Mae artist o Geredigion wedi cyflwyno portread o’i waith o Dai Jones Llanilar i Bwyllgor Sioe’r Cardis.

Ceredigion yw’r sir sydd yn noddi’r Sioe Fawr yn Llanelwedd eleni.

Mae disgwyl i’r sir sy’n noddi godi cronfa o arian i’w gyflwyno i’r Sioe yn ganolog.

Mae codi arian at achosion da yn heriol mewn cyfnod o chwalfa economaidd, a gobeithio y bydd gwerthu’r llun yn hwb i’r gweithgaredd codi arian eleni.

Y gobaith yw y bydd gwerthu’r llun ar ocsiwn yn rhoi hwb munud olaf i’r gronfa, ar drothwy’r Sioe mis yma.

Gallai personoliaeth enfawr fel Dai Jones lenwi’r pafiliynau mwyaf yn Llanelwedd, ac yntau’n ganwr poblogaidd enillodd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Rhydaman 1979.

Roedd nifer o’i raglenni Cefn Gwlad ar S4C yn cael eu hystyried yn glasuron, ac enillodd wobr BAFTA am ei gyfraniad i’r cyfryngau.

Wynne Melville Jones

Mae’r artist Wynne Melville Jones yn gweithio o stiwdio yn ei gartref yn Llanfihangel Genau’r Glyn yng Ngheredigion.

Sefydlodd ei hun fel arlunydd wedi iddo ymddeol o fod yn gweithio yn y byd PR am ddeugain mlynedd.

Mae cryn alw am ei waith dros Gymru a thu hwnt, ac mae nifer o’i luniau yn America. Yn eu plith mae un yng nghasgliad celf yr Arlywydd Jimmy Carter, ac un arall yng nghartref Elvis yn Graceland Tenessee.

Dywed Wyn Mel iddo baentio’r darlun hwn o Dai Jones pan fu farw yn 2022, a hynny fel teyrnged bersonol iddo.

“Dai Jones oedd y llysgennad gorau erioed i gefngwlad Cymru, i amaethyddiaeth ac i’r Sioe Fawr,” meddai.

“Roedd yn meddwl y byd o’r Sioe ac yn cyfeirio ati yn gyson fel y Sioe Ore yn y Byd.

“Roedd Dai yn berson unigryw yn bersonoliaeth gynnes, hoffus a lliwgar ac roeddwn fel llawer iawn o bobol eraillyn ei ystyried yn ffrind ffyddlon a theyrngar.

“Roeddwn hefyd yn ystyried fy hun yn freintiedig iawn o gael ymuno ag e a llond llaw o gymeriadau tebyg bob blwyddyn dros y degawdau i ddathlu’r Nadolig dros ginio yn Aberystwyth yn ystod y dyddiau yn arwain fyny at y ’diwrnod mawr’.

“Roedd yn brofiad hynod a’r dwrnod yn ddieithriad yn datblygu yn naturol i fod yn Noson Lawen heb derfyn iddi a Dai wrth ei fodd yng nghanol y rhialtwch.

“Byddai’r hwyl a’r chwerthin yn fyw iawn yn y cof fisoedd wedyn.

“Un flwyddyn, sbel yn ôl, cefais y dasg o arwain Dai o un cornel o faes Llanelwedd i’r cornel pellaf un ar gyfer cyfweliad ar y cyfryngau.

“Tasg heriol, bron yn amhosibl, a thaith a gymerodd ddwyawr.

“Roedd pawb yn nabod Dai ac yntau yn benderfynol o gyfarch pawb.”

  • Mae’r Sioe Fawr yn cael ei chynnal yr wythnos hon, o ddydd Llun, Gorffennaf 22 i ddydd Iau, Gorffennaf 25.