Mae cael llais rhyddfrydol yn “bwysicach nag erioed” mewn cyfnod o “bolareiddio”, yn ôl y cyn-Aelod Cynulliad William Powell, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn Sir Fynwy fis nesaf.

Roedd William Powell yn aelod rhanbarthol o’r Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 2011 a 2016, a bu’n gynghorydd sir ym Mhowys ers degawdau.

Yn ystod ei gyfnod yn y Cynulliad, fel roedd y sefydliad yn cael ei alw ar y pryd, roedd yn llefarydd yr Amgylchedd, Materion Gwledig a Chynllunio i’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac mae’n pwysleisio bod yr amgylchedd a chael y fargen orau i ffermwyr ymysg ei flaenoriaethau yn yr ymgyrch hon hefyd.

Ers i Mark Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y pryd, golli’i sedd yng Ngheredigion i Ben Lake a Phlaid Cymru yn etholiad cyffredinol brys 2017, dydy Cymru heb ethol yr un Aelod Seneddol o’r blaid.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysicach nag erioed i gael llais rhyddfrydol, a negesydd effeithiol dros yr achos rhyddfrydol, yn enwedig pan fo’r Ceidwadwyr wedi mynd mor eithafol i’r dde a phan fo Keir Starmer – rhywun mae gen i barch mawr tuag ato – yn penderfynu defnyddio’r term ‘rhyddfrydol’ fel un israddol,” meddai William Powell, sy’n byw’n agos at y ffin rhwng Powys a Sir Fynwy, wrth golwg360.

“Dyna wnaeth e yn y ddadl ddiwethaf rhwng yr arweinwyr, pan oedd yn cyhuddo Rishi Sunak o fod yn rhyddfrydol ar fewnfudo – roeddwn i’n meddwl bod yr holl beth reit rhyfedd.

“Dyw’r Democratiaid Rhyddfrydol heb gael amser gwych ers tua chanol y degawd diwethaf. Ers y refferendwm [Brexit], mae hi wedi bod yn gyfnod o bolareiddio.

“Ond yn fwyfwy nawr, dw i’n meddwl bod yna awch am lais rhyddfrydol gwirioneddol, ac mae yna le yn y dirwedd wleidyddol i’r traddodiad yna.”

Cynrychiolaeth Gyfrannol

Ychwanega William Powell fod ganddo bryderon am y System Rhestrau Caeëdig sy’n cael ei chyflwyno yn y Senedd ym Mae Caerdydd hefyd, ac y bydd y math hwnnw o Gynrychiolaeth Gyfrannol yn cael effaith negyddol ar bleidiau llai.

“Rydyn ni’n gwrthwynebu’r system rhestrau caeëdig drwy ein harweinydd yn y Senedd, ac mae’n bwysig ein bod ni’n brwydro i sicrhau cynrychiolaeth yn yr etholiad yn San Steffan nawr mewn seddi rydyn ni’n eu targedu, ac eto yn y Senedd ymhen ychydig flynyddoedd.

“Mae nifer o bobol yn gweld y system rhestrau caeëdig a throthwy uchel ar gyfer cael eich ethol fel ymosodiad ar y prif bleidiau llai – y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd yn benodol.

“Bydd y trothwy’n heriol iawn, ac mae’n teimlo fel pe bai’r pleidiau mawr wedi penderfynu cau’r siop o’u plaid nhw eu hunain.”

Amaeth a’r Undeb Ewropeaidd

Mae Sir Fynwy yn agos at galon William Powell am sawl rheswm.

Treuliodd chwe wythnos yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, gan gynnwys tair wythnos yn yr Uned Gofal Dwys, yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

“O ran Sir Fynwy, lle mae gennym ni un o arweinwyr y Ceidwadwyr yma yn David TC Davies, mae hi’n bwysig iawn bod gan bobol yn y canol ddewis gwirioneddol yn yr etholiad hwn,” meddai wedyn.

“Mae’n amlwg fod Llafur wedi colli’u hawch dros bolisïau radical mewn sawl maes, gan gynnwys ar yr amgylchedd ac adfer ein cysylltiadau â’r Undeb Ewropeaidd.”

Ymhlith ei flaenoriaethau mae’r amgylchedd.

Mae Afon Gwy ac Afon Wysg yn llifo drwy Sir Fynwy – dwy afon sydd â lefelau uchel o lygredd.

“Mae hi’n ardal amaethyddol iawn hefyd, ac maen nhw wedi cael eu problemau â chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ond mae hynny i gyd wedi cael ei roi at ei gilydd yn sgil y penderfyniad – yn erbyn dymuniad pobol Sir Fynwy, wnaeth bleidleisio i aros – yn y refferendwm dodgy yna i adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai, gan ychwanegu ei fod yn awyddus i weld y Deyrnas Unedig yn ymuno â’r Farchnad Sengl.

Dywed bod cefnogaeth amlwg tuag at hynny ymhlith ffermwyr ac etholwyr yn lleol.

‘Dadradicaleiddio gwleidyddiaeth’

Mae William Powell hefyd yn galw am ddadradicaleiddio gwleidyddiaeth, ac mae’n cefnogi ‘Addewid Cwrteisi’ Ymddiriedolaeth Jo Cox.

Cafodd Jo Cox, oedd yn Aelod Seneddol Llafur, ei llofruddio ychydig ddyddiau cyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.

Dywed William Powell ei fod yn adnabod Jo Cox cyn iddi ddod yn aelod seneddol, a’i fod wedi dod i adnabod Sir David Amess, Aelod Seneddol Ceidwadol gafodd ei lofruddio yn 2021.

“Rydyn ni mewn cyfnod o raniadau, pan fo pobol yn trio creu mwy o raniadau,” meddai.

“Roedd yn flaenoriaeth i fi, ac mae hi’n bwysig ein bod ni’n cofio bod gennym ni fwy yn gyffredin na’r hyn sy’n ein gwahanu ni, er nad yw hi’n ymddangos felly o hyd.”