Mae ymchwil newydd wedi cadarnhau bod rhoi genedigaeth yn y dŵr mor ddiogel â gadael y dŵr cyn geni i’r menywod hynny sydd â beichiogrwydd heb gymhlethdod.
Astudiodd ymchwilwyr brofiadau geni dros 87,000 o fenywod â beichiogrwydd heb gymhlethdod aeth i’r dŵr yn ystod y cyfnod esgor i fod yn fwy cyfforddus ac er mwyn lleddfu’r boen.
Nod yr astudiaeth oedd canfod a yw aros yn y dŵr i roi genedigaeth yr un mor ddiogel i famau a’u babanod â gadael y dŵr cyn geni.
Angen astudiaeth ymchwil fawr
“Yn y Deyrnas Unedig, mae tua 60,000 o fenywod y flwyddyn yn defnyddio pwll neu fath geni i leddfu’r boen yn y cyfnod esgor, ond roedd rhai bydwragedd a meddygon yn pryderu y gallai rhoi genedigaeth yn y dŵr achosi risgiau ychwanegol,” meddai’r Athro Julia Sanders, Athro Bydwreigiaeth Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac arweinydd y tîm ymchwil.
“Mae adroddiadau y gallai babanod fynd yn ddifrifol wael, neu hyd yn oed farw, ar ôl cael eu geni yn y dŵr, a bod mamau yn fwy tebygol o rwygo’n ddifrifol neu golli llawer o waed, ond does dim ymchwil sylweddol yn y Deyrnas Unedig i gadarnhau hyn.
“Felly, roedd angen astudiaeth ymchwil fawr i edrych ar ddiogelwch geni mewn dŵr.
“Ein nod oedd sefydlu a yw rhoi genedigaeth yn y dŵr gyda chymorth bydwragedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mor ddiogel â gadael y dŵr a rhoi genedigaeth i fenywod a’u babanod lle mae’r risg o gymhlethdodau’n isel.”
Canolbwyntiodd astudiaeth POOL, gafodd ei harwain gan Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a Chanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd, ar gofnodion y Gwasanaeth Iechyd gan 87,040 o fenywod ddefnyddiodd bwll yn y cyfnod esgor rhwng 2015 a 2022, mewn 26 o sefydliadau dan ofal y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr.
Astudiodd yr ymchwilwyr gyfraddau rhwygiadau difrifol roedd menywod yn eu profi, cyfraddau’r babanod roedd angen gwrthfiotigau neu gymorth i anadlu mewn uned newyddenedigol arnyn nhw, yn ogystal â chyfraddau’r babanod oedd yn marw.
“Prif nod ein hastudiaeth oedd ateb cwestiwn sy’n cael ei ofyn yn gyffredin gan fenywod sy’n defnyddio pwll neu fath geni yn ystod y cyfnod esgor, sef a ddylen nhw aros yn y dŵr neu adael y dŵr i roi genedigaeth os yw’r cyfnod esgor yn parhau heb gymhlethdodau,” meddai’r Athro Julia Sanders.
“O ran y menywod a oedd yn rhan o’n hastudiaeth, gadawodd rhai y pwll i gael gofal meddygol ychwanegol neu fwy o gymorth i leddfu’r boen.
“Roedd y rhan fwyaf o’r menywod a ddaeth allan o’r pwll i gael gofal meddygol ychwanegol yn famau am y tro cyntaf.
“Aeth un o bob tair o’r rhain allan o’r pwll i gael gofal meddygol ychwanegol, o’u cymharu ag un o bob ugain o’r menywod a oedd wedi rhoi genedigaeth yn flaenorol.”
Y data
Yn gyffredinol, daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad fod tua hanner yr holl fenywod ddefnyddiodd bwll yn y cyfnod esgor wedi rhoi genedigaeth yn y dŵr.
Dangosodd yr ymchwilwyr fod tua un ym mhob ugain o famau tro cyntaf, ac un ym mhob cant o famau’n cael eu hail, trydydd neu bedwerydd babi, wedi cael rhwyg difrifol.
Roedden nhw hefyd wedi canfod fod angen gwrthfiotigau neu gymorth anadlu mewn uned newyddenedigol ar ôl cael eu geni ar ryw dri ym mhob cant o fabanod, ac roedd marwolaethau babanod yn anghyffredin.
Ond roedd cyfraddau’r rhain a chymhlethdodau eraill yn debyg ar gyfer genedigaethau yn y dŵr ac allan o’r dŵr.
Dangosodd eu data fod cyfraddau genedigaeth Gesaraidd yn isel – llai na 6% ar gyfer mamau oedd yn rhoi genedigaeth am y tro cyntaf, a llai nag 1% ar gyfer mamau’n cael eu hail, trydydd neu bedwerydd babi.
“O ystyried bod 10% o fenywod yn mynd i’r dŵr i leddfu’r boen yn y cyfnod esgor, bydd gan ganlyniadau’r astudiaeth hon oblygiadau i filoedd o fenywod y flwyddyn yn y Deyrnas Unedig a llawer mwy ledled y byd, lle mae’n gyffredin i fynd i’r dŵr yn ystod y cyfnod esgor,” meddai’r Athro Peter Brocklehurst, Athro Emeritws Iechyd Menywod yn Uned Treialon Clinigol Birmingham.
“Mae llawer o bediatryddion a neonatolegwyr yn poeni y gallai geni mewn dŵr achosi risgiau ychwanegol i’r babanod, ond mae’r astudiaeth yn ein hargyhoeddi nad yw hyn yn wir yn achos beichiogrwydd anghymhleth,” meddai’r Athro Chris Gale, Neonatolegydd Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth Sefydledig Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ysbyty Chelsea a Westminster yn Llundain.
“Roedd ein hymchwil wedi sefydlu, o safbwynt gwyddonol, nad oedd rhoi genedigaeth yn y dŵr yn gysylltiedig â chynnydd mewn risg i’r fam a’r babi,” meddai’r Athro Julia Sanders.
“Wrth ymchwilio i ddata’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol o fwy nag 87,000 o enedigaethau yng Nghymru a Lloegr, rydyn ni wedi gallu darparu gwybodaeth all roi’r grym yn nwylo mamau a bydwragedd, a’u cefnogi, wrth wneud penderfyniadau yn ystod y cyfnod esgor.”