Ar drothwy’r etholiad cyffredinol fis nesaf, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi eu haddewidion ar gyfer cymunedau cefn gwlad.

Yn ôl y Blaid, byddan nhw’n llais yn San Steffan ar gyfer y Gymru wledig.

Maen nhw’n dweud bod cymunedau gwledig yn wynebu heriau penodol sy’n ymwneud â phellter pobol o wasanaethau allweddol, diffyg cyfleoedd gwaith, incwm isel, premiwm gwledig, diffyg seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, ac ynysu cymdeithasol.

Addewidion

Dywed Plaid Cymru y byddan nhw’n:

  • cynyddu nifer y meddygon teulu i helpu cymunedau gwledig i gael mynediad at y gofal iechyd sydd ei angen arnyn nhw
  • buddsoddi yn y stryd fawr i gadw siopau, tafarndai a chanolfannau cymunedol ar agor wrth iddyn nhw wynebu bygythiad oherwydd costau cynyddol
  • sefydlu Cwmni Seilwaith Band Eang Cymreig i wella cysylltedd digidol gwledig
  • sefydlu tîm troseddau gwledig arbenigol Cymru gyfan, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
  • ad-drefnu’r Cynllun Rhyddhad Treth ar Danwydd Gwledig i fynd i’r afael â chostau tanwydd uchel yn absenoldeb cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus

‘Ar ochr Cymru wledig’

“Plaid Cymru fydd llais cefn gwlad Cymru yn San Steffan,” meddai Ann Davies, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Caerfyrddin yn San Steffan.

“Ni yw’r unig blaid sy’n addo cyllid teg i Gymru i sicrhau mwy o fuddsoddiad yn ein strydoedd mawr lleol ac i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu mewn cymunedau gwledig.

“Rwy’n falch o fod yn arwain y cyhuddiad yn erbyn peilonau Dyffryn Tywi a Dyffryn Teifi i ddiogelu ein cefn gwlad hardd ac i sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn eiddo i’n cymunedau, er budd ein cymunedau – yn hytrach na’u tynnu i leinio pocedi corfforaethau mawr.

“Nid yw’r Torïaid na’r Blaid Lafur ar ochr Cymru wledig.

“Mae 14 blynedd o reolaeth y Torïaid wedi gweld ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri i’r briw, a miloedd o aelwydydd yng Nghymru yn cael eu gwthio i dlodi.

“A Llafur? Wel, dydyn nhw ddim yn deall cymunedau gwledig.

“Rwy’n falch o’m record am ddarparu ar gyfer cymunedau gwledig ledled Sir Gaerfyrddin, gyda chyfrifoldeb dros fenter Deg Tref Cyngor Sir Caerfyrddin dan arweiniad Plaid Cymru i gefnogi adferiad economaidd a thwf trefi gwledig, ac wrth sefyll i fyny i gwmnïau mawr sy’n dymuno defnyddio ein hadnoddau a’n cefn gwlad ar gyfer elw eu hunain.

“Byddai’n anrhydedd parhau â’r gwaith yma fel AS, rhoi llais i bobl Caerfyrddin yn San Steffan a mynnu tegwch i gefn gwlad Cymru.”

Beirniadu Llafur a’r Ceidwadwyr

“Rydyn ni’n gwybod nad hyn yw’r gorau sydd i gartrefi a busnesau Ynys Môn,” meddai Llinos Medi, ymgeisydd Plaid Cymru ar Ynys Môn.

“Mae gan y Torïaid lawer i’w ateb amdano o ran effaith Brexit ar ein hynys a’r colledion swyddi o ganlyniad.

“Yn y cyfamser, mae Llafur yn anghofus am brofiadau byw cymunedau gwledig.

“Bydd aelodau seneddol Plaid Cymru yn pwyso am fuddsoddiad mewn cysylltiadau digidol ar gyfer ardaloedd gwledig a chyllid ehangach i fynd i’r afael â chysylltiadau band eang gwael a signal 4G.

“Rydym hefyd yn deall effeithiau prisiau tanwydd uchel a dyna pam rydym yn addo mynnu ad-drefnu’r cynllun Rhyddhad Dyletswydd Tanwydd Gwledig fel y gall busnesau a phobol mewn cymunedau gwledig yng Nghymru deimlo budd petrol rhatach – yn enwedig o ystyried diffyg cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ar yr ynys.

“Bydd Plaid Cymru bob amser yn sefyll ochr yn ochr â Chymru wledig ac yn sefyll i fyny i bleidiau Llundain sy’n parhau i anwybyddu anghenion Cymru.”