Mae carcharor yng Ngharchar y Parc wedi’i anafu yn dilyn digwyddiad arall yno neithiwr (nos Lun, Mehefin 10).

Roedd adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol fod carcharor wedi’i drywanu, ond mae’r carchar wedi cadarnhau na ddigwyddodd hynny.

Dywed y cwmni diogelwch G4S, sy’n rheoli Carchar y Parc, fod carcharor wedi cael anaf i’w wyneb, ond dydy hi ddim yn glir beth yn union ddigwyddodd.

Bu’n rhaid galw ambiwlans i’r safle, ond dydy bywyd yr unigolyn ddim mewn perygl yn sgil yr anaf, medd G4S.

“Fe wnaeth staff y carchar ymateb yn gyflym i ddigwyddiad neithiwr oedd yn gofyn bod carcharor yn mynd i’r ysbyty,” meddai llefarydd ar ran Carchar y Parc.

Daw hyn wedi i ddeg carcharor farw yn y carchar ers Chwefror 27 – bu farw’r diweddaraf, Warren Manners, ddiwedd Mai (Mai 29).

Galw ar y llywodraeth i gamu i mewn

Cynhaliodd teuluoedd carcharorion brotestiadau y tu allan i’r carchar dros yr wythnosau diwethaf, gan fynnu atebion ynghylch y marwolaethau.

Mae teuluoedd y carcharorion bellach yn galw ar y llywodraeth i gamu i mewn a chymryd rheolaeth dros y carchar.

Mae deiseb yn gwneud yr alwad honno wedi’i llofnodi gan fwy na 1,500 o bobol hyd yn hyn.

“Byswn i’n hoffi gweld y llywodraeth yn mynd i mewn ac yn cymryd drosodd,” meddai Annmarie Alders, mam i garcharor yno wrth golwg360 yn ddiweddar.

“Mae angen arolygiad dirybudd enfawr ar y carchar, ac mae angen i Garchar y Parc ddechrau bod yn onest gyda phobol am y problemau yno.”

Carchar y Parc: “Mae’n frawychus cael fy mab yno”

Elin Wyn Owen

Cafodd tri o garcharorion eu cludo i’r ysbyty ddydd Gwener (Mai 31), yn dilyn digwyddiad yn y carchar lle mae deg o bobol wedi marw ers mis Chwefror