Mae cystadleuaeth Canwr y Byd wedi cael ei gohirio tan 2027, yn sgil cau Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.
Cafodd y neuadd ei chau fis Medi’r llynedd, er mwyn archwilio paneli concrit RAAC yn y nenfwd.
Daeth archwilwyr i’r casgliad y byddai angen to newydd arni, allai gymryd hyd at ddeunaw mis.
Roedd y gystadleuaeth ryngwladol, sy’n cael ei llwyfannu bob dwy flynedd yn y neuadd, fod i’w chynnal yno fis Mehefin nesaf.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei hadnabod mewn cylchoedd cerddoriaeth glasurol fel ffenest siop i gantorion opera a chyngerdd ar ddechrau eu gyrfa.
Fe fu’n sbardun i gantorion sydd wedi datblygu i fod yn fyd-enwog, megis Bryn Terfel, Karita Mattila, Dmitri Hvorostovsky, Anja Harteros a Jessica Robinson.
Cyngerdd yn hytrach na chystadleuaeth
Yn lle cystadleuaeth, bydd cyngerdd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm fis Hydref nesaf.
Bydd y gyngerdd yn rhan o Ŵyl Llais, sef gŵyl gerddoriaeth ryngwladol Caerdydd, gyda chyn-enillwyr a chystadleuwyr adnabyddus yn perfformio.
Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, wrth y BBC fod gan “gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC le pwysig yn y calendr cerddorol rhyngwladol yn ogystal ag yma yng Nghymru”.
“Mae’r cyngerdd gala hwn yn gyfle gwych i ddathlu rhai o’r lleisiau eithriadol a ddeilliodd o’r gystadleuaeth hon i’w mwynhau nid yn unig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ond gan gynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Rwyf hefyd yn falch iawn o gael gweithio gyda thîm deinamig a chreadigol Gŵyl Llais ac edrychaf ymlaen at noson i’w chofio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fis Hydref nesaf.”