Mae Prifysgol Caerdydd mewn trafodaethau ynghylch rhoi’r gorau i fuddsoddi mewn cwmnïau sydd â chysylltiadau ag Israel.
Ers mis bellach, mae myfyrwyr yno wedi bod yn gwersylla ar lawnt y coleg, gan alw ar y brifysgol i roi’r gorau i’r cysylltiadau hyn.
Cynhaliodd y myfyrwyr eu cyfarfod cyntaf â’r Is-Ganghellor a’r Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr ddydd Iau diwethaf (Mehefin 6).
Daw hyn wedi i’r myfyrwyr fu’n gwersylla y tu allan i Brifysgol Abertawe sicrhau addewid gan weinyddiaeth y brifysgol i gefnu ar Fanc Barclays.
Daeth y penderfyniad yn dilyn protest 28 diwrnod ar y campws yn erbyn Barclays, sydd wedi’u hamau o ddarparu benthyciadau gwerth biliynau o bunnoedd i gwmnïau sy’n darparu arfau i Israel.
Gofynion clir
Dywed y myfyrwyr fod y brifysgol yn “parhau i fynnu nad oes ganddi unrhyw gysylltiadau â chwmnïau arfau”, er bod tystiolaeth gyhoeddus i’r gwrthwyneb, medd y myfyrwyr.
Maen nhw bellach wedi cytuno i rannu’r dystiolaeth gyda’r brifysgol, ac i gwrdd yn rheolaidd yn y gobaith o ddod i gytundeb.
Yn ôl ymchwil y grŵp, tua £55m yw gwerth cysylltiad y brifysgol â chwmnïau arfau ers 2006.
“Mae ein gofynion bob amser wedi bod yn glir,” meddai’r myfyrwyr.
“Datgelu: Mae’n rhaid i Brifysgol Caerdydd ymddihatru a thorri pob cysylltiad â’r holl gwmnïau sy’n cynorthwyo hil-laddiad Israel ar bobol Gaza.
“Ymddihatru: Rhaid i’r brifysgol ddangos tryloywder ariannol llwyr, gan ddangos i fyfyrwyr a staff yn union ble mae ein harian yn mynd a rhoi’r pŵer inni benderfynu ble mae’n cael ei fuddsoddi.
“Ailfuddsoddi: Rhaid i Brifysgol Caerdydd gyhoeddi datganiad yn condemnio’r hil-laddiad a’r scholasticide yn Gaza, ymrwymo cyfran o’i harian i ailadeiladu system addysg Palestina sydd wedi’i ddinistrio, a chreu ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr Palesteinaidd sy’n dymuno mynychu ein prifysgol.
“Cymorth: Rydym yn mynnu rhyddid a diogelwch i’n myfyrwyr a staff fel ei gilydd i drefnu a dangos cefnogaeth o faterion sy’n bwysig i ni, yn ogystal â chynnig cymorth pellach i fyfyrwyr a staff Palesteina yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Hoffem ddiolch i gyd-fyfyrwyr, staff, cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a’r gymuned ehangach yn ein dinas am gefnogi ein gwersyllfa.
“Dim ond trwy ein hymdrechion ar y cyd y bu’r trafod hwn yn bosib wrth roi pwysau ar reolaeth Prifysgol Caerdydd.”