu heibio’r byddin o bramiau, stiwdants yn anwesu eu peintiau seithbunt, neiniau a theidiau. Rhesiad o stondinau printiau, llyfrau a nwyddau cartref, ciwiau’r pentra bwyd ac ymlaen i’r Prif Lwyfan lle’r oedd Celt a Mellt, Gwilym ac Eden wrthi. Roedd ’na Dalwrn, bar bach y Deri Arms i ddathlu hanner canrif o Pobol y Cwm, sesiwn gomedi Laffwyl a sgwrs gan Daf James, awdur Lost Boys and Fairies wnaeth gyflwyno’n hiaith fyw i rwydwaith BBC One yn ddiweddar.
Bellach yn denu 40,000, mae gŵyl iaith y brifddinas wedi cymryd camau breision ers pan ddaeth rhyw 1,000 o bobol i faes parcio’r Mochyn Du yn 2006. Ac mae’r iaith wedi ffynnu’n weledol a chlywedol ers i mi landio yn neuadd myfyrwyr Cymraeg Plas Gwyn, Llandaf, yn ’92. Bryd hynny, roedd rhywun yn saff o nabod pwy bynnag oedd yn siarad Cymraeg ar Heol y Frenhines; bellach mae’n rhan naturiol o’r stryd amlieithog. Cofio ymuno â selogion Cymdeithas yr Iaith gefn liw nos wedyn i dynnu arwyddion parcio uniaith Saesneg i drigolion yn unig. A gwylltio efo gyrrwr tacsi holodd whatsthepointothat? ar noson canlyniadau’r arholiadau flwyddyn olaf, pan ddeallodd taw Cymraeg oedd ein pwnc gradd ni.
Yn ôl data diweddaraf Arolwg Blynyddol Llywodraeth Cymru o’r Boblogaeth (Ebrill 2023-Chwefror 2024), mae 76,100 o drigolion Caerdydd yn medru’r iaith – y trydydd uchaf ar ôl Sir Gâr (91,700) a Gwynedd (91,200).
Mae twf ysgolion Cymraeg yn ffactor allweddol, â’r brifddinas yn gartre i bymtheg ysgol gynradd Gymraeg a thair ysgol uwchradd – o Fro Edern yn y dwyrain i Blasmawr a Glantaf yn y gorllewin. Bellach, mae rhieni ac athrawon yn ne’r ddinas yn galw am ysgol gyfun Gymraeg ar eu stepen drws i gwmpasu ardaloedd Glanrafon, Grangetown a’r Bae. Un o’r rhai uchaf eu cloch yw ymgyrchwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad Trebiwt, lle mae rhai o gymunedau mwyaf amlethnig os tlotaf Cymru, yn dweud bod traean o’r plant yno’n methu cael lle yng Nglantaf lawn dop. Parhau mae’r frwydr. Drosodd atoch chi’r Bonwr Huw Thomas, arweinydd Cyngor Llafur Caerdydd a siaradwr rhugl ei hun.
Ond mae angen i’r Gymraeg fod yn llawer mwy na iaith y dosbarth yn unig, a dyna lle mae ein Mentrau Iaith mor hanfodol. Yn ogystal â threfnu Tafwyl rhad-ac-am-ddim i’r cyhoedd, mae’r fenter (gafodd ei sefydlu yn 1998) newydd sefydlu CFTi: Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, partneriaeth rhwng y Fenter Iaith, Urdd Caerdydd a’r Fro ac adran Gwasanaethau Ieuenctid y brifddinas. Gyda chlybiau amser cinio ac ar ôl ysgol, y nod yw apelio at rai anodd eu cyrraedd a’u plesio – yr arddegau. Dw i’n codi fy het bwced Cymru i’r swyddogion ieuenctid hyn, o gofio mai Eingl-Americanaidd yw iaith a dylanwad cymaint o instagenhedlaeth TikTok heddiw.
Nid rhywbeth Caerdydd-ganolog yn unig yw’r her. Cofiaf cydnabod o Ben Llŷn yn nodi bod angen sawl ‘Tafwyl’ yn y cadarnleoedd traddodiadol – a bod trefi fel Pwllheli hyd yn oed angen chwistrelliad o hwyl a gobaith yn y Gymraeg.