Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan wedi addo cyllid ychwanegol o £760m i Gymru, wrth iddyn nhw lansio’u maniffesto ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.
Byddai cynlluniau treth a gwariant y blaid yn gweld £760m o gyllid ychwanegol bob blwyddyn, medden nhw.
Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd yn cyhoeddu eu maniffesto yn fuan, gan osod blaenoriaethau’r blaid.
‘Llanast y Ceidwadwyr’
“Mae’n fuddsoddiad mawr positif y gallen ni ei ddefnyddio i achub y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, trwsio’r argyfwng gofal a deintyddol, a chodi ein ffermwyr,” meddai Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
“Byddwn yn talu amdano yn deg hefyd, oherwydd byddai’n anghywir gofyn i deuluoedd dalu mwy i glirio llanast y Ceidwadwyr.
“Mae’r Ceidwadwyr wedi camreoli’r economi yn wael ac wedi gwneud yr argyfwng costau byw yn waeth i bawb.
“Tra bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos nad oes modd ymddiried ynddi i wario’ch arian yn ddoeth a’i bod yn methu â chael y pethau sylfaenol yn iawn ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae’n amser am newid, ac mewn cymaint o rannau o’r wlad, rydyn ni wedi dangos mai’r Democratiaid Rhyddfrydol yw’r rhai all gyflawni’r newid hwn.
“Mae pob pleidlais dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn bleidlais i ethol pencampwr lleol cryf fydd yn ymladd dros fargen deg i chi.”