Mae’r gantores Georgia Ruth wedi cyhoeddi na fydd hi’n chwarae yng Ngŵyl Latitude, a’i bod hi wedi gohirio ei gig yn Llundain yr wythnos hon.

Daw hyn wedi i’w gŵr Iwan Huws, prif leisydd y band Cowbois Rhos Botwnnog, gael ei daro’n wael yn ystod eu set yn Sesiwn Fawr Dolgellau nos Wener (Gorffennaf 19).

Dywedodd y band ar y cyfryngau cymdeithasol y bu’n rhaid torri’r set yn fyr am “resymau iechyd”.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, ac mae bellach mewn cyflwr “sefydlog” ac yn “derbyn y gofal gorau posib”.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed Georgia Ruth ei bod yn “diolch o galon i bawb am y geiriau caredig”, a bod y teulu yn “edrych ymlaen yn fawr at gael e adre”.

“Yn anffodus, ni fyddaf yn gallu chwarae fy sioeau yn y Green Note a Latitude yr wythnos hon,” meddai.

“Byddwn ni’n aildrefnu’r sioe yn Llundain ar gyfer dyddiad hwyrach.

“Bydd lleoliad y sioe yn cysylltu â’r rhai gyda thocynnau yn fuan gyda manylion i gario tocynnau drosodd neu i dderbyn ad-daliad.

“Diolch am eich dealltwriaeth.”