Mae’r prif bleidiau bellach wedi lansio’u maniffestos cyn yr Etholiad Cyffredinol ddydd Iau nesaf (Gorffennaf 4).
Mae nifer o’r polisïau sy’n cael eu crybwyll ym maniffestos y pleidiau’n faterion sydd wedi’u datganoli. Er hynny, byddai gwariant yn Lloegr ar faterion penodol, megis iechyd neu addysg, yn arwain at gyllid canlyniadol yng Nghymru. Fodd bynnag, Llywodraeth Cymru fyddai’n penderfynu sut i’w wario wedyn.
Dyma grynhoi’r prif bolisïau sy’n berthnasol i Gymru, wrth iddyn nhw gystadlu am seddi yn San Steffan…
Y Ceidwadwyr
- Tai: Dod â’r cynllun ‘Cymorth i Brynu’ yn ôl, fyddai’n rhoi benthyciad o 20% i bobol sy’n prynu eu tŷ cyntaf.
- Economi: Cael gwared ar Yswiriant Gwladol i bobol hunangyflogedig erbyn diwedd y tymor seneddol nesaf. Byddai’r newid yn costio £2.6bn y flwyddyn, ac yn cael ei ariannu drwy sicrhau bod llai o bobol yn osgoi talu trethi a thrwy ostwng y gwariant ar fudd-daliadau.
- Gwario mwy ar amddiffyn, gydag addewid i wario 2.5% o GDP ar amddiffyn
- Mewnfudo: Gyrru rhai ceiswyr lloches i Rwanda, gydag awyrennau’n hedfan yn fisol
- Gosod cap ar fewnfudo drwy gael y Senedd i benderfynu ar swm ar gyfer y fisas gwaith a theulu fyddai’n cael eu cymeradwyo bob blwyddyn. Byddai’r lefel yn disgyn flwyddyn wrth flwyddyn
- Y system gyfiawnder: Dedfrydau llymach i bobol sy’n cael eu canfod yn euog o droseddau’n ymwneud â chyllyll, meithrin perthnasau amhriodol ac ymosodiadau yn erbyn gweithwyr mewn siopau. Er mwyn cwrdd â’r galw am lefydd mewn carchardai, maen nhw’n addo agor pedwar carchar newydd erbyn 2030 – allai fod yng Nghymru neu Lloegr
- Yr amgylchedd: Mae’r maniffesto’n nodi eu bod nhw am gyrraedd eu targed o sero-net erbyn 2050. Maen nhw’n dweud na fydd unrhyw drethi gwyrdd newydd, ac maen nhw’n addo cynnal pleidlais yn San Steffan ar unrhyw benderfyniadau hinsawdd mawr. Ond, maen nhw hefyd yn dweud y byddan nhw’n cyflymu’r gwaith o gyflwyno ynni gwyrdd, ac yn cymeradwyo adweithyddion niwclear ’modiwlaidd’.
“Digon yw digon”: Y Ceidwadwyr Cymreig yn lansio’u maniffesto etholiadol
Wrth lansio’r maniffesto, mae’r blaid wedi ymosod ar record Llywodraeth Lafur Cymru dros gyfnod o chwarter canrif
Llafur
- Economi: Ceisio creu cyfoeth, gyda’r nod o wella safonau byw gweithwyr. Annog mwy o fuddsoddiad yn y gobaith y bydd yn arwain at fwy o gyllid ar gyfer hyfforddiant, sgiliau, technoleg a adeiladau.
- Codi £8bn drwy newid statws treth annomestig i bobol gyfoethog, sicrhau bod llai o bobol yn osgoi talu trethi, gosod Treth ar Werth ar ysgolion preifat, a chyflwyno treth ffawdelw i gwmnïau ynni mawr. Byddai’r arian sy’n cael ei godi’n cael ei wario ar faterion sydd wedi’u datganoli ar y cyfan – mwy o lawdriniaethau ar y Gwasanaeth Iechyd, staff iechyd meddwl, athrawon arbenigol, ynghyd â buddsoddiad gwyrdd.
- Yr amgylchedd: Gwahardd ceir petrol a disel newydd rhag cael eu gwerthu o 2030. Gwario £23.7bn ar fesurau gwyrdd yn ystod y tymor seneddol nesaf. Y nod ydy cyflymu’r broses o gyflwyno ynni adnewyddadwy a niwclear, a chreu 650,000 o swyddi erbyn 2030.
- Mewnfudo: Cael gwared ar y rhaglen Rwanda yn syth. Defnyddio’r arian i sefydlu Rheolaeth y Ffiniau ac Amddiffyn.
- Y system gyfiawnder: Cynllun i fynd i’r afael â faint o achosion o dreisio sy’n disgwyl i fynd drwy’r system gyfiawnder.
- Amddiffyn: Ymrwymiad i gadw arfau niwclear Trident, ac ymrwymo i aros yn rhan o Nato.
Maniffesto Llafur: “Cynnig beiddgar” neu “heb uchelgais i Gymru”?
Mae dehongliad Llafur a Phlaid Cymru o faniffesto Llafur y Deyrnas Unedig yn cyferbynnu’n llwyr
Plaid Cymru
- Annibyniaeth: Addo ymgynghoriad ar y llwybr i annibyniaeth, yn hytrach na refferendwm, mewn pum mlynedd. Cafwyd addewid o refferendwm yn eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd yn 2021.
- Economi: Galw am y £4bn sy’n ddyledus i Gymru yn sgil HS2. Dydy’r rheilffordd ddim yn dod i Gymru o gwbl, ond gan nad yw seilwaith y rheilffordd wedi’i ddatganoli i Gymru, mae’r Ceidwadwyr wedi gwrthod galwadau Cymru am yr arian fyddai wedi cael ei wario yma pe bai’n cael ei ystyried yn brosiect Lloegr yn unig, yn hytrach nag un Cymru a Lloegr.
