Penri Roberts a Linda Gittins yw enillwyr Medal Goffa Syr T.H. Parry-Williams eleni – y tro cyntaf i fwy nag un person dderbyn y wobr ar y tro.

Bydd y ddau, oedd wedi sefydlu Cwmni Theatr Maldwyn ar y cyd â’r diweddar Derec Williams, yn derbyn yr anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd fis nesaf.

Cwmni Theatr Maldwyn

Cafodd Cwmni Theatr Maldwyn ei sefydlu ym Machynlleth yn 1981.

Ers hynny, mae’r cwmni wedi dod yn adnabyddus am eu sioeau theatrig eiconig Cymraeg, gan gynnwys Ann!, Y Mab Darogan a Pum Diwrnod o Ryddid.

Dros y deugain mlynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi cynnig profiadau amhrisiadwy i bobol ifanc cefn gwlad y canolbarth, ac wedi meithrin rhai o sêr mwyaf dawnus sioeau cerdd y Deyrnas Unedig, gydag amryw yn serennu ym mhrif rannau sioeau fel Phantom of the Opera a Les Miserables.

Tan eleni, mae’r Fedal wedi’i chyflwyno’n flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobol ifanc.

Ond eleni, bydd y ddau’n eistedd ar lwyfan y Pafiliwn yn cael eu hanrhydeddu.

Cofio Derec Williams

“Rydw i’n hynod falch o dderbyn y Fedal hon ac yn falch iawn dros Penri hefyd,” meddai Linda Gittins.

“Ond wrth i ni dderbyn yr anrhydedd, rydyn ni’n cofio am Derec.

“Roedden ni’n gweithio fel triawd, nid fel tri unigolyn.

“Y tri ohonon ni sylfaenodd Gwmni Theatr Maldwyn, ac mae’r Fedal hon gymaint iddo fo ag i ni’n dau.

“I’r tri ohonon ni, y sioe oedd bwysicaf ac roedd gweld llwyddiant honno a mwynhad y criw a’r cast yn ddiolch ynddo’i hun.

“Wnes i erioed feddwl y buaswn yn derbyn y fath anrhydedd.

“Roedd yn sioc cael gwybod a dydw i dal ddim yn credu’r peth.”

Mae Penri Roberts hefyd wedi talu teyrnged i Derec Williams.

“Rydw i’n ddiolchgar i’r Eisteddfod am y fath anrhydedd, ac rydw innau eisiau datgan ein bod hefyd yn derbyn y Fedal ar ran y diweddar Derec Williams,” meddai.

“Triawd oedden ni wrth gyfansoddi a chynhyrchu holl sioeau Cwmni Theatr Maldwyn, a thri ffrind yn ogystal.”

Doedd yr un o’r ddau wedi disgwyl cael eu henwebu ar gyfer Medal Goffa Syr TH Parry-Williams, heb sôn am dderbyn yr anrhydedd.

Dywed Linda Gittins ei fod yn “sioc aruthrol” cael gwybod mai nhw fydd yn rhan o’r seremoni ar lwyfan y Pafiliwn eleni.

Cawson nhw wybod eu bod nhw am gael eu gwobrwyo yn ystod ymarferiad o’u sioe Pum Diwrnod o Ryddid, fydd yn teithio Cymru yn ddiweddarach eleni.

“Cefais wybod bod criw teledu am ein ffilmio ni’n ymarfer ar gyfer eitem, a ro’n i ar ganol egluro hyn i’r criw pan ddaeth Alwyn Siôn i sefyll o flaen pawb a dweud wrtha i a Linda am eistedd i lawr, ac yna fe eglurodd am y Fedal – wel, am sioc!” meddai Penri Roberts.

Syr T.H. Parry-Williams

Bu Syr TH Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, cafodd cronfa ei sefydlu i goffáu ei gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod.

Caiff y gronfa ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.

Bydd Penri Roberts a Linda Gittins yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn am 12:30 ddydd Mawrth, Awst 6.