Mae arddangosfa newydd sy’n dangos dylanwad yr Ysgwrn ar lenyddiaeth, celf a cherddoriaeth wedi’i gosod yng nghartref Hedd Wyn.
Dros y ganrif ddiwethaf, mae beirdd o T.H. Parry-Williams i Twm Morys, ac artistiaid o Rob Piercy i Luned Rhys Parri, wedi cael eu hysbrydoli gan y ffermdy yn Nhrawsfynydd.
Nos Fercher, Gorffennaf 31 – 107 o flynyddoedd union ers i fardd y Gadair Ddu gael ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf – bydd beirdd ac awduron yn trafod gwerth a phwysigrwydd llenyddiaeth am ryfel, heddwch ac erledigaeth hefyd.
Mae’r arddangosfa barhaol newydd, ‘Yr Ysgwrn yn Ysbrydoli’, yn cynnwys gweithiau celf gan Catrin Williams, Wini Lewis Jones, Luned Rhys Parri, Rob Piercy, Christine Mills, Lauren Eastwood-Roberts ac Iwan Bala.
Ynghyd â’r gwaith celf, mae cerddi gan feirdd megis Alan Llwyd a Marged Tudur i’w gweld yn yr arddangosfa.
“Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi casglu a derbyn celf ar ffurf rhoddion hefyd, gan wahanol artistiaid,” meddai Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n berchen ar Yr Ysgwrn, wrth golwg360.
“Mae’r Ysgwrn yn amlwg yn lle sy’n ysbrydoli creadigrwydd ers canrif fwy neu lai, o safbwynt barddoniaeth, cerddoriaeth, celf ac ati.
“Mae rhywun yn meddwl am englynion coffa Hedd Wyn, rhywfaint o farddoniaeth enwocaf Cymru, yn mynd yn ôl canrif, ac mae hynny wedi parhau dros y blynyddoedd.
“Yn fwy diweddar, rydyn ni wedi cael nofelau fel Diffodd y Sêr gan Haf Llewelyn, a Canrif yn Cofio yn gyfrol gafodd ei chyhoeddi yn 2017 yn casglu lot o’r cerddi hanesyddol a chyfoes am yr Ysgwrn a stori Hedd Wyn.
“Roedd o’n teimlo bod yna gasgliad da wedi dod at ei gilydd, a bod angen ei guradu a’i gyflwyno fo mewn ffordd ddeniadol a diddorol i bobol.”
‘Tynnu haenau ynghyd’
Branwen Haf fu’n gyfrifol am guradu’r gwaith, a Lois Prys wnaeth gynllunio’r arddangosfa.
Un o ddarnau’r arddangosfa yw cadair wen gafodd ei chreu gan Christine Mills a’i dangos yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017. Mae’r darn, ‘Y Gorchudd Llwch’, wedi cael ei greu gyda gwlân o’r Ysgwrn, gafodd ei lanhau gan ddefnyddio dŵr o ffynnon yr Ysgwrn hefyd.
“Mae hi’n cymharu’r gorchudd llwch yma mewn ffordd sy’n gwarchod y gadair wen a’r stori a’r holl etifeddiaeth efo gwaith Gerald [Williams, nai Hedd Wyn] ar hyd y blynyddoedd yn cadw’r drws yn agored ac yn gwarchod ac yn cadw etifeddiaeth Hedd Wyn a’r Gadair Ddu yn fyw,” meddai Naomi Jones.
Dros y blynyddoedd, mae stori’r Ysgwrn a sut gadwodd y diweddar Gerald Williams y drws ar agor ar ddymuniad ei nain – Mary Evans, mam Hedd Wyn, a’i fagodd.
“Geiriau Gruffudd Antur dw i’n meddwl amdanyn nhw o hyd; mi ddisgrifiodd o’r Ysgwrn fel ‘cofeb dawel i Hedd Wyn ac i’r genhedlaeth goll’,” meddai Naomi Jones.
“Un gwaith sy’n cyfleu hynny’n wych ydy gwaith Luned Rhys Parri, sef ei gwaith papier maché 3D clasurol hi o ddresel yr Ysgwrn yn gywrain, gywrain, a Gerald a Malo, ei chwaer, bob ochr. Mae’r cysylltiad ar hyd y cenedlaethau yn bwysig – y cysylltiad efo’r safle a’r tŷ a’r holl naws am le, a’r ffordd mae hynny wedi ysbrydoli pobol.”
“Cymharu hynny wedyn efo gwaith Iwan Bala, sef map o frwydr Passchendaele [lle bu farw Hedd Wyn], sy’n cynnwys cerdd ‘Rhyfel’ Hedd Wyn ac un o’i englynion o hefyd.
“Mae o’n tynnu lot o’r haenau yna sy’n gwneud yr Ysgwrn a’r ffordd mae’r etifeddiaeth wedi cael ei gwarchod dros y blynyddoedd ynghyd, a’i ddehongli fo o’r newydd.”
Ffrog sydd wedi cael ei hysbrydoli gan ffrog wisgodd Mari, un o chwiorydd hynaf Hedd Wyn, yn un o’r unig luniau ohoni yw cyfraniad Lauren Eastwood-Roberts at yr arddangosfa.
“Roedd Lauren Eastwood-Roberts yn fyfyrwraig ym Manceinion pan fu’n gweithio ar y ffrog, sy’n cynnwys lluniau o waith Hedd Wyn a’r teulu.
Yn ddiweddar, bu rhaglen Georgia Ruth ar BBC Radio Cymru yn recordio artistiaid, gan gynnwys Gwyneth Glyn, Melda Lois, Sam Humphreys a Megg Lloyd, yn cyfansoddi a chreu yn yr Ysgwrn.
Bydd y traciau hynny ar gael i wrando arnyn nhw yn Oriel yr Ysgwrn o ddydd Sul (Gorffennaf 28) ymlaen.
Mae disgyblion Ysgol Bro Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd wedi cyfrannu dehongliad lliwgar o ddresel yr Ysgwrn at yr arddangosfa hefyd, yn dilyn gweithdai gyda’r artist Mari Gwent.
‘Mae sŵn yr ymladd ar ein clyw…’
Nos Fercher, Gorffennaf 31 am 7:30 o’r gloch, bydd sesiynau ‘Mae sŵn yr ymladd ar ein clyw’ yn parhau yn Yr Ysgwrn gyda Sian Northey, Ifor ap Glyn a Mike Parker yn trafod a darllen eu gwaith.
Mae’r sesiynau wedi’u trefnu ar y cyd rhwng PEN Cymru a Chymdeithas y Cymod, ac roedd sgwrs debyg yng Ngŵyl Arall yng Nghaernarfon gyda Mike Parker, Ifor ap Glyn ac Angharad Price hefyd.
Bydd criw arall yn trafod gwerth a phwysigrwydd llenyddiaeth am ryfel, heddwch ac erledigaeth yn y Babell Lên ym Mhontypridd ddydd Sadwrn, Awst 3, sef Mererid Hopwood, Rhun Dafydd, Menna Elfyn, Casi Wyn ac Ifor ap Glyn.