- Cyflwyno treth ffawdelw i gwmnïau ynni.
- Cynyddu’r budd-daliadau plant gan £20 yr wythnos.
- Ailymuno â’r Farchnad Sengl.
- Iechyd: Ariannu 500 o feddygon teulu. Er bod iechyd wedi’i ddatganoli, mae faint o arian mae Cymru’n ei gael i wario ar iechyd yn dibynnu ar faint sy’n cael ei ddyrannu tuag at iechyd yn Lloegr.
- Mewnfudo: Cael gwared ar gynllun Rwanda.
- Yr amgylchedd: Cyrraedd sero-net erbyn 2035, a rhoi mwy o rym i Gymru dros eu hadnoddau ynni.
- Rhyngwladol: Galw am gadoediad yn Gaza.
- Amddiffyn: Gwrthwynebu adnewyddu Trident, a gwrthwynebu’r cynnydd mewn gwariant ar amddiffyn.
- Y system gyfiawnder: Datganoli plismona i Gymru.
Plaid Cymru’n “dangos eu bod yn gwrando ar fenywod”
Kiera Marshall, ymgeisydd y Blaid yng Ngorllewin Caerddd, fu’n siarad â golwg yn dilyn lansio maniffesto Plaid Cymru
Y Democratiaid Rhyddfrydol
- Economi: Cynyddu gwariant cyhoeddus, gan wario bron i £27bn yn fwy y flwyddyn erbyn 2029. Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n codi trethi banciau, a chodi arian drwy ddiwygio’r dreth enillion cyfalaf.
- Cael gwared ar y cyfyngiad dau blentyn sy’n effeithio ar Gredyd Cynhwysol a’r Credyd Treth Plant. Maen nhw’n bwriadu diwygio’r Lwfans i Ofalwyr, gan ei gynyddu £20 yr wythnos a’i agor i fwy o bobol.
- Ailymuno â’r Farchnad Sengl.
- Mewnfudo: Cael gwared ar y cynllun Rwanda.
- Yr amgylchedd: Cyrraedd sero net erbyn 2045, gan gyflwyno ynni solar a gwynt yn gyflymach fel bod 90% o drydan y Deyrnas Unedig yn cael ei wneud gan ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030.
- Y system gyfiawnder: Creu system gyfiawnder fwy effeithlon a chefnogol drwy gynyddu gwariant, gosod targedau a chyflwyno diwygiadau i sicrhau bod gan lysoedd ddigon o staff.
- Materion cymdeithasol: Cydnabod hunaniaethau anneuaidd a gwahardd therapi trosi.
- Gwleidyddiaeth: Caniatáu i bobol 16 oed bleidleisio (mewn Etholiadau Cyffredinol – mae hyn yn berthnasol i etholiadau Senedd Cymru yn barod), a chyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol.
Y Democratiaid Rhyddfrydol yn addo £760m ychwanegol i Gymru bob blwyddyn
“Gallen ni ei ddefnyddio i achub y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, trwsio’r argyfwng gofal a deintyddol, a chodi ein ffermwyr”
Y Blaid Werdd
- Economi: Cyflwyno treth newydd ar asedau dros £10m, 1% y flwyddyn ar asedau pobol â mwy na £10m, a 2% i’r rhai â mwy na £1bn.
- Codi Yswiriant Gwladol uwch o 8% ar bobol sy’n gwneud mwy na £50,270 y flwyddyn.
- Yr amgylchedd: Cyrraedd sero net erbyn 2040. Yn wahanol i’r pleidiau eraill, maen nhw eisiau cael gwared ar ynni niwclear. Maen nhw’n bwriadu cyrraedd y targed drwy gyflwyno mwy o ynni gwynt ar y môr, a chynnydd mawr mewn ynni gwynt a solar ar y tir.
- Amddiffyn: Cael gwared ar Trident, ond aros yn Nato.
- Trafnidiaeth: Cyflwyno treth ar bobol sy’n hedfan yn aml, i ostwng effaith y 15% o bobol sy’n cymryd 70% o’r hediadau. Stopio cynlluniau i ehangu meysydd awyr. Gwahardd hediadau domestig ar gyfer teithiau fyddai’n cymryd llai na thair awr ar drên.
Rhaid “gwthio Llafur i fod yn ddewrach”, medd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru
Anthony Slaughter wedi bod yn siarad â golwg360 ar ôl lansio maniffesto’r blaid yn Brighton
Reform UK
- Mewnfudo: Rhewi mewnfudo “dianghenraid”. Gwahardd myfyrwyr rhag dod â phartneriaid a phlant efo nhw, a byddai rhaid i gyflogwyr dalu 20% o Yswiriant Gwladol ar weithwyr o dramor (o gymharu â’r 13.8%) ar ddinasyddion Prydeinig. Byddai eithriadau i weithwyr iechyd a gofal, a busnesau bach iawn. Maen nhw hefyd yn dweud y byddan nhw’n “pigo mewnfudwyr anghyfreithlon o gychod a mynd a nhw’n ôl i Ffrainc”, heb fwy o esboniad.
- Economi: Torri trethi i fusnesau bach, gan gynnwys codi’r trothwy i fusnesau gael eu cofrestru i dalu Treth Ar Werth o £90,000 i £150,000.
- Cael gwared ar ffi drwydded y BBC.
- Yr amgylchedd: Maen nhw hefyd yn bwriadu arbed arian drwy gael gwared ar dargedau net sero.
- Hawliau Dynol: Gadael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.