Wrth i blant ledled Cymru a thu hwnt ddathlu’r Diwrnod Rhyngwladol Chwarae cyntaf erioed, mae sefydliad yn galw ar ysgolion Cymru i roi mwy o amser i blant chwarae.
Gyda’i gilydd, mae International Play Association (IPA) Cymru a Chwarae Cymru yn gofyn i ysgolion roi amser ychwanegol i bob plentyn chwarae – er enghraifft, drwy ymestyn yr egwyl ginio neu ddarparu amser chwarae ychwanegol.
Dywed plant fod amser chwarae yn rhan bwysig o’r diwrnod ysgol, ac mewn ymchwil ledled Cymru ar amser chwarae mewn ysgolion, dywedodd:
- 98% o’r plant gafodd eu holi eu bod yn edrych ymlaen at amser chwarae yn yr ysgol
- 82% eu bod nhw’n arbennig o hoff o amser chwarae gan ei fod yn caniatáu iddyn nhw dreulio amser gyda’u ffrindiau
- 61% o blant eu bod nhw wedi colli amser chwarae ar ryw adeg. Y rhesymau mwyaf cyffredin am hyn yw er mwyn dal i fyny â’u gwaith, neu oherwydd bod athro yn teimlo’u bod wedi camymddwyn.
Helpu’n gorfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol
Mae chwarae yn ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant, yn ôl IPA Cymru ac elusen Chwarae Cymru.
Maen nhw’n credu y gallai ysgolion wneud cyfraniad sylweddol at iechyd a lles plant drwy ddiogelu eu hamser chwarae.
“Mae angen i ni roi mwy o gyfleoedd i blant chwarae – nid yn unig ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae, ond bob diwrnod o’r flwyddyn,” meddai Marianne Mannello, ysgrifennydd cangen IPA Cymru Wales.
“Yn ystod y diwrnod ysgol, dylai plant gael digon o amser a lle i chwarae’n rhydd gyda’u ffrindiau.
“Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn ddiwrnod ysgol eleni, felly mae’n gyfle perffaith i ysgolion ddiogelu amser chwarae a meddwl sut y gellir ymgorffori mwy o amser ar gyfer chwarae ym mhob diwrnod.”
Yn ôl Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru, mae gan ysgolion yng Nghymru “ran fawr i’w chwarae wrth hyrwyddo’r hawl i blant ac arddegwyr chwarae”.
“Pan wnaethom ofyn iddyn nhw, dywedodd y rhan fwyaf o blant fod amser chwarae yn rhan bwysig o’r diwrnod ysgol ac maen nhw’n hoff iawn o amser chwarae gan ei fod yn caniatáu iddyn nhw dreulio amser gyda’u ffrindiau,” meddai.
“Fodd bynnag, mae gormod o blant yn dweud eu bod wedi colli amser chwarae er mwyn dal i fyny â’u gwaith neu oherwydd bod athro yn teimlo eu bod wedi camymddwyn.
“Rydym yn annog pob ysgol i sicrhau bod pob plentyn yn cael digon o amser i chwarae yn yr ysgol, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae, a phob dydd.”