Dyma argraffiadau Lili Ray o Tafwyl yng Nghaerdydd ar benwythnos Gorffennaf 12-14…


Roedd llwyddiant Tafwyl eleni yn amlwg o’r cychwyn cyntaf. Mewn cyfweliad ar Instagram, fe ddatgelodd Heulyn Rees, Prif Weithredwr y trefnwyr Menter Caerdydd, fod “dwbl y nifer a gerddodd drwy’r drws yn yr awr gyntaf eleni o gymharu â’r llynedd”.

Parhaodd hyn drwy gydol y penwythnos, gyda niferoedd oedd yn bresennol yn yr ŵyl yn torri record unwaith eto.

Gyda chynifer yn heidio i Tafwyl, gellid teimlo effaith economaidd yr ŵyl ledled y ddinas – o’r stondinau bwyd a chrefft i’r bwytai a gwestai cyfagos, bu’r ŵyl yn hwb amlwg i fusnesau lleol.

Roedd croeso i bawb ym Mharc Bute dros y penwythnos, yn Gymry Cymraeg, yn siaradwyr newydd, neu’n ymwelwyr o bell. Roedd pawb yn awyddus i brofi awyrgylch unigryw’r ŵyl. Cafodd ychydig o redwyr diarwybod, hyd yn oed, eu dal yn y cyffro ar eu llwybr boreol drwy’r parc!

Croeso i bawb, a llwyfan i bawb

Roedd y prif lwyfan yn fwrlwm o berfformiadau gan amrywiaeth o artistiaid, gan gynnwys Meinir Gwilym, Fleur De Lys, Kim Hon a Gwilym.

Ers y dyddiau cynnar ym maes parcio’r Mochyn Du, mae Tafwyl wedi ehangu’n sylweddol, ac mae bellach yn cynnig llwyfan amlwg i artistiaid ifanc hefyd.

Rhannodd Alis Glyn, cantores 17 oed o Gaernarfon, oedd yn perfformio yn yr ŵyl am y tro cyntaf eleni, ei bod hi’n “credu bod Tafwyl yn wych am roi cyfle i artistiaid ifanc berfformio mewn gŵyl mor cŵl â hon”.

“Dwi’n hoffi gweld y datblygiad wrth i fandiau ifainc symud o un llwyfan i’r llall wrth iddyn nhw dyfu o ran gwrandawyr,” meddai.

“Yn sicr mae gŵyl fel Tafwyl yn rhoi mwy o hyder i mi fel artist i barhau i gyfansoddi yn y Gymraeg, yn enwedig yn sgil yr holl gefnogaeth a chynulleidfa oedd yno flwyddyn yma!”

Roedd cyffro a chefnogaeth y gynulleidfa’n amlwg wrth i egni rap Cymraeg gan Lloyd, Dom, Don a Sage Todz adleisio drwy’r ddinas – tystiolaeth fod genre cerddoriaeth fel rap yn gallu denu cynulleidfa drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ychwanegu tro cyfoes at ddathliad traddodiadol.

Nos Sadwrn, cafwyd perfformiad cofiadwy gan Yws Gwynedd, wedi’i ddilyn gan berfformiad eiconig gan Eden ar y nos Sul, gydag ymddangosiad annisgwyl gan Ian ‘H’ Watkins o Steps.

Mewn cyfweliad Instagram, dywedodd Rachel Solomon o’r band Eden ei bod hi’n “anhygoel faint mae Tafwyl wedi tyfu dros y blynyddoedd”.

“Mae o mor amazing ein bod ni’n gallu cael gŵyl fel hyn sy’n rhoi cyfle i fandiau hen a newydd.”

Ategodd Emma Walford hyn, gan bwysleisio arwyddocâd yr ŵyl wrth “[f]od yng nghanol y brifddinas yn dathlu Cymreictod”.

Wrth i’r haul fachlud dros Barc Bute ar ddiwedd y penwythnos, roedd y ddinas yn tywynnu â golau cynnes y dathlu. Profwyd unwaith eto nad gŵyl yn unig yw Tafwyl, ond cadarnhad gorfoleddus o barhad Cymreictod.