Mae opera newydd wedi cael ei chyfansoddi i nodi 90 mlynedd ers trychineb mewn pwll glo ger Wrecsam.
Bu farw 266 o ddynion a bechgyn yn Nhrychineb Gresffordd yn sgil ffrwydrad ar Fedi 22, 1934.
Bydd y gwaith newydd, Gresford – Up From Underground, yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yng Nghadeirlan Llanelwy ar Fedi 12.
Jonathan Guy sy’n gyfrifol am ei hysgrifennu, a bydd yn cael ei arwain gan ei frawd, Robert Guy. Y bardd Grahame Davies sydd wedi ysgrifennu’r geiriau.
Roedd mwy na 500 o ddynion yn gweithio dan ddaear ar ddiwrnod y Trychineb yn 1934, ac roedd nifer y gweithwyr yn llawer mwy na’r arfer gan fod nifer wedi dyblu eu shifftiau er mwyn gallu gwylio gêm bêl-droed yn Wrecsam yn ddiweddarach ar y diwrnod hwnnw.
Dim ond chwech o’r glowyr o’r rhan honno o’r pwll glo lwyddodd i ddianc.
Y cyfansoddwr Brenhinol Paul Mealor o Gei Connah, Cyfarwyddwr Artistig newydd Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, sydd wedi comisiynu’r gwaith.
Mae’r perfformiad yn cynnwys chwe chanwr proffesiynol, cerddorfa’r NEW Sinfornia, côr cymunedol o 120 o bobol, a hyd at ugain o gerddorion ifainc, yn ogystal â’r actor Mark Lewis Jones yn adroddwr.
‘Carreg filltir’
Mae gan Jonathan a Robert Guy gysylltiad teuluol agos â’r diwydiant glo yn eu tref enedigol – roedd eu taid Jack Monslow yn ffitiwr ym mhyllau glo Llai a’r Bersham.
“Fel rhywun o ardal Wrecsam cefais fy magu yng nghysgod Trychineb Gresffordd gan ddysgu amdano yn yr ysgol, oherwydd mae’n rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol,” meddai Jonathan Guy.
“Mae nodi 90 mlynedd ers y digwyddiad yn garreg filltir arwyddocaol a gan mai NEW Sinfonia yw sefydliad cerddoriaeth broffesiynol Wrecsam byddai wedi bod yn esgeulus i mi beidio â cheisio gwneud cyfiawnder â’r achlysur.
“Pan siaradais â’r bobol yng Nghanolfan Achub Glowyr Wrecsam, fe ddywedon nhw wrtha i fod y dynion fu farw wedi colli hanner eu cyflog am nad oedden nhw wedi cwblhau eu shifft.
“Roedd cyflogau llawer ohonyn nhw yn eu pocedi, ac mae’r arian yn dal i lawr yno gyda nhw. Ni chafodd eu teuluoedd byth eu talu.
“Doeddwn i ddim eisiau iddo fod yn hollol hanesyddol. Roedd Trychineb Gresffordd yn drasiedi, ond roeddwn hefyd am i’r opera adlewyrchu Wrecsam fel lle cadarn a’i thrigolion fel pobol wydn.
“Mae Wrecsam ar gynnydd eto gyda’r clwb pêl-droed, a hefyd yn ddiwylliannol a gyda’i statws dinas newydd.
“Yr hyn sydd hefyd wedi bod yn hyfryd iawn yw, ers i ni gyhoeddi ein bod yn gwneud hyn ar gyfer 90 mlwyddiant y Trychineb, fod cymaint o bobol wedi dod ataf a siarad am eu cysylltiadau eu hunain, nid yn unig â Gresffordd ond y diwydiant glo yn yr ardal.”
‘Rhoi ar y map’
Mae Grahame Davies, Dirprwy Ysgrifennydd Preifat i’r Brenin Charles pan oedd yn Dywysog Cymru, yn dod o Goedpoeth ger Wrecsam, a dywed ei fod yn gallu gweld y pwll glo o ffenest eu cartref.
“Roedd fy nhaid fy hun yn gweithio yng Nglofa Llai fel adeiladwr yn gosod y gêr weindio,” meddai’r bardd.
“Roeddwn i’n awyddus i Gresffordd gael ei chofio a’i rhoi ar y map, oherwydd un o’r themâu yn y gwaith yw na chafodd y trychineb y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu ac nad oedd cyfiawnder wedi’i wneud i’r glowyr a’u teuluoedd.
“Ond roedden ni hefyd eisiau gorffen ar nodyn cadarnhaol gyda rhywbeth mwy pendant a hyderus drwy fyfyrio ar gymuned sydd bellach yn ffynnu gydag ymdeimlad newydd o bwrpas.”
‘Arbennig o deimladwy’
Mae perfformiad cyntaf yr ŵyl yn cael ei gefnogi gan un o brif noddwyr y digwyddiad, sef y sefydliad gofal Parc Pendine, fu’n gofalu am Albert Rowlands, goroeswr olaf trychineb Gresffordd fu farw yn 2020.
Roedd yn fachgen lamp 15 oed yn y pwll glo ar y pryd, ac roedd ei dad John ymhlith y rhai fu farw ar y diwrnod hwnnw.
“Bydd yn achlysur arbennig o deimladwy i ni gan ein bod wedi cael y fraint o ddarparu gofal i Albert Rowlands – dyn arbennig a oroesodd drawma trychineb Glofa Gresffordd ac aeth ymlaen i fyw bywyd llawn iawn,” meddai Mario Kreft, perchennog Parc Pendine.
“Rydym yn dymuno rhoi ein cefnogaeth i’r première er cof am Albert.”
Bydd perfformiadau’r opera yn Llanelwy’n cael eu recordio i’w darlledu ar BBC Radio Cymru, ac wedyn bydd yr opera’n cael ei pherfformio yn Eglwys San Silyn yn Wrecsam rhwng Medi 19-22.