Ddydd Gwener diwethaf, cafodd adroddiad ei gyhoeddi ar wefan y BBC oedd yn trafod effaith gwarchae byddin Israel ar drigolion cyffredin Israel. Fel rhan o’r erthygl, cafodd lluniau eu dangos o blant sydd wedi troi’n ysgerbydau byw i bob pwrpas, plant sy’n llwgu i farwolaeth yn Gaza, plant sydd heb fynediad at fwyd na dŵr glân, ac sy’n dioddef o heintiau difrifol o’r herwydd. Roedd y lluniau o’r plant gyda breichiau a choesau fel matsis a’u cyrff newynog yn atgoffa dyn o’r math o luniau a sbardunodd ymgyrch Live Aid nôl yn wythdegau’r ganrif ddiwethaf. Petai rhywun eisiau prawf fod newyn eisoes wedi dechrau yn Gaza, roedd y lluniau a’r adroddiad oedd yn eu cynnwys yn tanlinellu hynny’n gwbl glir.
Wedi darllen yr erthygl a sbïo ar y lluniau, y cwestiwn oedd yn codi yn fy mhen oedd hyn. Sut maen nhw’n teimlo – y plant dioddefus a’r rhieni pryderus a’r meddygon ymroddgar sy’n methu gwneud fawr o ddim ond rhoi gofal sylfaenol iawn i’r plant hyn tra’n eu gwylio’n gwanhau o ddydd i ddydd? Sut maen nhw’n teimlo?
Yr un diwrnod, darllenais gyfweliad hir yn y papur dyddiol Israelaidd Hareetz gydag Arwa Damon, cyn-ohebydd gyda sianel CNN, sydd wedi gweld mwy na’i siâr o ddioddefaint ar draws y byd fel gohebydd rhyfel mewn llefydd fel Irac a Syria. Er ei bod wedi gweld dioddefaint dynol ar raddfa arswydus yn y gorffennol, meddai, doedd dim byd wedi’i pharatoi ar gyfer yr hyn welodd hi yn Gaza. Sut oedd hi’n teimlo o weld y dinistr yno? “Gwelais farwolaeth yr enaid dynol,” meddai.
Y diwrnod wedyn, darllenais gyfweliad yn y Guardian gyda Syr Keir Starmer (‘You asked me questions I’ve never asked myself’: Keir Starmer’s most personal interview yet). Er i’r gohebydd Charlotte Edwardes holi Starmer ynglŷn â nifer o bethau am ei fywyd, chafodd un cwestiwn mo’i ofyn: sut mae o’n teimlo? Yn benodol, sut mae o’n teimlo rŵan o weld y cyrff yn pentyrru yn Gaza a phlant yn llwgu i farwolaeth ac yntau wedi datgan yn glir ac yn groyw mewn cyfweliad roddodd o i LBC ar ddechrau’r rhyfel hwn fod gan Israel yr hawl i osod poblogaeth Gaza dan warchae a rhwystro dŵr glân a bwyd rhag eu cyrraedd?
Yn dilyn beirniadaeth eang o’u sylwadau, aeth peiriant propaganda’r Blaid Lafur yn ganolog ati’n wyllt i geisio lleihau’r niwed gwleidyddol roedd hyn wedi’i achosi gan gyhoeddi ‘eglurhad’ (clarification) yn honni nad oedd wedi dweud yr hyn yr honnwyd iddo ei ddweud, ac mai’r hyn roedd o wedi’i ddweud, yn hytrach, oedd fod hawl gan Israel i’w hamddiffyn ei hun.
Rhag ofn fod ei elynion gwleidyddol wedi ceisio camliwio’r hyn ddywedodd Starmer, es i ati i wylio’r cyfweliad gwreiddiol droeon ar YouTube. Mi faswn i’n herio unrhyw berson gwrthrychol i wylio’r cyfweliad hwnnw a derbyn yr ‘eglurhad’ gafodd ei roi wedyn gan y Blaid Lafur a chan Starmer ei hun nad oedd wedi datgan fod hawl gan Israel i osod gwarchae o bŵer a diod ar drigolion Gaza. Gwyliwch y cyfweliad.
