Heidiodd miloedd o bobol draw i fwynau’r ŵyl gerddorol boblogaidd Sesiwn Fawr Dolgellau dros y penwythnos (Gorffennaf 18-21).

Roedd trefnwyr yr ŵyl wedi sicrhau dros 50 o artistiaid i berfformio ar draws unarddeg llwyfan, gan ddod â chymysgedd eclectig o gerddoriaeth i ganol tref Dolgellau.

Ymhlith artistiaid cerddorol prif lwyfan yr ŵyl roedd Eden, Vrï, Steve Eaves, Mared, N’Famady Kouyaté, y cerddor gwerin o Lydaw David Paquet, a’r ddeuawd afro house Raz & Afla.

Dyma ddetholiad o luniau o’r penwythnos gan ffotoNant…

Y gantores o bentref Brynrefail ger Llanberis, Buddug, yn perfformio yn y Clwb Rygbi nos Wener

 

Y dorf yn mwynhau ger llwyfan y Ship nos Wener

 

N’famady Kouyaté yn chwarae ar lwyfan y Ship

 

Iwan Huws, prif leisydd Cowbois Rhos Botwnnog, yn ystod eu set ar lwyfan y Ship nos Wener

 

David Pasquet o Lydaw yn cloi prif lwyfan y Ship, nos Wener

 

Patrobas yn chwarae ar y nos Wener

 

Celt yn y Clwb Rygbi, nos Wener

 

Y criw ifanc, Twmpdaith, yn diddanu ar y Sgwâr

 

Fleur de Lys ar lwyfan y Sgwâr brynhawn Sadwrn

 

Sesiwn ioga gyda Leisa Mererid yn y Pentre’ Plant brynhawn Sadwrn

 

Bu Côr Makaton lleol a Mr Phormula yn perfformio ar lwyfan y Sgwâr brynhawn Sadwrn

 

Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Bêl-droed Cymru oedd y gwestai ar gyfer sgwrs gydag Ywain Myfyr yn Nhŷ Siamas brynhawn Sadwrn

 

Fleur de Lys yn perfformio ar lwyfan y Sgwâr

 

Y dorf yn mwynhau er gwaetha’r glaw

 

Eden yn cloi llwyfan y Ship ar brynhawn Sul