Mae 69% o ysgolion Cymru wedi wynebu toriadau mewn termau real i’w cyllid ers 2010, yn ôl ymchwil newydd.

Mae cyfanswm o 922 o ysgolion yng Nghymru wedi wynebu toriadau, gyda chyllid termau real fesul disgybl yn gostwng £343 (7%) ar gyfer disgyblion cynradd, £388 (7%) ar gyfer ysgolion uwchradd, a £411 (2%) ar gyfer ysgolion arbennig.

Mae’r wefan Toriadau Ysgolion yn cael ei rhedeg gan undebau addysg Cenedlaethol yr Undeb Addysg, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau ac undeb arweinwyr ysgolion, NAHT, ac mae’n cael ei chefnogi gan Parentkind a’r Gymdeithas Llywodraethiant Cenedlaethol.

Er mwyn adfer y cyllid yn ôl i lefelau 2010/11 mewn termau real ar gyfer pob ysgol yng Nghymru, byddai angen buddsoddiad o £154m.

‘Difetha ysgolion’

Ar drothwy’r etholiad cyffredinol, mae’r sefydliadau y tu ôl i wefan Toriadau Ysgolion yn galw ar y cyd ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i gynllun i fuddsoddi’r arian sydd ei angen mewn addysg i ddileu pob toriad i ysgolion.

“Mae ysgolion yng Nghymru yn wynebu sefyllfa gyllido enbyd,” meddai Eithne Hughes, Cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru.

“Mae wir angen buddsoddi mwy mewn addysg i helpu ysgolion i gefnogi eu holl ddisgyblion a chyflwyno rhestr gynyddol o ddiwygiadau.

“Mae’r toriadau niweidiol hyn yn helpu i esbonio pam mae ysgolion Cymru’n cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau amhosib, fel a ddylid diswyddo athrawon a chynorthwywyr, neu leihau’r cwricwlwm – dyw’r un ohonyn nhw yn dda ar gyfer dysgu disgyblion na morâl a lles staff.

“Cyn yr etholiad cyffredinol, mae angen i bob plaid ac ymgeisydd ymrwymo i sicrhau bod buddsoddiad mewn addysg plant yn cael blaenoriaeth, ac mae’n amlwg nad yw fformiwla Barnett, lle mae Cymru’n cael ei hariannu gan Drysorlys y Deyrnas Unedig, yn ffafrio’r wlad ac mae angen ei adolygu ar frys.”

‘Tanariannu’

“Mae tanariannu addysg dros y 14 mlynedd diwethaf gan lywodraeth y DU wedi cael sgil-effeithiau amlwg ar fyfyrwyr a staff yng Nghymru,” meddai Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Dros Dro yr Undeb Addysg Genedlaethol.

“Mae addysg yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd iawn.

“Mewn termau real, mae toriadau i’r cyllidebau addysg ledled y wlad.

“Mae toriadau cyflog termau real wedi bod yn ganolog i lawer o’r materion sy’n difetha ysgolion.

“Mae’n effeithio ar recriwtio, gyda Llywodraeth Cymru yn methu â chyrraedd ei thargedau hyfforddi flwyddyn ar ôl blwyddyn.

“Rydyn ni hefyd yn gweld athrawon yn gadael mewn grwpiau, a gormod ohonyn nhw ond llond llaw o flynyddoedd ar ôl cymhwyso.

“Cyn yr etholiad hwn, byddwn yn lobïo pob plaid wleidyddol i sicrhau bod cynllun ariannu hirdymor yn cael ei weithredu, a fyddai’n gweld twf mewn termau real mewn cyllid ar gyfer addysg yng Nghymru.”