Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n gwrthod cefnogi Cyllideb Vaughan Gething, fydd yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref.
Gallai’r cam, sydd wedi’i gyhoeddi gan yr arweinydd Jane Dodds, roi mwy o bwysau ar Brif Weinidog Cymru i gamu o’r neilltu.
Mae gan Lafur 30 o seddi yn y Senedd, sy’n golygu eu bod nhw un sedd yn brin o fwyafrif a bod angen cefnogaeth o leiaf un aelod o’r gwrthbleidiau arnyn nhw er mwyn pasio’r Gyllideb.
Yn ôl Jane Dodds, byddai ei phlaid yn barod i gymeradwyo’r Gyllideb pe bai Llafur yn dewis arweinydd newydd erbyn hynny, ac mae’n debygol na fyddai’r Ceidwadwyr na Phlaid Cymru yn fodlon cefnogi Cyllideb Vaughan Gething, ar ôl iddyn nhw bleidleisio yn ei erbyn mewn pleidlais hyder.
Ond ar hyn o bryd, dydy’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn barod i gefnogi’r Llywodraeth Lafur o ganlyniad i sgandalau niferus eu harweinydd, gan gynnwys y sgandal rhoddion, ar ôl iddo fe dderbyn £200,000 gan gwmni unigolyn gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.
Er gwaetha’r bleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn, mae Vaughan Gething yn gwrthod ymddiswyddo na chydnabod canlyniad y bleidlais.
Mae Llafur hefyd yn honni mai “gimic” oedd y bleidlais yn ei erbyn, ond dywed Jane Dodds nad oedd pleidleisio yn erbyn y Prif Weinidog yn benderfyniad hawdd.
‘Sawl cyfle i wneud y peth iawn’
“Fydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ddim yn cefnogi Llafur i basio’u Cyllideb,” meddai Jane Dodds.
“Collodd Vaughan Gething gynnig o ddiffyg hyder yn y Senedd, a dylen nhw weithredu yn y modd priodol.
“Mae’r Prif Weinidog wedi cael sawl cyfle i wneud y peth iawn a dychwelyd yr arian.
“Rŵan, mae’n rhaid iddo fo barchu mandad democrataidd y Senedd.
“Dydy cyhuddiadau Llafur mai ‘gimic’ yw hyn i gyd jest ddim yn wir.
“Dw i erioed wedi cefnogi cynnig o ddiffyg hyder o’r blaen, doedd o ddim yn benderfyniad hawdd i mi ei wneud.
“Dw i wedi’i wneud o oherwydd dw i’n teimlo bod y saga yn niweidio hyder pobol mewn gwleidyddiaeth ar adeg pan mae hi eisoes wedi cyrraedd y gwaelodion.
“Byddaf yn parhau i ymgyrchu dros safonau uwch yng ngwleidyddiaeth Cymru, gan gynnwys cap ar yr holl roddion gwleidyddol i ddileu dylanwad arian mawr ar ein gwleidyddiaeth.”