Mae academydd yn galw ar y Senedd i gyflwyno ‘cell gosb’ er mwyn cosbi Aelodau sy’n camymddwyn.

Rhoddodd Jonathan Tonge, Athro ym Mhrifysgol Lerpwl, dystiolaeth i ymchwiliad y Senedd i greu system adalw i alluogi pleidleiswyr i symud aelodau o’u swyddi rhwng etholiadau.

Cododd e bryderon am ddefnyddio gwaharddiad o ddeng niwrnod neu fwy fel un o’r meini prawf ar gyfer dechrau deiseb o dan system adalw San Steffan.

Dywedodd wrth y Pwyllgor Safonau fod y terfyn “di-awch, mympwyol” yn creu ymyl y dibyn, wrth iddo alw am ddull “miniog” fel “cell gosb”, gyda sancsiynau gwahanol ar gyfer gwaharddiadau deg i 30 diwrnod.

Fe wnaeth e dynnu cymhariaeth rhwng sancsiynau gweddol ysgafn, megis dileu hawliau a breintiau, llai na deng niwrnod a chosb “ddrastig a draconaidd” dros y trothwy.

‘Gwrth-ddemocrataidd’

Rhybuddia’r Athro Gwleidyddiaeth ei bod hi’n “anodd iawn, iawn i’r drwgweithredwr ‘oroesi”, gan dynnu sylw at y ffaith mai un aelod seneddol yn unig sydd wedi aros yn ei swydd yn dilyn deiseb ad-alw.

Gofynnodd Vikki Howells, sy’n cadeirio’r pwyllgor, a ddylai Aelodau o’r Senedd sy’n symud i blaid arall yn dilyn etholiad fod yn destun ad-alw.

O 2016 i 2021, symudodd o leiaf 10% o Aelodau o leiaf unwaith – gyda Mark Reckless yn cynrychioli UKIP, y Ceidwadwyr, Plaid Brexit a Diddymu Cynulliad Cymru.

Dywed yr Athro Jonathan Tonge y dylai symud fod yn rheswm dros ad-alw, yn enwedig o dan y system etholiadol rhestrau caeëedig, fydd yn gweld pobol yn pleidleisio dros bleidiau yn hytrach nag ymgeiswyr o 2026.

“Os oes gennych chi system rhestrau pleidiol, a bod rhywun wedi sefyll dros eu plaid ac wedyn yn symud, gall etholwyr ei chael hi’n anodd deall dilysrwydd hynny,” meddai wrth y pwyllgor.

“Mewn nifer o ffyrdd, mae’n annemocrataidd.”

‘Drwgweithredu’

Wrth ymateb i gwestiwn gan Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru ynghylch sut y gallai system ad-alw weithio yn y Senedd, dywedodd yr Athro Jonathan Tonge mai opsiwn syml fyddai cyd-ethol olynydd o restrau’r pleidiau.

Dywedodd fod cynnal is-etholiadau’n golygu y gallai pleidiau gael eu cosbi am ymddygiad unigolion.

Ond rhybuddiodd y byddai’n fwy o ddeiseb ddileu yn hytrach nag ad-alw, oherwydd fyddai Aelodau’r Senedd ddim yn gallu brwydro is-etholiad er mwyn clirio’u henwau yn San Steffan.

Dywedodd wrth aelodau’r pwyllgor nad yw’n “ffan enfawr o gyd-ethol”, gan bwysleisio’i bod hi’n bosib cynnal is-etholiadau o dan system cynrychiolaeth gyfrannol.

Tynnodd yr arbenigwr sylw at enghraifft Iwerddon yn cynnal 138 o is-etholiadau ers 1923, gyda seddi’n newid dwylo ym mron i hanner yr enghreifftiau hynny.

‘Anorchfygol’

Fe fu’n dadlau dros gynyddu’r trothwy o 10% o bleidleiswyr yn llofnodi deiseb i 15%, pe bai olynwyr yn cael eu cyd-ethol o dan system lwyr gyfrannol newydd Cymru.

Awgrymodd Mark Drakeford bleidlais syml rhwng ‘cadw’ neu ‘ddisodli’, gyda throthwy o 20% i sicrhau bod cyfran resymol o’r etholwyr yn cymryd rhan.

Mae’r Athro Jonathan Tonge yn gyndyn ynghylch codi’r trothwy’n rhy uchel, gan rybuddio y gallai fod yn anodd cael 20% o’r pleidleiswyr i droi allan.

“Fyddwn i ddim am ddechrau gwneud y trothwy’n anorchfygol,” meddai’r academydd.

Cyfeiriodd at y ffaith fod 18.9% wedi llofnodi deiseb i gynnal is-etholiad yn Senedd y Deyrnas Unedig ym Mrycheiniog a Maesyfed yn 2019, ar ôl i aelod seneddol gael ei ganfod yn euog o hawlio treuliau ffug.

‘Llesteirio’

Wrth gael ei holi gan y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford am derfynau gwario, dywedodd yr Athro Jonathan Tonge fod cap o £10,000 ar wariant gan ymgyrchwyr yn ymddangos yn rhesymol.

Dywedodd wrth Mark Drakeford fod gwariant ar ddeisebau ad-alw wedi bod yn gymedrol oherwydd nad oes gan ymgyrchwyr hawl, yn gwbl briodol, i ddarparu sylwebaeth wrth fynd yn eu blaenau.

“Mae pleidiau wedi canfod eu hunain wedi’u llesteirio i raddau o ran yr hyn maen nhw’n cael ei wneud, ac efallai bod hynny’n egluro pam nad ydyn nhw wedi gwario llawer o arian hyd yn hyn yn ymgyrchu,” meddai.

Ychwanegodd yr Athro Jonathan Tonge fod pleidiau’n gwybod ei bod hi’n debygol iawn y bydd y trothwy o 10% yn cael ei gyrraedd.

Eglurodd fod y trothwy wedi’i gyrraedd yn gyfforddus ers deiseb Gogledd Antrim yn 2018, oedd yn eithriadol oherwydd gwleidyddiaeth benodol Gogledd Iwerddon.

‘Cyfle gwych’

Fe ddisgrifiodd yr Athro Jonathan Tonge nifer ad-hoc y gorsafoedd pleidleisio i bobol gael cofrestru’n bersonol, fel gwall ym model San Steffan, sy’n cyfateb i’r rhai sy’n troi allan.

Rhybuddiodd y gall deisebau ad-alw fod yn gostus, gyda’r rhai drutaf yn costio £500,000 ond dywed ei fod yn fater o “gydbwysedd”.

“Dydych chi ddim eisiau torri costau ar ddemocratiaeth,” meddai.

Wrth gael ei holi gan Natasha Asghar o’r Ceidwadwyr am enghreifftiau o arfer da, pwysleisiodd nad yw’r un sefydliad wedi taro’r hoelen ar ei phen 100% o ran ad-alw, ac y bydd yna eithriadau bob amser.

Ond dywedodd wrth y pwyllgor “nad yn aml y bydd y geiriau hyn yn gadael fy ngwefusau, ond dw i’n credu ar y cyfan fod San Steffan wedi cael hyn yn iawn”.

“Dw i’n credu bod gennych chi gyfle gwych yma… i gywiro’r manylion oedd yn anghywir gan San Steffan wrth gadw’r 80%+ roedd San Steffan wedi ei gael yn iawn,” meddai.