Ond rhag ofn nad oes gynnoch chi’r amser i wneud hynny, dyma drawsgrifiad o’r hyn gafodd ei ddweud yn ystod y cyfweliad ynglŷn â’r gwarchae (munud i mewn i’r cyfweliad). Yn dilyn sylwadau gan Starmer, lle mae’n datgan fod hawl gan Israel i’w hamddiffyn ei hun (do, mi wnaeth o ddweud hynny), mae Nick Ferrari yn ei holi’n benodol am ei farn ynglŷn a chynnal gwarchae.
NF: A siege is appropriate? Cutting off power, cutting off water, Sir Keir?
KS: Well, I think that Israel does have that right. It is an ongoing situation. Um … Obviously everything should be done within international law but I don’t want to step away from the core principles that Israel has a right to defend herself.
Fel cyfreithiwr hawliau dynol, mi ddylai Keir Starmer wybod nad oes modd cynnal gwarchae o boblogaeth sifil o dan gyfraith ryngwladol, na chwaith ddial ar boblogaeth sifil oherwydd gweithredoedd grŵp terfysgol sy’n honni gweithredu ar ei rhan. Wrth esbonio ei resymeg dros alw am warant i arestio Benjamin Netanyahu a Yoav Gallant am droseddau rhyfel yn Gaza, mae Karim Khan, erlynydd yr ICC, wedi tanlinellu’r gwahaniaeth rhwng gweithredoedd Llywodraeth Prydain yn dilyn ymosodiadau ar dir mawr Prydain gan yr IRA a’r hyn y mae Israel yn ei wneud yn Gaza. Wnaeth Llywodraeth Prydain ddim caethiwo Catholigion Gogledd Iwerddon mewn llain gyfyng o dir a bomio’r lle ’nôl i Oes y Cerrig. Wnaeth hi ddim atal bwyd a dŵr glân na phŵer rhag eu cyrraedd. Petai hi wedi gwneud hynny, byddai wedi bod yn euog o droseddau rhyfel (fel mae Israel), a byddai aelodau o’r llywodraeth wedi wynebu derbyn gwarantau i’w harestio.
Yn anffodus, nid achos unigryw oedd yr hyn ddywedodd Keir Starmer yn y cyfweliad gyda Nick Ferrari. Dro ar ôl tro ers hynny, pan fo holwyr yn gofyn iddo a oes ganddo unrhyw gydymdeimlad â’r Palestiniaid yn Gaza, mae’n newid y pwnc ac yn ailadrodd y slogan mai Hamas sy’n gyfrifol am y sefyllfa. Yn y diwedd, cafodd ei lusgo wysg ei gefn gan aelodau seneddol ei blaid ei hun i alw am gadoediad yn Gaza ar ôl gwrthwynebu’r alwad honno yn gyson.
Ond i fynd yn ôl at fy nghwestiwn gwreiddiol ynglŷn â Keir Starmer… Sut mae o’n teimlo rŵan o weld y cyrff yn pentyrru yn Gaza a phlant yn llwgu i farwolaeth, ac yntau wedi datgan yn glir ac yn groyw mewn cyfweliad roddodd o i LBC ar ddechrau’r rhyfel hwn fod gan Israel yr hawl i osod poblogaeth Gaza dan warchae a rhwystro dŵr glân a bwyd rhag eu cyrraedd?
Teitl y cyfweliad yn y Guardian oedd ‘You asked me questions I’ve never asked myself.’ Mi faswn i wedi hoffi petai Charlotte Edwardes wedi holi’r cwestiwn penodol hwn iddo fo, gan ei fod o, yn amlwg, heb ei ofyn iddo fo’i hun.